Ynglŷn â’r Cwrs Yma
I bwy mae’r cwrs hwn yn addas?
Mae'r cwrs byr hwn yn addas ar gyfer:
- gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd a gofal
- gweithwyr iechyd proffesiynol
- gweithwyr proffesiynol mewn rolau anghlinigol (e.e. ym maes iechyd y cyhoedd)
Nid yw'n ofynnol i fyfyrwyr fod yn weithwyr proffesiynol cofrestredig ym maes iechyd a gofal er mwyn cofrestru ar y cwrs byr hwn.
Pam astudio’r cwrs?
Mae'r cwrs byr hwn wedi'i gynllunio i gefnogi myfyrwyr i archwilio pwnc bwydo ar y fron a llaetha dynol yn feirniadol ar lefel wleidyddol, strategol a gweithredol.
Bydd y cwrs byr hwn yn archwilio’r sylfaen dystiolaeth i gefnogi bwydo ar y fron a llaetha dynol o safbwynt iechyd y cyhoedd ar lefel unigol ac ar lefel y boblogaeth. Bydd y rhwystrau i wella cyfraddau bwydo ar y fron a llaetha dynol yn cael eu harchwilio’n feirniadol.
Bydd y modiwl hwn yn darparu llwyfan i weithwyr iechyd proffesiynol ehangu ar wybodaeth sydd eisoes yn bodoli yn y maes pwysig hwn o ofal iechyd trwy drafodaethau beirniadol gyda'r rhai sy'n cynnal y modiwl a thrwy archwilio tystiolaeth gysylltiedig.
Pa mor hir mae'r cwrs yn cymryd i'w gwblhau?
Cynhelir y cwrs hwn dros 12 wythnos.
- Bydd yr 8 wythnos gyntaf yn cynnwys 4 diwrnod o addysgu (un sesiwn bob pythefnos). Gall myfyrwyr fynychu’r sesiynau hyn yn rhithiol neu yn y cnawd (campws Bangor neu Wrecsam).
- Bydd ymgysylltu pellach yn digwydd trwy flogiau rhyngweithiol ar-lein lle bydd myfyrwyr yn trafod materion sy’n gysylltiedig ag ymarfer, a gwybodaeth a thystiolaeth sy’n ymwneud â’r nodau dysgu.
Tiwtor
Sheila Brown

Mae Sheila’n uwch-ddarlithydd mewn gwyddorau iechyd (bydwreigiaeth) ym Mhrifysgol Bangor ac yn ddirprwy Fydwraig â Phrif Gyfrifoldeb dros Addysg (dirprwy LME). Roedd Sheila yn Fydwraig â Phrif Gyfrifoldeb dros Addysg (LME) rhwng 2016 a 2022 ac arweiniodd y gwaith o ddatblygu, cymeradwyo a dilysu’r rhaglen fydwreigiaeth newydd ym Mhrifysgol Bangor, a ddechreuodd ym mis Medi 2022.
Dechreuodd taith Sheila fel gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn British Columbia, Canada, lle bu iddi hyfforddi fel nyrs yn Nyffryn Fraser. Nyrsio amenedigol oedd ei maes arbenigedd.
Tra bu’n byw yn Awstralia, cwblhaodd Sheila MSc (Bydwreigiaeth) ym Mhrifysgol Wollongong yng Ngogledd Orllewin Awstralia.
Mae Sheila wedi gweithio mewn 4 gwlad wahanol, gan gynnwys yr Arctig, Canada a Chanolbarth Awstralia. Mae hi hefyd wedi treulio peth amser yn gwirfoddoli fel nyrs yng Ngorllewin Affrica.
Magwyd Sheila yn yr Alban, a symudodd yn ôl i’r Deyrnas Unedig i fyw yng Nghymru yn 2004. Cwblhaodd raglen Bydwreigiaeth 18 mis ym Mhrifysgol Bangor yn 2007, a bu’n gweithio fel bydwraig yng Ngogledd Cymru tan 2015, cyn symud i weithio ym maes addysg bydwreigiaeth lawn amser. Mae Sheila hefyd yn Ymgynghorydd Llaetha Ardystiedig y Bwrdd Rhyngwladol (IBCLC).
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Bydd y cwrs byr hwn yn galluogi'r myfyriwr i ehangu ar y wybodaeth bresennol mewn perthynas â llaetha dynol a chefnogi bwydo ar y fron. Fe'i cynlluniwyd i adeiladu ar y wybodaeth a ddatblygwyd gan weithwyr iechyd proffesiynol wrth iddynt ddilyn rhaglenni cymhwyso perthnasol.
Bydd y cwrs yn galluogi ymarferwyr i wneud y canlynol:
- datblygu gwybodaeth fanwl am oblygiadau iechyd y cyhoedd o fwydo ar y fron ar raddfa leol a byd-eang;
- archwilio rhwystrau a hwyluswyr ffisiolegol a seicogymdeithasol mewn perthynas â bwydo ar y fron;
- archwilio’n feirniadol y rheolaeth glinigol o broblemau sy’n ymwneud â bwydo ar y fron; a
- datblygu’r gallu i gefnogi bwydo ar y fron er gwaethaf amgylchiadau heriol.
Bydd y cwrs yn canolbwyntio ar sut y gall ymarferwyr iechyd a gofal gefnogi merched er mwyn sicrhau'r llwyddiant, y profiadau a’r canlyniadau gorau wrth fwydo ar y fron.
Beth fydd y dysgwr yn ei gael allan o’r cwrs?
Ar ddiwedd y cwrs byr hwn, bydd y dysgwr yn gallu:
- Archwilio’n feirniadol a dangos dealltwriaeth fanwl o oblygiadau iechyd y cyhoedd o fwydo ar y fron a llaetha dynol.
- Trafod yn feirniadol sut y gellid gwneud y gorau o fwydo ar y fron a llaetha dynol, er gwaethaf amgylchiadau heriol. Bydd dysgwyr yn gwneud hynny trwy adfyfyrio'n feirniadol ar eu maes ymarfer proffesiynol,
- Archwilio’n feirniadol a dangos gwybodaeth fanwl am y rhwystrau a’r hwyluswyr ffisiolegol a seicogymdeithasol mewn perthynas â llaetha dynol a dechrau a pharhau i fwydo ar y fron.
Cost y Cwrs
- Dylid cyfeirio ymholiadau ynghylch ariannu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) a bcu.nurseeducation@wales.nhs.uk.
- Mae'n bosibl y bydd cyfleoedd ariannu ar gael i rai sy'n gweithio'n lleol (h.y. yn ardaloedd gogledd Cymru a Phowys), cysylltwch â'r cydlynydd modiwl perthnasol am fanylion.
- Dylid cyfeirio pob ymholiad arall sy'n ymwneud â cheisiadau ac ariannu at gydlynydd y modiwl.
Ewch i dudalen Ffioedd a Chyllid Ôl-raddedig er mwyn cael gwybodaeth bellach.
Gofynion Mynediad
I astudio'r cwrs byr lefel 7 hwn, bydd angen gradd israddedig ar ymgeiswyr am 2:2 neu uwch.
Mae'r cwrs byr hwn yn addas ar gyfer:
- Gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal sy'n gweithio mewn rôl berthnasol
- Gweithwyr Proffesiynol Iechyd Cysylltiedig
- gweithwyr proffesiynol mewn rolau anghlinigol (e.e. o fewn iechyd y cyhoedd)
Nid yw'n ofynnol i ddysgwyr fod yn weithiwr iechyd a gofal proffesiynol cofrestredig er mwyn cofrestru ar y cwrs byr hwn.
Os nad ydych yn bodloni'r gofynion academaidd a nodir uchod ond bod gennych o leiaf 3 blynedd o brofiad gwaith perthnasol a thystiolaeth o astudiaeth ddiweddar neu ddatblygiad proffesiynol (i ddangos gallu i astudio ar lefel 7), byddwn yn ystyried eich cais. Cysylltwch â arweinydd y cwrs i drafod ymhellach.
Gwneud Cais
Sut i wneud cais
Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen ac yn dilyn y canllaw cais cam wrth gam gan y bydd hyn yn nodi pa adrannau o'r ffurflen gais sy'n orfodol ar gyfer y math o gwrs rydych am wneud cais amdano ac arbed amser i chi.
Paratowch y wybodaeth ganlynol (mewn dogfen Word):
- Manylion cyflogaeth cyfredol;
- Blynyddoedd o brofiad, a hanes cyflogaeth (lle bo hynny'n berthnasol)
- Enw'r aelod staff a'r sefydliad sydd wedi cymeradwyo eich cyllid ar gyfer y modiwl hwn.
Bydd hyn yn cyflymu'r broses o lenwi'r ffurflen gais.
I wneud cais am y cwrs hwn, mae angen i chi greu cyfrif yn ein PORTH YMGEISWYR
Bydd angen i chi gael mynediad at y cyfeiriad e-bost yr ydych yn ei nodi wrth greu eich cyfrif i'w gadarnhau.
Ar ôl creu cyfrif, byddwch yn gweld tudalen gartref gyda sawl tab:
- Personol
- Rhaglen
- Gwybodaeth
- Cyswllt
- Addysg
- Cyflogaeth
- Iaith
- Cyllid
Mae angen i chi gwblhau pob adran cyn cyflwyno'ch cais.
Pan fydd adran wedi'i chwblhau, bydd symbol 'tic' yn ymddangos ar y tab.
- Cliciwch ar 'Ceisiadau nad ydynt yn graddio / Modiwlau Annibynnol', yna dewiswch 'Heb raddio Ôl-raddedig a Addysgir'.
- Yn yr adran nesaf, dewiswch Modiwlau a Addysgir nad ydynt yn Graddio mewn Iechyd (NGGT/HEALTH) Cliciwch Cadw a Parhau.
- Ar y dudalen nesaf, y rhagosodiad ar gyfer y cwestiwn cyntaf yw Llawn Amser. Mae'n rhaid i chi newid hyn i 'Ran Amser':
- Nawr mae angen i chi fewnbynnu cod y modiwl: Gwneud y gorau o fwydo ar y fron a llaetha : y cod yw NHS-4386. Rhaid cwblhau'r adran hon er mwyn i'ch cais gael ei brosesu.
- Mae angen i chi hefyd nodi'r dyddiad dechrau. Dewiswch eich dewis, yna cliciwch 'Cadw a Parhau'.
- PWYSIG: Nid oes angen i chi ysgrifennu datganiad personol i wneud cais am y cwrs hwn. Yn hytrach, llwythwch y ddogfen i fyny, gan gynnwys gwybodaeth am gyflogaeth, profiad ac addysg rydych wedi'i chreu cyn dechrau'r cais sy'n cynnwys enw eich cyflogwr presennol, nifer y blynyddoedd o brofiad sydd gennych, a'ch cymhwyster uchaf hyd yn hyn. Cliciwch Cadw a symud ymlaen.
Dim ond manylion eich cymhwyster uchaf sydd ei angen arnoch hyd yma, e.e. os oes gennych gymhwyster ôl-raddedig, dim ond hyn y dylech ei gynnwys.
Gofynnir i chi am dystiolaeth o'r cymhwyster. Anfonwch gopi o'ch cymhwyster naill ai os yw'n hawdd ei gyrraedd, neu lanlwythwch y ddogfen Word eto (a baratowyd gennych yn gynharach).
Ewch i waelod y dudalen a chliciwch ar 'Nid oes gennyf unrhyw hanes cyflogaeth'. Rydych eisoes wedi paratoi'r wybodaeth yma yn eich dogfen Word.
Os ydych yn cael eich ariannu gan AaGIC / Bwrdd Iechyd, atebwch y cwestiynau a ganlyn:
- Sut byddwch chi'n ariannu'ch astudiaethau? Noddedig
- Union enw'r awdurdod cyllido: Bwrdd Iechyd
- Gwlad: Y Deyrnas Unedig
- Rhowch fanylion swm y dyfarniad? Wedi'i ariannu'n llawn.
- Bydd y nawdd yn cynnwys: Ffioedd Dysgu
- A ydych chi wedi derbyn y cyllid hwn? Dewiswch ‘ie’ * Sylwch y bydd gofyn i chi uwchlwytho tystiolaeth o’r cyllid. Os hoffech gadarnhau ‘ie’ i’r cwestiwn hwn, ond nad oes gennych unrhyw gadarnhad ysgrifenedig i’w uwchlwytho, gallwch uwchlwytho’ch ddogfen Word yma eto.
Os ydych yn hunan-ariannu, neu'n cael eich ariannu gan bractis meddyg teulu annibynnol, rhowch yr holl fanylion fel y bo'n briodol