Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae'r MA mewn Cerddoriaeth yn fodd i chi ddatblygu sgiliau cerddolegol a sgiliau cysylltiedig drwy raglen astudio gyffredinol a phenodol.
Mae pob myfyriwr yn cymryd y modiwl craidd Ymchwilio i Gerddoriaeth, ac yn hwnnw byddwch yn archwilio amrywiaeth eang o gerddoriaeth a'r disgyrsiau diweddaraf yn eu cylch. Ategir y modiwl hwn gan ddwy astudiaeth achos (un ym mhob semester) a ddewisir o blith amrywiol opsiynau sy'n datblygu o arbenigeddau'r staff, ac mae'n eich galluogi i brofi'r ymchwil gerddolegol ddiweddaraf.
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Yr opsiynau modiwlau cyfredol yw:
- Music in Society
- Contemporary Music Practice
- Music in Text and Context
Yn yr ail semester, byddwch hefyd yn gwneud Project Ymchwil Annibynnol o dan oruchwyliaeth ar destun o'ch dewis eich hun. Mae hyn yn arwain at Ran II y Project, sydd fel rheol ar ffurf traethawd hir, er ei bod yn bosibl gwneud golygiad neu ddadansoddiad beirniadol yn ogystal.
Addysgir drwy gyfuniad o hyfforddiant unigol a seminarau i grwpiau bach.
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modwilau Cerddoriaeth .
Mae cynnwys y cwrs wedi'i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Gofynion Mynediad
Mae angen gradd gyntaf o safon 2.ii neu uwch (neu gymhwyster cyfwerth). Fodd bynnag, rhaid i ymgeiswyr sydd â gradd 2.ii feddu ar 2.i mewn project sylweddol (e.e. traethawd hir) yn y maes astudio o'u dewis. Efallai y gofynnir i ymgeiswyr gyflwyno darn o waith ysgrifenedig 3,000-5,000 o eiriau a all fod naill ai: 1) yn drafodaeth ar bwnc dethol o hanes cerddoriaeth neu ethnogerddoleg; neu 2) dadansoddiad o gyfansoddiad dethol.
Rhaid i'r traethawd fod yn academaidd ei naws a rhaid iddo gynnwys troednodiadau a llyfryddiaeth lawn. Rhaid i'r ymgeiswyr hynny nad yw'r Saesneg yn iaith gyntaf iddynt basio'r prawf Saesneg IELTS gyda sgôr o 6.0 (heb yr un elfen yn is na 5.5).
Gyrfaoedd
Bydd yr MA mewn Cerddoriaeth yn rhoi blas i chi ar ymchwil gwreiddiol, a bydd yn rhoi gwybodaeth pwnc benodol a sgiliau academaidd i chi a fydd yn eich paratoi at astudio pellach ar lefel PhD a thu hwnt. Bydd y rhaglen hefyd yn rhoi sgiliau i chi i feddwl yn feirniadol, dadansoddi a chyfathrebu ac mae'r sgiliau hynny'n uchel eu parch gan gyflogwyr ym maes cerddoriaeth a thu hwnt. Mae graddedigion diweddar wedi dilyn gyrfaoedd llwyddiannus fel awduron, golygyddion, gweinyddwyr y celfyddydau, athrawon, ymgynghorwyr addysgol, perfformwyr a phobl fusnes.