Lleoedd Clirio Seicoleg Ar Gael
Ydych chi gyda diddordeb mewn astudio Seicoleg mis Medi yma? Gallai gwneud cais am gwrs Seicoleg ym Mhrifysgol Bangor fod yr ateb perffaith!
Mae lleoedd ar gael ar gyrsiau Seicoleg drwy Clirio yn 2025 - darllenwch ymlaen i ddarganfod pam y dylech ddewis Seicoleg ym Mhrifysgol Bangor a dod i wybod mwy am eich opsiynau.
Pam dewis gradd Seicoleg drwy Clirio ym Mhrifysgol Bangor?
Mae amrywiaeth o resymau dros astudio Seicoleg ym Mhrifysgol Bangor.
- Byddwch yn dysgu am bwnc hynod ddiddorol gan ymchwilwyr a darlithwyr o'r radd flaenaf.
- Bydd cyfleoedd i gael profiadau ymarferol sy'n amrywio o ddyrannu'r ymennydd dynol i weithio gyda chyfleusterau uwch fel sganiwr MRI.
- Sicrwydd o lety i fyfyrwyr Clirio sy’n astudio yng nghampws Bangor.
- Mae awyrgylch gyfeillgar i'r ddinas a chewch gymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg.
- Mae amgylchedd naturiol ein hardal gyfagos yn arbennig!
- Rydym yn rhoi blaenoriaeth i ofalu am a chefnogi ein myfyrwyr.
- Amrywiaeth eang o Glybiau a Chymdeithasau myfyrwyr.
Cyrsiau Seicoleg Prifysgol Bangor
Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid a Seicoleg
- BA (Anrh)
Dewch i ddeall meddyliau pobl ifanc. Cyfunwch Astudiaethau Plentyndod â Seicoleg er mwyn archwilio lles ac ymchwil a lansio gyrfaoedd sy'n cael effaith.
Cod UCAS
X319
Cymhwyster
BA (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Llawn Amser, Rhan Amser
Ieithyddiaeth A Seicoleg
- BA (Anrh)
Dewch i ddeall y cysylltiad rhwng iaith a’r meddwl. Cyfunwch ieithyddiaeth a seicoleg, ac archwilio gwybyddiaeth ddynol a chyfathrebu.
Cod UCAS
Q1C8
Cymhwyster
BA (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Llawn Amser, Rhan Amser
Seicoleg
- BSc (Anrh)
Archwiliwch ddirgelion y meddwl dynol gyda'n BSc Seicoleg. Ym Mangor, rydym yn uchel ein parch am ein haddysgu, ond mae gennym enw da yn fyd-eang hefyd am ein hymchwil.
Cod UCAS
C800
Cymhwyster
BSc (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Llawn Amser, Rhan Amser
Seicoleg (gyda Blwyddyn Sylfaen)
- BSc (Anrh)
Mae'r rhaglen Seicoleg gyda Blwyddyn Sylfaen yn cyfuno blwyddyn sylfaen gyda Gradd Anrhydedd tair blynedd i greu rhaglen pedair blynedd integredig.
Cod UCAS
C80F
Cymhwyster
BSc (Anrh)
Hyd
4 Blynedd
Modd Astudio
Llawn Amser, Rhan Amser
Seicoleg Chwaraeon ac Ymarfer
- BSc (Anrh)
Archwiliwch gymhelliant, perfformiad a seicoleg chwaraeon ac ymarfer. Mynnwch y wybodaeth sydd ei hangen ar gyfer gyrfa mewn hyfforddi, cwnsela a gwella perfformiad.
Cod UCAS
C680
Cymhwyster
BSc (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Llawn Amser, Rhan Amser
Seicoleg gyda Niwroseicoleg
- BSc (Anrh)
Arbenigwch mewn deall strwythur yr ymennydd dynol, a sut mae'n gweithredu er mwyn galluogi canfyddiad, meddwl, emosiwn, iaith ac ymddygiad.
Cod UCAS
C801
Cymhwyster
BSc (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Llawn Amser, Rhan Amser
Seicoleg gyda Seicoleg Fforensig
- BSc (Anrh)
Arbenigwch mewn deall y ffactorau seicolegol sydd wrth wraidd pam y gall pobl ymddwyn mewn modd troseddol neu wyrdröedig trwy ddilyn y cwrs Seicoleg gyda Seicoleg Fforensig.
Cod UCAS
C813
Cymhwyster
BSc (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Llawn Amser, Rhan Amser
Seicoleg gyda Seicoleg Glinigol ac Iechyd
- BSc (Anrh)
Arbenigwch mewn deall y ffactorau seicolegol sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl ac iechyd corfforol gyda'n cwrs Seicoleg gyda Seicoleg Glinigol a Seicoleg Iechyd.
Cod UCAS
C880
Cymhwyster
BSc (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Llawn Amser, Rhan Amser
Y Gyfraith gyda Seicoleg
- LLB (Anrh)
Astudiwch gyfraith trosedd ar y cyd â seicoleg fforensig neu gyfraith cwmnïau ynghyd â seicoleg defnyddwyr gyda'r cwrs LLB (Anrh.) Cyfraith gyda Seicoleg.
Cod UCAS
M1C8
Cymhwyster
LLB (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Llawn Amser, Rhan Amser
SCROLL
SCROLL