Fy ngwlad:
""

Ysgol Feddygol Gogledd Cymru

Croeso

Rydym wrth ein bodd eich bod wedi dewis ymuno â ni yn Ysgol Feddygol Gogledd Cymru, sy'n newydd ac yn tyfu. Wrth i chi ddechrau eich taith drawsnewidiol gyda ni, rwy'n gwybod y byddwch yn cael eich cefnogi a'ch annog ar hyd eich llwybr dewisol. Bydd ein hamrywiaeth o raglenni gradd heriol ac sy'n seiliedig ar ymchwil, a addysgir gan staff academaidd profiadol a chymwys iawn, yn eich grymuso i ddod yn raddedigion gwybodus, cyflogadwy ac arloesol.

Wrth i chi ddechrau Wythnos Groeso, gwyddoch mai ein ffocws yw dysgu o ansawdd a datblygiad personol, gan sicrhau bod eich blynyddoedd o astudio yma yn bleserus ac yn ffrwythlon.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am eich cwrs neu drefniadau, mae croeso i chi gysylltu â ni. Rydym yn Ysgol gyfeillgar ac rydym am eich helpu i ymgartrefu yn eich astudiaethau yn gyflym ac yn hawdd. Bydd ein Harweinwyr Cyfoedion hefyd yno i'ch cefnogi yn ystod ac ar ôl Wythnos Groeso.

Edrychwch ar eich amserlen a gwybodaeth ddefnyddiol am ddechrau tymor llyfn.

Croeso!

Yr Athro Stephen Doughty
Pennaeth yr Ysgol

Amserlenni Israddedig

Gallwch weld eich amserlen trwy ddewis eich grŵp pwnc neu deitl eich cwrs

Amserlenni Israddedig

Gallwch weld eich amserlen trwy ddewis eich grŵp pwnc neu deitl eich cwrs

Amserlenni Ôl-raddedig

Gallwch weld eich amserlen trwy ddewis eich grŵp pwnc neu deitl eich cwrs

Amserlenni Ôl-raddedig

Gallwch weld eich amserlen trwy ddewis eich grŵp pwnc neu deitl eich cwrs

Arweinwyr Cyfoed yn bwyta 'Candy Floss' tu allan i Bar Uno ym Mhentref Ffriddoedd yn ystod Wythnos Groeso

Arweinwyr Cyfoed

Bydd eich Arweinydd Cyfoed, sy'n fyfyriwr presennol sydd wedi'i hyfforddi i gynorthwyo myfyrwyr newydd, yn estyn allan atoch trwy e-bost, felly cadwch lygad ar eich mewnflwch. Nid yn unig y byddant yn cynnig arweiniad trwy e-byst, ond byddwch hefyd yn cael cyfle i gwrdd â nhw yn bersonol yn ystod yr Wythnos Groeso.