Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae ein MA Llenyddiaeth Saesneg yn cynnig cyfle i ddilyn astudiaethau llenyddol Saesneg ar lefel uwch. Byddwch yn gallu datblygu'r sgiliau a'r wybodaeth sy'n ofynnol ar gyfer dadansoddiad testunol, damcaniaethol a hanesyddol yn eich dewis faes a chymryd rhan lawn mewn amgylchedd ymchwil bywiog ymysg awduron ac ymchwilwyr cyhoeddedig.
Mae'r rhaglen yn cynnwys modiwlau hyfforddedig (Rhan Un) a asesir yn bennaf trwy draethodau a thraethawd hir (Rhan Dau).
Wrth ddilyn y cwrs MA hwn gallwch archwilio'ch diddordebau ar draws maes eang o astudiaethau llenyddol Saesneg yn eich dewis o fodiwlau hyfforddedig, neu gallwch ddewis dilyn rhaglen o fodiwlau hyfforddedig â goruchwyliaeth un-i-un mewn meysydd o ddiddordeb mwy arbenigol. I'r rhai hynny sy'n dymuno arbenigo mae cyfle hefyd i glystyru dewisiadau modiwl o gwmpas meysydd o arbenigedd neilltuol o gryf yn yr adran.
Hyd y Cwrs
MA: Blwyddyn yn llawn-amser neu ddwy flynedd yn rhan-amser; Diploma: 9 mis llawn-amser (hefyd ar gael rhan-amser).
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Rhan Un: Mae pob myfyriwr yn dilyn y modiwlau gorfodol Literary Theory, Scholarship and Research a Material Texts and Editing. Mae'r modiwlau hyn yn ystyried syniadau allweddol mewn theori lenyddol, dadansoddi testunau a thechnegau ysgrifennu ysgolheigaidd uwch. Yna bydd y myfyriwr yn dewis dau fodiwl pellach o blith y rhai a gynigir. Er mwyn cwblhau llwybr, rhaid dewis y ddau fodiwl o'r rhestr fodiwlau sydd ar gael i'r llwybr hwnnw. Gall myfyrwyr sy'n dilyn y Llwybr Agored ddewis unrhyw ddau fodiwl o'r ystod lawn a gynigir.
Rhan Dau: Paratoi traethawd hir 20,000 o eiriau ar bwnc o'ch dewis, wedi'i ymchwilio a'i ysgrifennu dan oruchwyliaeth unigol arbenigwr pwnc. Disgwylir i'r rhai hynny sy'n dilyn llwybr penodol ddewis pwnc mewn maes ymchwil perthnasol.
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modwilau Llenyddiaeth Saesneg .
Mae cynnwys y cwrs wedi'i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Gofynion Mynediad
Gradd israddedig 2.ii neu gyfwerth mewn pwnc perthnasol (e.e. Astudiaethau Llenyddol, Hanes, Astudiaethau/Llenyddiaeth Arthuraidd, Astudiaethau Ffilm).
Bydd ymgeiswyr sydd â chymwysterau neu brofiad cyfwerth a cheisiadau gan weithwyr proffesiynol nad oes ganddynt radd yn cael eu hystyried fesul un. Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth.
Yn achos myfyrwyr nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf, bydd arnynt angen sgôr IELTS o 6.5 o leiaf (heb i unrhyw elfen fod yn is na 6.0).
Gyrfaoedd
Mae'r cwrs yn cynnig paratoad rhagorol ar gyfer rhaglenni doethurol. Mae'n ychwanegu at gymwysterau'r rhai sy'n bwriadu dilyn gyrfa mewn meysydd diwylliannol a chreadigol fel cyhoeddi, gweinyddu'r celfyddydau, y cyfryngau, cyfathrebu ac addysgu. Gall y profiad o astudiaeth lenyddol ôl-raddedig hefyd wella cyflogadwyedd at y dyfodol, trwy feithrin sgiliau trosglwyddadwy megis: y gallu i wneud gwaith ymchwil annibynnol; cwblhau dadansoddiad datblygedig o destunau a dadleuon; a chyflwyno syniadau yn rhugl ar ffurf ysgrifenedig a llafar. Yn anad dim, mae'r MA yn cynnig cyfle ar gyfer datblygiad personol a deallusol uwch.