Graffeg Uwch yn R(Gweminar Ddiwrnod)
Gweminar deuddydd.
22/05/2023 : Graffeg Uwch yn R (1) : 09:00 - 12:30
23/05/2023 : Graffeg Uwch yn R (2) : 09:00 - 12:30
Mae hwn yn gwrs undydd dwys graffeg uwch gydag R. Gelwir y gorchmynion plotio safonol yn R yn Graffeg Sylfaen. Yn y cwrs hwn, byddwn yn cynnig hyfforddiant mewn pecynnau graffeg uwch - yn benodol, ggplot2. Gall y pecyn ggplot2 greu graffeg ddatblygedig iawn a llawn gwybodaeth. Rhagdybir gwybodaeth sylfaenol o R ar gyfer y cwrs hwn. Yn benodol, dylai'r sawl sy'n ei ddilyn fod yn gyfarwydd â'r meysydd yr ymdrinnir â hwy yn y cwrs Cyflwyno R. Bydd y cwrs hwn yn gymysgedd o ddarlithoedd a sesiynau ymarferol ar gyfrifiadur.
Y nod yw galluogi'r rheiny sy'n cymryd rhan i gymhwyso'r technegau a gyflwynir i'w data eu hunain. Mae'r cwrs hwn yn addas ar gyfer ystod eang o ymgeiswyr.
Amlinelliad o’r cwrs:
- Gramadeg graffeg;
- Meistroli'r gramadeg;
- Grwpiau, geoms, ystadegau a haenau;
- Graddfeydd, echelinau ac allweddau;
- Ffasedau