Fy ngwlad:

Darganfod y Gorau o Ddinas Bangor a'r Ardal

Pethau i'w Gweld a'u Gwneud

Rydych chi wedi mynychu'r sgwrs pwnc, wedi cael taith o’r llety myfyrwyr, ac wedi profi'r awyrgylch ar y campws. Os oes gennych ychydig o amser sbâr cyn mynd adref neu os ydych chi'n ymweld am y penwythnos, beth am archwilio mwy o'r hyn sydd gan Fangor a'r ardal i'w gynnig? Hyd yn oed os ydych yn gyfarwydd â'r ardal, efallai byddwch yn darganfod rhywbeth newydd i'w brofi yma!

Myfyrwyr yn cerdded yn y coed yng Ngardd Fotaneg Bangor

Gardd Fotaneg Treborth

Ewch am dro hamddenol trwy erddi helaeth, coetir brodorol, dolydd, a thai gwydr. Mae'n lle perffaith i ymlacio a chysylltu â natur.

Criw o fyfyrwyr yn eistedd lawr yn y sinema yn Pontio ac yn gwylio ffilm

Mwynhau Ffilm Neu Dddigwyddiad yn Pontio

Os wyt eisoes wedi ymweld yn ystod y Diwrnod Agored, beth am edrych ar y digwyddiadau gyda'r nos? O ffilmiau a sioeau comedi i gynyrchiadau theatr, mae yna raglen o ddigwyddiadau amrywiol yn Pontio.
 

Llefydd Eraill Sy'n Werth Ymweld  Hwy

  • Y Gwersyll - Ewch am dro drwy'r coetir ger y Brifysgol i gael golygfeydd syfrdanol o'r ddwy bont sy'n cysylltu'r tir mawr ag Ynys Môn.
  • Eglwys Gadeiriol Bangor - Safle Cristnogol ers y 6ed Ganrif, mae Eglwys Gadeiriol Bangor yn cynnwys colofnau gothig a ffenestri lliw gwydr syfrdanol.
  • Castell Penrhyn - Mae rhan o Lwybr Arfordir Cymru yn rhedeg trwy dir yr eiddo Ymddiriedolaeth Genedlaethol hwn, sydd hefyd yn gartref i parkrun Penrhyn ar foreau Sadwrn.
  • Oriel Gelf a'r Amgueddfa Storiel - Mae'r amgueddfa fechan hon yn cynnwys casgliadau hanesyddol lleol a gwaith celf cyfoes gan artistiaid lleol.
     
Tri Myfyrwyr yn cerdded ar Stryd Fawr Bangor
Coffee machine in a cafe

Caffis Croesawgar a Bywiog

P'un a ydych chi'n chwilio am encil clyd neu awyrgylch bywiog, mae gan Fangor rywbeth i bawb.

  • Mae caffi Blue Sky wedi'i leoli oddi ar y Stryd Fawr, yn cynnig awyrgylch cynnes a chroesawgar, gan ei wneud yn ffefryn ymhlith trigolion ac ymwelwyr.
  • Mae Domu, ger Eglwys Gadeiriol Bangor, yn gwerthu bwyd cartref, ac mae gan y caffi bolisi dim gwastraff.
  • Mae Bwyd Da, ar y Stryd Fawr, yn sefyll allan fel caffi cynaliadwy a moesegol.
  • Mae siop goffi Reuben’s yn berffaith ar gyfer coffi a byrbryd ysgafn, wedi'i leoli ym Mangor Uchaf.
     
Myfyrwyr Bangor yn crwydro Parc Cenedlaethol Eryri

Parc Cenedlaethol Eryri

Mae Parc Cenedlaethol Eryri yn gyrchfan antur lle mae llawer o glybiau chwaraeon y Brifysgol yn trefnu gweithgareddau a theithiau rheolaidd. Profwch harddwch Gogledd Cymru ar un o'r gwifrau gwib hiraf a chyflymaf yn Ewrop yn Zip World neu archwilio'r ogofâu tanddaearol a'r trampolînau yn Bounce Below.