Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae’r Ysgol Gwyddorau Cymdeithas yn darparu amgylchedd cyffrous a chefnogol ar gyfer hyfforddiant ôl-radd. Mae'r pwyslais ar grwpiau bach, cysylltiadau gwaith agos rhwng myfyrwyr a goruchwylwyr ymchwil, a datblygu cyfranogiad proffesiynol llawn yn y maes pwnc. Yn achos myfyrwyr ymchwil, gallwn ddarparu rhaglen hyfforddiant ymchwil ESRC lawn a goruchwyliaeth arbenigol o ansawdd uchel ar draws sbectrwm eang o bynciau.
Meysydd Ymchwil
Polisi Cymdeithasol a Chymdeithaseg gan arbenigo mewn:
- Polisi Cymdeithasol Cymharol
 - Cymdeithaseg hanesyddol iechyd
 - Polisïau Iechyd a datganoli
 - Salwch meddwl ac anableddau dysgu
 - Heneiddio a newid cymdeithasol
 - Polisi Tai
 - Astudiaethau ethnograffig ac ethnofethodolegol o waith
 - Dadansoddi Sgyrsiau
 - Dadansoddi categoreiddio aelodaeth
 - Mynd i’r ysgol a rhyngweithiad cymdeithasol
 - Diwylliant a'r Cyfryngau
 - Diwylliant Poblogaidd
 - Iaith a rhyngweithio cymdeithasol
 - Hunaniaeth ac amrywiaeth
 - Plentyndod a theulu
 
Cymunedau a Rhwydweithiau Cymdeithasol gan arbenigo mewn:
- Cymuned ac ardal
 - Gweithredu a dinasyddiaeth mewn ardaloedd gwledig
 - Ffyrdd o fyw a'r amgylchedd
 - Cymdeithas sifil yng Nghymru
 - Yr amgylchedd a chynaliadwyedd
 - Diwylliannau bwyd a ffermio
 - Yr henoed, cenedlaethau a chwrs bywyd
 - Ffurfio hunaniaethau Ewrop
 
Ieithoedd a Diwylliannau Lleiafrifol gan arbenigo mewn:
- Iaith
 - Ymfudo
 - Hunaniaeth a pherthyn
 
Mae myfyrwyr graddedig cyfredol yn gwneud gwaith ymchwil ar y pynciau a ganlyn:
- Trefniadaeth gymdeithasol dysgu ar y we
 - Ymfudo, syniadau o berthyn i genedl ac ymatebion polisi yng Nghymru ac Iwerddon
 - Arwyddocâd economaidd a chymdeithasol yr achosion o SARS
 - Cymru mewn cymdogaeth fyd-eang
 - Categoreiddio ac anghenion addysgol arbennig: gweithredu cod ymarfer AAA
 - Ffurfiad cymdeithasol yr hunaniaeth Gymreig
 - Y defnydd o'r Gymraeg yn y sector gwirfoddol yng Nghymru
 - Rôl gwerthuso rhaglenni yn nhrefniadaeth y sector cyhoeddus
 
Hyd y Cwrs
PhD: 3 flynedd llawn amser, 6 mlynedd rhan amser; MPhil: 1-2 flynedd llawn amser, 2-3 rhan amser.
Gofynion Mynediad
Mae angen gradd anrhydedd dda mewn disgyblaeth gysylltiedig. Bydd gofyn i fyfyrwyr heb radd Meistr mewn disgyblaeth berthnasol ymgymryd â rhaglen hyfforddiant ymchwil yn eu blwyddyn gyntaf. Dylai myfyrwyr gyflwyno amlinelliad ymchwil y bydd yn rhaid i Gyfarwyddwr y Cwrs ei gymeradwyo.
I’r rhai nad ydynt yn siarad Cymraeg na Saesneg fel iaith gyntaf, yr isafswm gofynnol o ran yr iaith Saesneg yw:
- IELTS 6.0 (heb unrhyw sgôr unigol islaw 6.0)
 - Pearson PTE: 62 (heb unrhyw sgôr unigol islaw 58)
 - Prawf Saesneg Caergrawnt - Uwch: 176 (heb unrhyw sgôr unigol yn is na 169).