Ymunwch â Dr Sarah Cooper, Darlithydd mewn Ffoneteg, ar gyfer y Sesiwn Blasu ar-lein AM DDIM
Pam mae gan siaradwyr ail iaith acen amlwg yn aml? A all oedolion byth swnio'n gwbl frodorol mewn ail iaith, ac a yw'n bwysig? Mae'r sesiwn hon yn archwilio sut a pham mae acenion yn dod i'r amlwg pan fyddwn yn dysgu ieithoedd newydd, beth sy'n gwneud i rai lleferydd swnio'n anoddach nag eraill, a sut mae gwrandawyr yn aml yn barnu siaradwyr yn seiliedig ar eu hynganiad. Byddwn hefyd yn archwilio'r hyn y gall ieithyddiaeth ei ddatgelu am y materion hyn, gan dynnu ar feysydd fel ffoneteg a ffonoleg, caffael ail iaith, a chymdeithaseg-ieithyddiaeth. Erbyn y diwedd, bydd gennych ddealltwriaeth newydd o sut mae dysgu ieithoedd yn gweithio - a sut y gall ei hastudio newid y ffordd rydym yn meddwl am acen.
Cewch weld ein Hysbysiadau Preifatrwydd yma. Trwy gyflwyno'r ffurflen gofrestru rydych yn cytuno â thelerau defnyddio a hysbysiad preifatrwydd y Brifysgol. Cewch gysylltu â ni ar unrhyw adeg i dynnu'ch cydsyniad yn ôl neu newid eich dewisiadau cydsyniad.
Caiff y sesiwn ei chyflwyno trwy gyfrwng y Saesneg.
Archwiliwch y gyfres Sesiynau Blasu: