Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae sut a ble mae pobl yn gweithio yn newid. Mae ffyrdd newydd o feddwl am gyflogaeth a'r rôl y mae sefydliadau yn ei chwarae yn y byd yn hanfodol. Mae globaleiddio yn golygu bod rheoli pobl yn effeithiol ac yn deg yn bwysicach nag erioed. Trwy astudio Rheolaeth gyda Rheolaeth Adnoddau Dynol ym Mangor, byddwch yn cael y wybodaeth a'r sgiliau y bydd arnoch eu hangen i helpu unigolion, sefydliadau a'ch gyrfa eich hun i ffynnu.
Ar y cwrs Rheolaeth gyda Rheolaeth Adnoddau Dynol, byddwch yn cael sylfaen gref o ddysgu damcaniaethol ac ymarferol ac yn cael eich annog i ddatblygu y sgiliau meddwl yn feirniadol a’r gyfeiriadedd strategol sy'n sail i ragoriaeth ym mhroffesiwn Adnoddau Dynol. Bydd y radd hon yn datblygu eich sgiliau a'ch gwybodaeth mewn dau faes cysylltiedig; rheolaeth gyffredinol a rheoli adnoddau dynol yn strategol ac ymarferol.
Pam dewis Prifysgol Bangor ar gyfer y cwrs?
- Profiad o'r byd go iawn o reoli adnoddau dynol, gan sicrhau eich bod wedi cael eich paratoi i gael effaith ar unwaith er mwyn caniatáu gwell dealltwriaeth o rôl rheolaeth adnoddau dynol yn y sefydliad.
- Byddwch yn datblygu cymwyseddau Adnoddau Dynol megis rheoli newid, cysylltiadau cyflogaeth, sgiliau ysgogi ac arwain mewn cyd-destun Busnes a Rheolaeth.
- Cewch eich addysgu gan academyddion sy'n arbenigwyr yn eu meysydd ac y mae eu hymchwil yn cyfrannu at ddatblygu polisi, at ddatblygiad eu disgyblaethau, a hyd yn oed at well dealltwriaeth o fusnes ei hun.
- Mae ffocws Ysgol Busnes Bangor ar eich helpu i wella eich cyflogadwyedd trwy roi cyfleoedd i chi ymgysylltu â busnesau, ymgymryd â lleoliadau gwaith ac interniaethau a chymryd rhan mewn cystadlaethau busnes a mentrau.
- 3ydd am Ansawdd y Addysgu o fewn maes pwnc Busnes, Rheolaeth a Marchnata (Times & Sunday Times: Good University Guide 2023).
- 97% Boddhad Cyffredinol o fewn y maes pwnc Rheolaeth (National Student Survey 2022).
- 1af yng Nghymru ac yn 3ydd yn y DU am Astudiaethau Rheoli (National Student Survey 2022).
Opsiynau Cwrs Ychwanegol
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn ar Leoliad' lle byddwch yn astudio am flwyddyn ychwanegol. Mae'r myfyrwyr yn gwneud y Flwyddyn ar Leoliad ar ddiwedd yr ail flwyddyn ac maent i ffwrdd o'r Brifysgol am y flwyddyn academaidd gyfan.
Mae Blwyddyn ar Leoliad yn gyfle gwych i chi ehangu eich gorwelion a datblygu sgiliau a chysylltiadau hynod ddefnyddiol trwy weithio gyda sefydliad sy'n berthnasol i bwnc eich gradd. Y cyfnod lleiaf ar leoliad (mewn un lleoliad neu fwy nag un lleoliad) yw saith mis calendr; fel rheol mae myfyrwyr yn treulio 10-12 mis gyda darparwr lleoliad. Byddwch fel rheol yn dechrau rywbryd yn y cyfnod rhwng mis Mehefin a mis Medi yn eich ail flwyddyn ac yn gorffen rhwng mis Mehefin a mis Medi y flwyddyn ganlynol. Gall y lleoliad fod yn y Deyrnas Unedig neu dramor a byddwch yn gweithio gyda'r staff i gynllunio a chwblhau trefniadau eich lleoliad.
Bydd disgwyl i chi ddod o hyd i leoliad sy'n addas i'ch gradd, a'i drefnu, ac mi gewch chi gefnogaeth lawn gan aelod pwrpasol o staff eich Ysgol academaidd a Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar ôl cychwyn eich cwrs ym Mangor a gallwch wneud cais i drosglwyddo i'r opsiwn hwn ar yr adeg priodol. Darllenwch fwy am y cyfleoedd profiad gwaith sydd ar gael neu, os oes gennych unrhyw ymholiad, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn Profiad Rhyngwladol' lle byddwch yn astudio neu'n gweithio am flwyddyn yn ychwanegol. Bydd ‘gyda Phrofiad Rhyngwladol’ yn cael ei ychwanegu at deitl eich gradd pan fyddwch yn graddio.
Mae astudio dramor yn gyfle gwych i weld ffordd wahanol o fyw, i ddysgu am ddiwylliannau newydd ac ehangu eich gorwelion. Gyda phrofiad rhyngwladol o’r fath, rydych yn gwneud byd o les i’ch gyrfa. Mae yna ddewis eang o leoliadau a phrifysgolion sy'n bartneriaid. Os ydych yn bwriadu astudio mewn gwlad lle nad yw’r Saesneg yn cael ei siarad fel iaith frodorol, efallai y bydd cefnogaeth iaith ychwanegol ar gael i chi ym Mangor neu yn y brifysgol yn y wlad arall i wella'ch sgililau iaith.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar unrhyw adeg yn ystod eich gradd ym Mangor a gallwch wneud cais. Os oes gennych unrhyw ymholiad yn y cyfamser, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Darllenwch fwy am y rhaglen Blwyddyn Profiad Rhyngwladol a chymrwch olwg ar yr opsiynau astudio neu weithio dramor sydd ar gael yn adran Cyfnewidiadau Myfyrwyr o’r wefan.
Cynnwys y Cwrs
Mae'r radd arloesol a blaengar hon mewn Rheolaeth gyda Rheolaeth Adnoddau Dynol yn mynd â myfyrwyr o ddeall y prif faterion yn ymwneud â phobl a rheoli i fod â gwybodaeth ddatblygedig am arweinyddiaeth a datblygu adnoddau dynol mewn sefydliadau modern. Mae'n ymgorffori rheoli pobl, cysylltiadau gweithwyr, gwobrwyo, ysgogi, arloesedd, materion trawsddiwylliannol, rheoli talent ac amrywiaeth, deddfwriaeth cyflogaeth a defnyddio metrigau a dadansoddeg adnoddau dynol. Fe welwch sut mae arweinyddiaeth, gwaith tîm a newid sefydliadol yn cyfrannu at ganlyniadau sefydliadol cadarnhaol.
Mae'r cwrs Rheolaeth gyda Rheolaeth Adnoddau Dynol yn canolbwyntio ar amrywiaeth o fusnesau gan gynnwys busnesau newydd, cwmnïau bach a chanolig eu maint yn y sectorau creadigol, digidol, uwch-dechnoleg, biowyddorau, twristiaeth, lletygarwch a sectorau diwydiannol eraill hyd at sefydliadau yn y sector cyhoeddus (llywodraeth) a dielw.
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Ym Mlwyddyn 1, bydd myfyrwyr yn cymryd 80 credyd o’r pynciau canlynol, Cyflwyniad i Faterion Rheolaeth Gyfoes mewn Moeseg, Cynaliadwyedd, HRM, a Thwristiaeth, Cyflwyniad i Gylch-bywyd Gweithiwr ac Egwyddorion Rheolaeth a Sefydliadau. Mae modiwlau dewisol hefyd ar gael mewn pynciau fel Dulliau Dadansoddi Busnes a Sylfaen i Farchnata. Gall myfyrwyr hefyd ddewis modiwlau dewisol o fodiwlau lefel 4 eraill yr Ysgol Busnes neu o rywle arall yn y Brifysgol, yn amodol ar gyfyngiadau amserlen.
Ym Mlwyddyn 2, bydd myfyrwyr yn cymryd 80 credyd o'r pynciau canlynol, Cynllunio a Chydlynu Rheolaeth, Strategaeth Weithrediadau ar draws y Fenter ac Egwyddorion Arweinyddiaeth ac Ymgysylltiad Gweithwyr. Mae modiwlau dewisol hefyd ar gael mewn pynciau fel Systemau Gwybodaeth Busnes, Y Gyfraith ar gyfer Busnes ac Ymchwil Marchnata a CRM. Gall myfyrwyr hefyd ddewis modiwlau dewisol o fodiwlau lefel 5 eraill yr Ysgol Busnes neu o rywle arall yn y Brifysgol, yn amodol ar gyfyngiadau amserlen a rhagofynion.
Ym Mlwyddyn 3, bydd myfyrwyr yn cymryd 80 credyd o bynciau fel Busnes Rhyngwladol a Chymhwysedd Byd-eang. Mae modiwlau dewisol hefyd ar gael mewn pynciau fel Llywodraethu Corfforaethol, Menter, Creadigrwydd ac Arloesedd a Rheolaeth Strategol. Gall myfyrwyr hefyd ddewis modiwlau dewisol o fodiwlau lefel 6 eraill yr Ysgol Busnes neu o rywle arall yn y Brifysgol, yn amodol ar gyfyngiadau amserlen a rhagofynion.
Mae cynnwys y cwrs wedi'i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Mae gennym ddewis eang o fodiwlau a dulliau i chi allu astudio yn y Gymraeg, ond efallai nid fydd pob un o'r pynciau uchod ar gael drwy Gyfrwng y Gymraeg.
Cyfleusterau
Cyfleusterau Cyffredinol y Brifysgol
Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau
Mae ein pedair llyfrgell yn cynnig amrywiaeth o amgylcheddau astudio braf gan gynnwys mannau gweithio cydweithredol, ystafelloedd cyfarfod a mannau tawel i astudio.
Mae yma gasgliad mawr o lyfrau a chylchgronau, ac mae llawer o'r cylchgronau ar gael ar gyfrifiadur mewn fformat testun llawn.
Mae gennym hefyd un o’r archifau prifysgol mwyaf nid yn unig yng Nghymru ond hefyd drwy holl wledydd Prydain. Yn gysylltiedig â'r archifau mae casgliadau arbennig o lyfrau printiedig prin.
Adnoddau Dysgu
Mae yma ddewis eang o adnoddau dysgu, sy’n cael eu cefnogi gan staff profiadol, i’ch helpu i astudio.
Mae gwasanaethau TG y Brifysgol yn darparu cyfleusterau a gwasanaethau cyfrifiaduro, cyfryngau a reprograffeg sy’n cynnwys:
- Dros 1,150 o gyfrifiaduron i fyfyrwyr, gyda rhai ystafelloedd cyfrifiaduron ar agor 24 awr bob dydd
- Blackboard, rhith-amgylchedd dysgu masnachol, sy’n galluogi i ddeunydd dysgu fod ar gael ar-lein.
Costau'r Cwrs
Costau Cyffredinol yn y Brifysgol
Myfyrwyr Cartref (DU)
- Cost cwrs israddedig llawn-amser yw £9,000 y flwyddyn (mynediad yn 2021/22 ac yn 2022/23).
- Y ffi ar gyfer yr blwyddyn ar leoliad a blwyddyn profiad rhyngwladol yw £1,350 (2021/22 a 2022/23).
- Mwy o wybodaeth am ffioedd a chyllid i fyfyrwyr Cartref (DU).
Myfyrwyr Rhyngwladol (yn cynnwys yr UE)
Costau Ychwanegol
Mae yna hefyd rai costau ychwanegol cyffredin sy'n debygol o godi i fyfyrwyr ar bob cwrs, er enghraifft:
- Os dewiswch chi astudio dramor neu gymryd y Flwyddyn Profiad Rhyngwladol fel rhan o'ch cwrs.
- Os ydych chi'n mynd i'ch Seremoni Raddio, bydd cost llogi gŵn (£25- £75) a chost am docynnau i westeion ychwanegol (tua £12 yr un).
Costau ychwanegol cwrs-benodol
Yn dibynnu ar y cwrs rydych chi'n ei astudio, efallai y bydd costau ychwanegol cwrs-benodol y bydd gofyn i chi eu talu. Gellir rhoi'r costau hyn mewn tri chategori:
- Costau Gorfodol: mae'r rhain yn gysylltiedig â modiwl craidd neu orfodol penodol y mae'n ofynnol i chi ei gwblhau i gwblhau eich cymhwyster e.e. teithiau maes gorfodol, gwisgoedd i fyfyrwyr ar leoliad, gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
- Costau Angenrheidiol: efallai na fydd pob myfyriwr yn cael y costau hyn, a bydd yn amrywio yn dibynnu ar y cwrs e.e. aelodaeth o gorff proffesiynol, teithio i leoliadau, meddalwedd arbenigol, cyfarpar diogelu personol.
- Costau Dewisol: mae'r rhain yn dibynnu ar eich dewis o fodiwlau neu weithgaredd, ac fe'u dangosir er mwyn rhoi syniad ichi o'r costau dewisol a allai godi i sicrhau bod cymaint o wybodaeth â phosibl ar gael i chi cyn i chi wneud eich dewis. Gall y rhain gynnwys digwyddiadau graddio ar gyfer eich cwrs, teithiau maes dewisol, tripiau Wythnos Groeso.
Gofynion Mynediad
TGAU: Mathemateg gradd C/4 yn ofynnol, os na chaiff ei ddangos gan y cymhwyster/cymwysterau Lefel 3.
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 104-136 pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.:
- Lefel A: Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol a Sgiliau Allweddol fel rheol
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC: DMM- DDD
- Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt: DMM - DDD
- Diploma’r Fagloriaeth Ryngwladol: derbynnir
- Access: Pasio yn ofynnol
- Bagloriaeth Cymru: Byddwn yn derbyn y cymhwyster hwn ar y cyd â chymwysterau lefel 3 eraill
- Lefelau T: Ystyrir lefelau T mewn pwnc perthnasol fesul achos
- Project Estynedig: Gall y pwyntiau gynnwys Project Estynedig (EPQ) perthnasol ond rhaid iddynt gynnwys o leiaf 2 lefel A llawn, neu gyfwerth.
Rydym yn hapus i dderbyn cyfuniadau o'r cymwysterau a restrir uchod, yn ogystal â chymwysterau Lefel 3 amgen fel City & Guilds, Cwrs Mynediad a Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn.
Ymgeiswyr Rhyngwladol: derbyniwn gymwysterau ymadael â’r ysgol cyfwerth â lefel A/Lefel 3 a/neu diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg penodol). manylion yma.
*I gael rhestr lawn o gymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch i www.ucas.com.
TGAU: Mathemateg gradd C/4 yn ofynnol, os na chaiff ei ddangos gan y cymhwyster/cymwysterau Lefel 3.
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 104-136 pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.:
- Lefel A: Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol a Sgiliau Allweddol fel rheol
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC: DMM- DDD
- Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt: DMM - DDD
- Diploma’r Fagloriaeth Ryngwladol: derbynnir
- Access: Pasio yn ofynnol
- Bagloriaeth Cymru: Byddwn yn derbyn y cymhwyster hwn ar y cyd â chymwysterau lefel 3 eraill
- Lefelau T: Ystyrir lefelau T mewn pwnc perthnasol fesul achos
- Project Estynedig: Gall y pwyntiau gynnwys Project Estynedig (EPQ) perthnasol ond rhaid iddynt gynnwys o leiaf 2 lefel A llawn, neu gyfwerth.
Rydym yn hapus i dderbyn cyfuniadau o'r cymwysterau a restrir uchod, yn ogystal â chymwysterau Lefel 3 amgen fel City & Guilds, Cwrs Mynediad a Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn.
Ymgeiswyr Rhyngwladol: derbyniwn gymwysterau ymadael â’r ysgol cyfwerth â lefel A/Lefel 3 a/neu diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg penodol). manylion yma.
*I gael rhestr lawn o gymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch i www.ucas.com.
Gofynion Cyffredinol y Brifysgol
I astudio cwrs gradd mae’n rhaid i chi gael isafswm o bwyntiau tariff UCAS. Am eglurhad manwl o bwyntiau tariff UCAS, ewch i www.ucas.com.
Rydym yn derbyn myfyrwyr â phob math o gymwysterau a chefndiroedd ac yn ystyried pob cais yn unigol.
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gael sgiliau sylfaenol da ond mae’r Brifysgol hefyd yn gweld pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth.
Mae’n bolisi gan y Brifysgol i ystyried ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr anabl yn yr un modd â; phob cais arall.
Rydym yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn sy’n medru dangos fod ganddynt y gallu a’r ymrwymiad i astudio rhaglen prifysgol. Bob blwyddyn rydym yn cofrestru nifer sylweddol o fyfyrwyr hŷn. Am fwy o wybodaeth am astudio fel myfyriwr aeddfed, ewch i adran Astudio ym Mangor.
Gyrfaoedd
Mae galw mawr ymhlith ystod eang o gyflogwyr am sgiliau arbenigol graddedigion y cwrs Rheolaeth gyda Rheolaeth Adnoddau Dynol. Byddwch yn datblygu dealltwriaeth lefel uchel o ddatblygiadau cyfoes yn y sector deinamig hwn, wrth ddatblygu sgiliau uwch i lwyddo yn y gweithle byd-eang.
Mae ar bob sefydliad angen rheolwyr a rheolaeth adnoddau dynol ac mae cydnabyddiaeth gynyddol o hynny wedi arwain at gynnydd sylweddol yn y cyfleoedd sydd ar gael. Bydd y rhaglen radd Rheolaeth gyda Rheolaeth Adnoddau Dynol yn caniatáu ichi feithrin arbenigedd mewn diwylliannau gweithio a gofynion statudol rheoli pobl. Byddwch yn meithrin sgiliau creadigol wrth ddatrys problemau ac yn datblygu yn rhywun y byddai busnesau bach a mawr, y sector cyhoeddus a’r sector preifat, ynghyd ag elusennau a mentrau cymdeithasol yn awyddus i’w recriwtio i weithio ym maes adnoddau dynol. Gallech hefyd ymgymryd â rolau rheoli cyffredinol, neu fod mewn sefyllfa gref i gychwyn eich menter eich hun. Mae'n rhaglen sy'n agor llawer o ddrysau ac yn caniatáu ichi ddatblygu gyrfa sy’n troi o amgylch pobl.
Os dewiswch gymryd lleoliad gwaith fel rhan o'ch rhaglen radd, mae agoriadau gyda chyflogwyr lleol yn y sector preifat a’r sector cyhoeddus.
Cyfleoedd ym Mangor
Mae Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn cynnig amryw o adnoddau i’ch helpu i gyflawni eich amcanion ar ôl graddio.
Gwobr Cyflogadwyedd Bangor (GCB)
Mae Gwobr Cyflogadwyedd Bangor yn gwrs ar-lein cynhwysfawr y gallwch ei wneud yn ôl eich cyflymder eich hun, gan fynd â chi trwy'r holl gamau y mae'n rhaid i chi eu cymryd i archwilio, paratoi a gwneud cais am eich gyrfa ddelfrydol.
Rhaglen Interniaeth Prifysgol Bangor
Mae Prifysgol Bangor yn cynnal cynllun interniaeth â thâl yn adrannau academaidd a gwasanaethau’r Brifysgol.
Gwirfoddoli
Mae gwirfoddoli yn ehangu eich profiadau ac yn gwella eich cyflogadwyedd. Cewch fwy o wybodaeth am wirfoddoli ar wefan Undeb y Myfyrwyr.
Gweithio tra'n astudio
Mae TARGETconnect yn hysbysebu swyddi lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i raddedigion, cyfleodd profiad gwaith ac interniaethau a chyfleon gwirfoddol.
Adroddiad Cyflawniad Addysg Uwch (HEAR)
Ceir pob myfyriwr sy’n graddio adroddiad terfynol HEAR. Mae’r adroddiad yn rhestru holl gyflawniadau academaidd ac allgyrsiol fel bod darpar gyflogwyr yn ymwybodol o’r sgiliau ychwanegol rydych wedi eu hennill tra yn y Brifysgol.