Fy ngwlad:

Gwybodaeth i Fyfyrwyr

Pobl yn defnyddio'r offer yn y gampfa, Canolfan Brailsford

Ymuno â'r Gampfa

Mae aelodaeth o'r gampfa yn rhad ac am ddim i fyfyrwyr sy’n byw yn Neuaddau Prifysgol Bangor, ac mae gennym sawl opsiwn aelodaeth ar gael i fyfyrwyr sy’n byw mewn llety preifat.

Ymuno nawr

group exercise class

Dosbarthiadau Ffitrwydd

Mae ein dosbarthiadau ffitrwydd yn agored i bawb. O HITT81, sbin a ioga i’n rhaglen o’r Soffa i 5C, mae rhywbeth at ddant pawb.

Myfyrwyr yn chwarae pêl rwyd yng Nghanolfan Brailsford

Cyfleusterau Chwaraeon

Mwynhewch ein cyrtiau Sboncen a Thennis, neu manteisiwch ar ein neuadd Pêl-rwyd a Phêl-fasged. Mae gennym hefyd gae pêl-droed Astro. Gallwch hefyf logi offer chwaraeon.

Myfyriwr yn dringo'r wall ddringo yng Nghanolfan Brailsford

Cyrsiau Dringo

Ymunwch â’n cyrsiau dringo chwe wythnos ar gyfer oedolion a phlant (oedran 7–16). Os ydych yn ddechreuwr neu’n awyddus i wella eich sgiliau, bydd ein hyfforddwyr profiadol yn eich tywys trwy’r hanfodion, gan eich helpu i ddysgu’r rhaffau a meithrin hyder ar y wal.

Student playing basketball

Undeb Athletau

Mae'r Undeb Athletau yn rhan o Undeb y Myfyrwyr ac yn cynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd chwaraeon i fyfyrwyr.

 Myfyriwr yn rhedeg

Cynllun Athletwyr Elît

Mae ysgoloriaethau a bwrsariaethau ar gael i’ch cefnogi yn eich gyrfa chwaraeon.

Badminton

Chwaraeon Campws

Rhaglen o ddigwyddiadau am ddim i fyfyrwyr Prifysgol Bangor. Ymunwch â’r gweithgareddau, cyfarfod â phobl a gwneud ffrindiau newydd.