Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae'r MA mewn Cerddoriaeth gydag Addysg yn fodd i chi ddatblygu sgiliau a gwybodaeth ynghylch theori ac ymarfer dysgu cerddoriaeth i eraill. Byddwch yn cymryd modiwlau yn Ysgol Addysg a Datblygiad Dynol y Brifysgol, o blith amrywiol opsiynau, gan gynnwys yn nodweddiadol: Datblygu Cwricwlwm, Arweinyddiaeth a Rheolaeth Addysgol, a Chymdeithaseg Plentyndod ac Ieuenctid (gall y rhai nad yw'r Saesneg/Cymraeg yn iaith gyntaf iddynt gymryd dosbarthiadau Saesneg uwch yn lle'r rheiny). Gellwch hefyd fynd ar leoliad dewisol mewn ysgol neu goleg lleol. Yn yr Adran Gerddoriaeth, rydych chi'n dewis dau fodiwl o blith amryw gan gynnwys Cerddoriaeth mewn Testun a Chyd-destun; Cerddoriaeth yn y Gymdeithas; Astudiaethau Offerynnau/Canu; Cyfansoddi; Perfformio; Ymarfer Cerddoriaeth Gyfoes; a Phroject Ymchwil Annibynnol.
Mae Rhan II y Project, a gaiff ei gwblhau dros yr haf, yn hyblyg o ran fformat yn yr un modd. Fel rheol bydd yn cynnwys traethawd hir, a gall hefyd gynnwys darlith-datganiad, portffolio o gyfansoddiadau at ddefnydd addysgol, deunyddiau pedagogaidd ar gyfer eich llais neu offeryn, neu fformat arall y cytunir arno ymlaen llaw gyda'r staff darlithio.
Addysgir drwy gyfuniad o hyfforddiant unigol a seminarau i grwpiau bach.
Cynnwys y Cwrs
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modwilau Cerddoriaeth gydag Addysg .
Mae cynnwys y cwrs wedi'i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Gofynion Mynediad
Mae angen gradd gyntaf mewn Cerddoriaeth o safon 2.ii neu uwch (neu gymhwyster cyfwerth). Fodd bynnag, rhaid i ymgeiswyr gyda gradd 2.ii feddu ar 2.i mewn project sylweddol (e.e. traethawd hir, portffolio o gyfansoddiadau, neu ddatganiad estynedig) yn y maes astudio o'u dewis. Efallai y gofynnir i gerddolegwyr gyflwyno darn o waith ysgrifenedig 3,000-5,000 o eiriau a all fod naill ai: 1) yn drafodaeth ar bwnc dethol o hanes cerddoriaeth; neu 2) yn ddadansoddiad o gyfansoddiad dethol. Rhaid i'r traethawd fod yn academaidd ei naws a rhaid iddo gynnwys troednodiadau a llyfryddiaeth lawn. Gellid gofyn i gyfansoddwyr gyflwyno samplau cynrychioliadol o'u gwaith creadigol (dau neu dri darn fel rheol). Gall y rhain fod yn sgorau mewn nodiant, neu recordiadau sain, neu'r ddau, a gellir eu hanfon ar bapur, DVD data, neu drwy we-gyswllt megis Dropbox. Gofynnir i berfformwyr ddod i glyweliad neu, os nad yw hynny'n ymarferol, anfon perfformiad fideo heb ei olygu a recordiwyd yn ddiweddar ac sy'n cynnwys repertoire cyfebyniol (25-30 munud). Gellid gofyn hefyd am enghraifft o waith academaidd gan berfformwyr.
Rhaid i'r ymgeiswyr hynny nad yw'r Saesneg yn iaith gyntaf iddynt basio'r prawf Saesneg IELTS gyda sgôr o 6.0 (heb yr un elfen yn is na 5.5).
Gyrfaoedd
The MA in Music with Education acts as a bridge between a Music degree and a professional career in music education. It will give you valuable insights that will prepare you for a postgraduate teacher training qualification. It is also appropriate for those already working in music education looking to advance their careers. Alternatively, the programme will set you on the road to further research in music education, at PhD level and beyond. The course will also equip you with skills in critical thinking, analysis and communication which are valued by employers both within and outside the fields of music and education.