Ymgysylltu — darlithoedd ym meysydd peirianneg, cyfrifiadura a dylunio
Everything you wanted to know about solar generated electricity but were afraid to ask
Croeso i bawb.
Dewch i ni ddod at ein gilydd i Ymgysylltu, rhannu, ac ysbrydoli!
Ymunwch â ni ar ddydd Mercher 21 Chwefror, am 12 p.m. yn 211, Stryd y Deon lle cawn ddarlith arbennig gan Dr Noel Bristow (Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg, Prifysgol Bangor)
Ymgysylltu – cyfres o ddarlithoedd am amrywiol bynciau sy’n ymwneud â Pheirianneg, Cyfrifiadura a Dylunio, a drefnir gan Gangen Myfyrwyr Sefydliad y Peirianwyr Trydanol ac Electronig ac Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Prifysgol Bangor.
“Everything you wanted to know about solar generated electricity but were afraid to ask”
Mae harneisio trydan o olau'r haul trwy baneli solar ffotofoltaidd yn dechnoleg ynni adnewyddadwy sy'n hanfodol ar gyfer cyflawni allyriadau Sero Net. Ar hyn o bryd mae solar ffotofoltaidd ymhlith y ffynonellau ynni adnewyddadwy mwyaf cost effeithiol yn fyd-eang, ac mae’r costau’n gostwng yn barhaus. Bydd y cyflwyniad hwn yn ymchwilio i'r ffiseg sylfaenol y tu ôl i gynhyrchu trydan solar, gan symud ymlaen i brosesau cynllunio ac adeiladu ffermydd solar. Bydd y pynciau'n cynnwys yr amrywiol ddeunyddiau a ddefnyddir, priodweddau trydanol celloedd solar, gwerthuso perfformiad, ystyriaethau cysgod, a mwy - cyflwyniad cynhwysfawr i solar ffotofoltaidd a fydd yn ateb unrhyw gwestiynau oedd gennych yr oedd arnoch ofn eu gofyn.
Cafodd Dr Noel Bristow radd BSc mewn Microelectroneg a Pheirianneg Systemau Cyfrifiadurol o Goleg Prifysgol Gogledd Cymru Bangor yn 1988. Ar ôl graddio, dechreuodd ar yrfa fel ymgynghorydd cyfrifiadurol tan 2008, pan aeth i wneud astudiaethau pellach, gan gwblhau MSc mewn Technoleg Systemau Ynni Adnewyddadwy ym Mhrifysgol Loughborough. Yn dilyn hynny, bu’n rhedeg cwmni electroneg yn arbenigo mewn gweithgynhyrchu offer monitro ffotofoltaidd. Yn ddiweddarach, yn 2017, enillodd ei PhD o Fangor. Ar hyn o bryd, mae’n gweithio fel Darlithydd mewn Rheoli Data Piblinell Rhyngrwyd Pethau ym Mhrifysgol Bangor. Dechreuodd diddordeb Dr Bristow mewn solar ffotofoltaidd tra oedd ar alldaith i Fynyddoedd Himalaia yn 1992, ac yno, fel peiriannydd lloerennau, bu'n goruchwylio holl weithgarwch cynhyrchu pŵer yr alldaith yn y gwersyll wrth droed y mynydd ac ar y mynydd ei hun.