Bydd Prifysgol Bangor yn cynnal eu Diwrnod Cymunedol cyntaf erioed yn yr hydref, ar ddydd Sadwrn 14 Hydref rhwng 11am a 3pm.
Bydd yn ddigwyddiad hwyliog i'r holl deulu gyda'r gweithgareddau am ddim, a gobeithio y bydd posib i chi ymuno â ni!
Dyma gyfle i’r Brifysgol agor ei drysau i’r gymuned leol, gan arddangos sut mae Prifysgol Bangor yn cyfrannu at fywyd cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol gogledd Cymru a thu hwnt trwy ystod o weithgareddau, o ymchwil ac addysgu i gyfleusterau hamddena a pherfformiadau byw.
Bydd y mwyafrif o’r gweithgareddau yn digwydd o gwmpas Neuadd Prichard-Jones a Neuadd Powis ym Mhrif Adeilad y Brifysgol, a Chanolfan Celfyddydau ac Arloesi Pontio.
Digwyddiad am ddim. Cofrestrwch ar Eventbrite er mwyn sicrhau eich tocyn a derbyn yr wybodaeth ddiweddaraf
Mwy o fanylion i ddilyn dros yr wythnosau nesaf!