Ymchwilio eich opsiynau
Dewch o hyd i gwrs a phrifysgol delfrydol
Defnyddiwch wefan UCAS i edrych ar restr cyrsiau
Mae UCAS yn rhestru'r holl gyrsiau a gynigir, a gallwch chwilio yn ôl prifysgol, pwnc neu leoliad. I gael gwybodaeth sydd wedi ei deilwra a'i phersonoli, defnyddiwch hwb UCAS i gadw eich gwybodaeth mewn un lle.
Ewch i wefannau prifysgolion
Gallwch ddarganfod pa gyrsiau sydd ar gael a gweld gwybodaeth fanwl am y cwrs, y modiwlau y gallwch eu hastudio ac opsiynau eraill a gynigir megis blynyddoedd lleoliad gwaith neu gynlluniau astudio dramor.
Gan na all prifysgolion gynnal digwyddiadau mawr ar y campws ar hyn o bryd, mae llawer yn cynnal digwyddiadau rhithwir. Mae'r rhain yn ffordd wych i chi gysylltu â darlithwyr a staff eraill a dyma'r peth gorau nesaf i fynychu diwrnod agored.
Bydd y mwyafrif o ddigwyddiadau rhithwir yn cynnwys fideos, teithuau 360 a Sgwrs Fyw gyda staff a myfyrwyr, gan gwmpasu'r holl bynciau yr hoffech chi ddarganfod amdanynt ar Ddiwrnod Agored go iawn, fel Bywyd Myfyrwyr, Cyllid Myfyrwyr a Llety.
Sgwrsio â myfyrwyr ar-lein
Mae llawer o brifysgolion yn caniatáu ichi gysylltu â myfyrwyr ar-lein, naill ai ar eu gwefan eu hunain neu trwy'r platfform Unibuddy ar wefan UCAS. Mae myfyrwyr cyfredol yn gwybod yn union sut yr ydych yn teimlo a gallant gynnig cyngor gwych ar astudio, bywyd myfyrwyr, llety a llawer mwy.
Dilynwch brifysgolion ar gyfryngau cymdeithasol
Gallwch ddarganfod y newyddion diweddaraf a chadw golwg ar unrhyw wybodaeth bwysig, megis pa ddigwyddiadau rhithwir sydd ar y gweill trwy edrych ar dudalennau cyfryngau cymdeithasol.
Mae Instagram a YouTube hefyd yn ffynhonnell ardderchog o bob math o fideos - o fideos myfyrwyr i rai penodol am gyrsiau. Ac edrychwch am luniau a fideos o lleoliad y brifysgol, fel y gallwch weld sut le yw'r campws a'r ardal gyfagos.
Dewch â'ch holl ymchwil at ei gilydd
Ar ôl i chi orffen eich ymchwil a'ch bod yn hapus â'ch dewisiadau prifysgol a chwrs, gwnewch yn siŵr bod yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch wedi'i chadw mewn un lle. Yna gallwch ddod â phopeth at ei gilydd a phwyso a mesur eich opsiynau cyn penderfynu ar eich dewisiadau terfynol ar gyfer eich Cais UCAS.