Fy ngwlad:

Gwybodaeth i Staff

Ymuno â'r Gampfa

Rydym yn cynnig amrywiaeth o opsiynau aelodaeth i staff Prifysgol Bangor.

Ymuno Heddiw

Hyfforddiant Ymsefydlu y Gampfa

Dysgwch sut i ddefnyddio'r offer yn y gampfa yn ddiogel i gael gwneud y gorau o'ch amser yma.

darganfod mwy

Llun yn dangos traed mewn esgidiau yn cerdded ar lwybr pren
Credit:Llun gan Tobi: www.pexels.com/photo/person-stands-on-brown-pathway-631986/

Rhaglen Staff Actif

Mae ein rhaglen Staff Actif yn cynnig amrywiaeth eang o weithgareddau ffitrwydd i staff Prifysgol Bangor. Ymunwch ag un o’n gweithgareddau hwyliog, gan gynnwys Bootcamp Staff, Taith Llesiant a Phêl-droed Pump-bob-ochr. Gall y digwyddiadau sydd ar gael newid, felly ewch i dudalen Staff Actif am y wybodaeth ddiweddaraf.
 

group exercise class

Dosbarthiadau Ffitrwydd

Mae ein dosbarthiadau ffitrwydd yn agored i bawb. O HITT81, sbin a ioga i’n rhaglen o’r Soffa i 5C, mae rhywbeth at ddant pawb.

Myfyrwyr yn chwarae pêl rwyd yng Nghanolfan Brailsford

Cyfleusterau Chwaraeon

Mwynhewch ein cyrtiau Sboncen a Thennis, neu manteisiwch ar ein neuadd Pêl-rwyd a Phêl-fasged. Mae gennym hefyd gae pêl-droed Astro. Gallwch hefyf logi offer chwaraeon.

Myfyriwr yn dringo'r wall ddringo yng Nghanolfan Brailsford

Cyrsiau Dringo

Ymunwch â’n cyrsiau dringo chwe wythnos ar gyfer oedolion a phlant (oedran 7–16). Os ydych yn ddechreuwr neu’n awyddus i wella eich sgiliau, bydd ein hyfforddwyr profiadol yn eich tywys trwy’r hanfodion, gan eich helpu i ddysgu’r rhaffau a meithrin hyder ar y wal.

Myfyrwyr yn eistedd ar y meinciau yn sgwrsio yn un o'r neuaddau chwaraeon yng Nghanolfan Brailsford. Mae un yn gafael mewn pêl fasged.

Archebu Gweithgaredd

Archebu gweithgaredd neu gyfleuster Canolfan Brailsford nawr.