Barddoniaeth yn yr Ardd Fotaneg
Ymunwch â rhai o staff ysgrifennu creadigol y Brifysgol am ddarlleniad barddoniaeth sy’n archwilio’r cysylltiadau rhwng barddoniaeth, bioleg ac ecoleg mewn digwyddiad awyr agored yn hyfrydwch Gardd Fotaneg Treborth.
Bydd amryw o feirdd lleol a beirdd ar ymweliad yn darllen eu gwaith, gan gynnwys Joey Frances, Maria Sledmere, Siân Melangell Dafydd, Fiona Cameron, Catrin Menai, James Wilkes a Zoë Skoulding.
Digwyddiad cyhoeddus yn rhad ac am ddim yw hwn ond mae angen archebu lle.
Manylion:
Cyfarfod wrth y tŷ gwydr yng Ngardd Fotaneg Treborth 7 Mai 1.00pm.
Rydym yn gobeithio am dywydd braf ond dewch â dillad glaw os yw'r rhagolygon yn anffafriol.
Digwyddiad awyr agored yw hwn a fydd yn cynnwys tro byr o amgylch y gerddi.
Cefnogir y digwyddiad gan Brifysgol Bangor.