Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae'r MMus mewn Cyfansoddi a Chelfyddyd Sonig yn eich galluogi i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth mewn amrywiol arddulliau a genres cerddorol, ac i fireinio sgiliau arbenigol yn y maes o'ch dewis, boed yn gyfansoddi ar gyfer lleisiau ac/neu offerynnau (gydag offer electronig neu hebddynt), cyfansoddi electroacwstig a chelfyddyd sonig, neu gyfansoddi ar gyfer ffilm. Ymhob semester byddwch yn gwneud Project Cyfansoddi Annibynnol o dan oruchwyliaeth mewn arddull a chyfrwng o'ch dewis. Ategir y modiwlau hyn gan Ymchwilio i Gerddoriaeth (Semester 1), lle byddwch yn archwilio amrywiaeth eang o gerddoriaeth a'i hystyron, ac Ymarfer Cerddoriaeth Gyfoes (Semester 2), lle byddwch yn rhannu syniadau â cherddolegwyr a pherfformwyr.
Mae Rhan II y Project, a gwblheir dros yr haf, fel rheol ar ffurf cyfansoddiad gwreiddiol sylweddol, neu bortffolio cydlynol o weithiau.
Addysgir drwy gyfuniad o hyfforddiant unigol a seminarau i grwpiau bach.
Cysylltiadau â Diwydiant
Byddwch yn gweithio'n agos â chyfansoddwyr proffesiynol ac ymchwilwyr profiadol, llawer ohonynt yn adnabyddus yn rhyngwladol. Mae gennym gysylltiadau clos â phartneriaid yn y diwydiant a'r trydydd sector fel Theatr Gerdd Cymru, Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC a Blipfonica.
Hyd y Cwrs
Blwyddyn yn llawn-amser, 2-5 mlynedd yn rhan-amser. Diploma: 30 wythnos llawn-amser.
Cynnwys y Cwrs
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modwilau Cyfansoddi a Chelfyddyd Sonig .
Mae cynnwys y cwrs wedi'i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Gofynion Mynediad
Mae angen gradd gyntaf o safon 2.ii neu uwch (neu gymhwyster cyfwerth). Fodd bynnag, rhaid i ymgeiswyr gyda gradd 2.ii feddu ar 2.i mewn project sylweddol (e.e. portffolio o gyfansoddiadau) yn y maes astudio o'u dewis. Gellir gofyn i ymgeiswyr gyflwyno samplau cynrychioliadol o'u gwaith creadigol (dau neu dri darn fel rheol). Gall y rhain fod yn sgorau mewn nodiant, neu recordiadau sain, neu'r ddau, a gellir eu hanfon ar bapur, DVD data, neu drwy we-gyswllt megis Dropbox.
Rhaid i'r ymgeiswyr hynny nad yw'r Saesneg yn iaith gyntaf iddynt basio'r prawf Saesneg IELTS gyda sgôr o 6.0 (heb yr un elfen yn is na 5.5).
Gyrfaoedd
Bydd yr MMus mewn Cyfansoddi a Chelfyddyd Sonig yn eich galluogi i ddatblygu llais gwreiddiol cryf mewn awyrgylch academaidd, ac mae'n baratoad delfrydol at waith creadigol pellach ar lefel PhD a thu hwnt. Bydd y rhaglen hefyd yn rhoi sgiliau i chi feddwl yn feirniadol, creadigrwydd a chyfathrebu a werthfawrogir gan gyflogwyr ym maes cerddoriaeth a thu hwnt. Mae graddedigion diweddar wedi dilyn gyrfaoedd llwyddiannus fel cyfansoddwyr proffesiynol, trefnwyr cerddoriaeth, cysodwyr cerddoriaeth, awduron, gweinyddwyr y celfyddydau, athrawon, ymgynghorwyr addysgol, perfformwyr a phobl fusnes.