Ymunwch â Ni yng Ngŵyl Haf Bangor!
Rydym ar drothwy gŵyl haf flynyddol Bangor unwaith eto a fydd yn difyrru a diddanu pobl leol ac ymwelwyr eto eleni, ac rydym yn falch iawn o fod yn un rhan o’r arddangosfa ddiwylliannol amrywiol hon a’r awyrgylch fywiog. Cynhelir y carnifal ar 17 Awst yng nghanol y ddinas, ac mae’n addo bod yn ddiwrnod llawn dop o weithgareddau hwyliog.
Eleni, bydd Sefydliad Confucius yn cynnig gweithdai am ddim i ddathlu amrywiaeth ddiwylliannol. Gall y cyfranwyr edrych ymlaen at sesiynau rhyngweithiol a wnelo â gwahanol agweddau ar gelfyddydau Tsieineaidd, ac fe fydd yn gyfle unigryw am gyfnewid diwylliannol.
Mae pobl Bangor ac ymwelwyr fel ei gilydd yn edrych ymlaen yn eiddgar at yr ŵyl, sydd bellach yn un o uchafbwyntiau’r haf ym Mangor. Bydd yn cynnwys gorymdeithiau lliwgar, cerddoriaeth fyw a stondinau o fwyd amheuthun, ac yn cynnwys rhywbeth at ddant pawb. Mae cynnwys Sefydliad Confucius eleni yn ychwanegu dimensiwn newydd, ac yn ffordd o gyflwyno pobl leol ac ymwelwyr i ddiwylliannau byd-eang a hynny mewn amgylchedd gŵyl. Prif nod y digwyddiad yw meithrin ysbryd cymunedol, anrhydeddu dinas Bangor a chreu achlysur sy’n dod â phawb ynghyd.
Ymunwch â ni yn Cafe Deiniol ar 17 Awst am ddiwrnod o ddathlu, diwylliant a chymuned.
Edrychwn ymlaen at eich gweld chi yno!