Pam Astudio Cerddoriaeth?
Ym Mangor byddwch yn rhan o gymuned fywiog o gyfansoddwyr, ysgolheigion a cherddorion o bob cwr o'r byd, byddwch yn elwa o'r cyfleoedd i rannu syniadau a chreadigrwydd mewn amrywiol ddulliau cerddorol. Mae ein cyfleusterau gyda'r gorau yn y byd, gan gynnwys pum stiwdio electroacwstig o'r radd flaenaf, casgliadau unigryw yn yr archifau a'r llyfrgell, cyfleusterau ymarfer 24 awr, offerynnau gwych, a neuaddau cyngerdd godidog. Cewch eich dysgu a'ch goruchwylio gan gerddolegwyr, cyfansoddwyr ac ymarferwyr byd-enwog, ac mi gewch eich sbarduno a'ch ysgogi'n ddeallusol gan siaradwyr ac artistiaid gwadd. Y tu allan i'r cwrs, cewch ymuno â chorau, cerddorfeydd ac ensembles eraill, a gallwch elwa o'r llu o gyfleoedd sydd ar gael ichi fel aelod o brifysgol draddodiadol fywiog.
Cyfleoedd Gyrfa o Cerddoriaeth
Mae astudio ar lefel Meistr ym Mangor yn fan cychwyn delfrydol ar gyfer gyrfa arbenigol mewn cerddoriaeth. Mae graddedigion ein graddau Meistr wedi mynd ymlaen i weithio fel cyfansoddwyr proffesiynol, perfformwyr, addysgwyr, awduron, darlledwyr, ymchwilwyr a rheolwyr mewn amrywiol sefydliadau celfyddydol. Aeth nifer rhagddynt i astudio graddau PhD, ac yna i yrfaoedd o fri mewn prifysgolion a conservatoires ledled y byd.
Ein Hymchwil o fewn Cerddoriaeth
Mae ein staff yn ymchwilwyr dygn ac maent yn canlyn amrywiaeth dda o ddiddordebau ymchwil mewn cerddoleg, cyfansoddi a pherfformio. Yn yr RAE diwethaf (2014), barnwyd bod bron i draean o'n hymchwil 'gyda'r gorau yn y byd', a drwyddi draw, barnwyd bod 81% o'n gweithgarwch ymchwil 'gyda'r gorau yn y byd' neu'n 'rhagorol yn rhyngwladol' (h.y. wedi cael y ddwy radd uchaf, sef 3* a 4*).
Cryfderau/Arbenigeddau Ymchwil
Mae ein staff yn cynnal ymchwil ac yn darparu goruchwyliaeth i raddau PhD mewn Cerddoleg, Cyfansoddi, Perfformio ac Iechyd a Lles. O fewn y meysydd eang hynny, mae gennym gryfderau allweddol o ran:
- Cerddoriaeth Gynnar
- Cerddoriaeth yr 20fed a’r 21ain ganrif
- Golygu Cerddoriaeth
- Cerddoriaeth Cymru
- Cyfansoddi Acwsmatig ac Electroacwstig
- Cerddoriaeth Ffilm
- Y Celfyddydau Sonig
- Perfformio Cyfoes
- Perfformio Rhyngweithiol gydag Electroneg.
Mae'r rhan fwyaf o'r staff yn weithgar mewn mwy nag un maes ac yn aml maent yn ymwneud â phrojectau ymchwil gyda chydweithwyr sy'n gweithio mewn disgyblaethau eraill.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.