Fy ngwlad:
Business meeting

Graddau Busnes yn Clirio 2026

Eisiau astudio mewn amgylchedd bywiog, cefnogol a chael eich addysgu gan arbenigwyr gyda phrofiad byd-go-iawn yn y diwydiant? Yna archwiliwch ein hystod o gyrsiau Clirio Busnes ym Mhrifysgol Bangor.

P'un a ydych chi'n angerddol am reolaeth, entrepreneuriaeth, marchnata neu dwristiaeth, mae ein cyrsiau Busnes wedi'u hadeiladu i gyd-fynd â'ch uchelgeisiau a'ch helpu i ffynnu mewn byd cystadleuol.

Mwy o wybodaeth am Clirio

Pam astudio Busnes a Rheolaeth trwy Glirio ym Mhrifysgol Bangor?

Mae ein graddau Busnes a Rheolaeth wedi’u cynllunio i roi’r sgiliau, hyder, a safbwynt byd-eang sydd eu hangen arnoch i lwyddo yn y byd cyflym heddiw.

Myfyriwr a darlithydd yn edrych ar wybodaeth fasnachu ar un o derfynellau Bloomberg yn y Llawr Masnachu.

 

  • Cyrsiau Perthnasol i’r Diwydiant: O Reolaeth Busnes a Marchnata i Fenter Fusnes ac Entrepreneuriaeth, mae ein graddau wedi’u siapio gan ofynion y byd go iawn a thueddiadau’r dyfodol.
  • Addysgu Arbenigol: Dysgwch gan academyddion sydd â phrofiad rhyngwladol ac ymchwil weithredol mewn meysydd fel entrepreneuriaeth, cynaliadwyedd, ac arloesi digidol.
  • Dysgu Ymarferol: Gweithiwch ar brosiectau busnes byw ac astudiaethau achos tra'n cael y cyfle i gymryd rhan mewn gemau efelychu sy'n arwain y diwydiant.
  • Cyfleoedd Byd-eang: Dewiswch astudio dramor neu gymryd blwyddyn lleoliad i ennill profiad gwerthfawr ac ehangu eich rhwydwaith.
  • Amgylchedd Cefnogol: Mae Bangor yn enwog am ei gymuned glos, cefnogaeth ragorol i fyfyrwyr, a lleoliad syfrdanol rhwng y mynyddoedd a’r môr.

Dod o hyd i gwrs Busnes a Rheolaeth

Darganfyddwch y cwrs Busnes a Rheolaeth i chi

Cyfrifeg a Rheolaeth - BSc (Anrh)
Mae'r radd hon, sydd â gogwydd proffesiynol iddi, mewn Cyfrifeg a Rheolaeth yn cyfuno eich diddordebau yn y ddau bwnc. Enillwch set sgiliau unigryw a chael gyrfa lwyddiannus.
Cod UCAS
N4N2
Cymhwyster
BSc (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Llawn Amser, Rhan Amser
Cyfrifeg a Rheolaeth (gyda Blwyddyn Sylfaen) - BSc (Anrh)
Adeiladwch sylfaen mewn Cyfrifeg a Rheolaeth. Cewch eich dysgu gan arbenigwyr y diwydiant, byddwch yn meistroli sgiliau academaidd a digidol hanfodol, ac yn gweithio tuag at eithriadau o arholiadau cyfrifyddu proffesiynol.
Cod UCAS
N4NF
Cymhwyster
BSc (Anrh)
Hyd
4 Blynedd
Modd Astudio
Rhan Amser, Llawn Amser
Dadansoddeg Data Busnes - BSc (Anrh)
Enillwch sgiliau y mae galw amdanynt i ddadansoddi gwybodaeth fusnes. Dewch i gael mewnwelediadau, datrys problemau a gwneud penderfyniadau sy'n seiliedig ar ddata ar gyfer gyrfa lwyddiannus.
Cod UCAS
N313
Cymhwyster
BSc (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Llawn Amser, Rhan Amser
Dadansoddeg Data Busnes (gyda Blwyddyn Sylfaen) - BSc (Anrh)
Enillwch sgiliau y mae galw amdanynt i ddadansoddi gwybodaeth fusnes. Dewch i gael mewnwelediadau, datrys problemau a gwneud penderfyniadau sy'n seiliedig ar ddata ar gyfer gyrfa lwyddiannus.
Cod UCAS
N31F
Cymhwyster
BSc (Anrh)
Hyd
4 Blynedd
Modd Astudio
Llawn Amser
Marchnata (gyda Blwyddyn Sylfaen) - BSc (Anrh)
Lansiwch eich gyrfa farchnata. Bydd y cwrs BSc Marchnata (gyda Blwyddyn Sylfaen) yn eich paratoi i lwyddo trwy roi sylfaen gref i chi a sgiliau i’ch paratoi ar gyfer y diwydiant.
Cod UCAS
N50F
Cymhwyster
BSc (Anrh)
Hyd
4 Blynedd
Modd Astudio
Llawn Amser
Menter Busnes ac Entrepreneuriaeth - BSc (Anrh)
Lansiwch fusnes eich breuddwydion. Bydd y BSc mewn Menter Busnes ac Entrepreneuriaeth yn eich arfogi â'r sgiliau i arloesi, arwain, a throi syniadau yn realiti.
Cod UCAS
N111
Cymhwyster
BSc (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Llawn Amser, Rhan Amser
Rheolaeth Busnes - BSc (Anrh)
Mae Rheolaeth Busnes yn ymgorffori damcaniaethau academaidd a heriau’r byd go iawn. Enillwch sgiliau i ffynnu mewn busnes.
Cod UCAS
N200
Cymhwyster
BSc (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Llawn Amser, Rhan Amser
Rheolaeth Busnes (gyda Blwyddyn Sylfaen) - BSc (Anrh)
Bwriedir y cwrs Rheolaeth Busnes (gyda Blwyddyn Sylfaen) ar gyfer y rhai sydd eisiau gradd ond nad ydynt yn cwrdd â'r gofynion mynediad neu sy’n meddu ar gymwysterau traddodiadol.
Cod UCAS
N20F
Cymhwyster
BSc (Anrh)
Hyd
4 Blynedd
Modd Astudio
Llawn Amser
Rheoli Twristiaeth - BSc (Anrh)
Lansiwch eich gyrfa deithiol. Bydd y BSc mewn Rheoli Twristiaeth yn eich arfogi i reoli cyrchfannau, cynllunio teithiau a marchnata profiadau’n fyd-eang.
Cod UCAS
N832
Cymhwyster
BSc (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Llawn Amser, Rhan Amser
Rheoli Twristiaeth (gyda Blwyddyn Sylfaen) - BSc (Anrh)
Adeiladwch sylfaen i lansio eich gyrfa deithiol. Paratowch ar gyfer rheoli cyrchfannau, cynllunio teithiau a marchnata profiadau’n fyd-eang trwy wneud blwyddyn sylfaen bwrpasol.
Cod UCAS
N833
Cymhwyster
BSc (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Llawn Amser, Rhan Amser
SCROLL
SCROLL

Eich Camau Nesaf

Cwblhewch ein Ffurflen Clirio Arlein

Llenwch y ffurflen ar-lein i gofrestru eich diddordeb mewn Clirio neu i wneud cais drwy Clirio os oes gennych eich canlyniadau.

Cysylltwch â’r Llinell Gymorth Clirio

Cyn y diwrnod canlyniadau Lefel A ac yn ystod cyfnod canlyniadau Lefel A, cysylltwch â’r Llinell Gymorth Clirio ar 0800 085 1818.

Cysylltwch â ni drwy Sgwrs Fyw

Yn ystod cyfnod canlyniadau Lefel A, gallwch hefyd drafod eich opsiynau dros Sgwrs Fyw.

Myfyriwr yn gwisgo sbectol haul yn edrych ar ei ffôn symudol, yn pwyso yn erbyn wal
Fideo: Croeso i Ysgol Fusnes Albert Gubay

Mae'r byd yn newid mewn ffyrdd na ellir eu rhagweld.

Gall fod yn anodd i bobl ddeall sut i wneud gwahaniaeth gwirioneddol.

Yn Ysgol Busnes Bangor, rydym yn credu gallwch ysgogi newid cadarnhaol ar draws y byd gyda’r addysg a’r sgiliau cywir.

Rydym yn hyderus o hyn, oherwydd mae ein staff ymchwil a'n graddedigion yn gwneud argraff lle bynnag y maent yn mynd.

Cymryd heriau busnes y byd go iawn i’w dwylo eu hunain.

P’un a yw hynny’n defnyddio dadansoddeg data i roi hwb i effeithlonrwydd y stryd fawr yn lleol, datblygu polisïau cynaliadwy cadarn ar gyfer y diwydiant twristiaeth, ymchwilio i'r berthynas rhwng brandiau a sbwriel, er enghraifft, dadansoddi ymddygiad defnyddwyr, a helpu pobl i wneud penderfyniadau sy’n well i’w hiechyd a’r amgylchedd.

Dyma'r lle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol, ac mae hefyd yn lle hardd i wneud hynny.

Ysgol Busnes Bangor yw lle mae traddodiad yn cwrdd ag arloesi.

Gyda chyfleusterau o'r radd flaenaf fel ein terfynellau Bloomberg dim ond taith fer o’r Ddarllenfa Shankland.

Nid damwain yw twf a datblygiad yr Ysgol Busnes.

Rydyn ni'n un o'r darparwyr addysgu bancio a chyllid hynaf yn y byd.

Mae ein ffocws ar gyflogadwyedd a sgiliau'r dyfodol yn allweddol.

Rydym yn gweithio amrywiaeth o fusnesau ac elusennau, yn lleol yng Nghymru, ledled y Deyrnas Unedig, ac ar draws y byd.

Gwella ansawdd a chwmpas ein hymchwil, ond hefyd darparu addysg ragorol trwy teithiau maes a dysgu am arbenigedd amrywiol diwydiannau.

Darparu'r sgiliau y mae cyflogwyr eu heisiau mewn gwirionedd.

Mae Ysgol Busnes Bangor yn fwy na lle i astudio, mae'n le i arweinwyr y dyfodol cael eu ffurfio, lle mae arloesedd yn ffynnu, a lle ymdrinnir yn uniongyrchol â heriau byd-eang.

Ni yw'r ysgol sy'n golygu busnes, a hoffem chi ymuno â ni i gyd-lunio’r dyfodol.