Dyma'r ail sgwrs i gael ei threfnu gan Athroniaeth, Moeseg a Chrefydd, Prifysgol Bangor, mewn cydweithrediad â Chanolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol Cymru i ddathlu Mis Hanes Merched 2024.
Nos Fawrth, 12fed o Fawrth am 7yh, bydd Bardd Cenedlaethol Cymru a Chymrawd Anrhydeddus cyfredol Canolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol Cymru, Hanan Issa, yn rhoi sgwrs am ei gwaith, ei dylanwadau creadigol a'i gwahanol weithgareddau ymgysylltu diddorol.
Bydd y sgwrs yn digwydd drwy gyfrwng y Saesneg dros Zoom ac am ddim, ond bydd eisiau cofrestru drwy ddilyn y ddolen yma i sicrhau lle: Sgwrs Hanan Issa.
Os oes gennych unrhyw gwestiwn yn y cyfamser, mae croeso ichi gysylltu â Dr Gareth Evans-Jones ar bob cyfri: g.evans-jones@bangor.ac.uk.