Y Gyflogres
Sylwch na all tîm Cyflogres y Brifysgol roi cyngor treth i chi na newid eich cod treth heb gyfarwyddyd uniongyrchol gan Gyllid a Thollau EF.
Os ydych yn credu bod eich cod treth yn anghywir, neu os oes gennych gwestiynau penodol ynghylch eich rhwymedigaethau treth personol, rhaid i chi gysylltu â Chyllid a Thollau EF yn uniongyrchol. Mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i'r Brifysgol ddefnyddio’r cod treth a ddarparwyd i ni gan Gyllid a Thollau EF ac ni allwn ei newid yn seiliedig ar gais personol.
Ymholiadau am Dreth Incwm: Treth - gwefan Gov.uk
Ymholiadau am Yswiriant Gwladol: Yswiriant Gwladol - gwefan Gov.uk
Bandiau a chyfradd treth: Cyfraddau Treth Incwm a Lwfansau Personol: Cyfraddau a lwfansau cyfredol - GOV.UK
Mae pob cyflogres yn cael ei rhedeg yn fisol. Y diwrnod cyflog yw diwrnod gwaith olaf pob mis (ac eithrio’r Pasg a’r Nadolig).
Mae terfynau amser y gyflogres isod. Dylai adrannau sicrhau y caiff yr holl wybodaeth am bobl sy’n dechrau a gadael swyddi a diwygiadau parhaol i gytundebau gwaith ei chyflwyno i’r adran Adnoddau Dynol cyn gynted â phosibl i'w throsglwyddo i'r adran gyflogres.
Mis | Terfynau Amser |
Ebrill | Dydd Gwener 10fed |
Mai | Dydd Llun 11eg |
Mehefin | Dydd Mercher 10fed |
Gorffennaf | Dydd Gwener 10fed |
Awst | Dydd Llun 10fed |
Medi | Dydd Iau 10fed |
Hydref | Hydref 12fed |
Tachwedd | Dydd Mawrth 10fed |
Rhagfyr | I'w gadarnhau |
Ionawr | Dydd Llun 11eg |
Chwefror | Dydd Mercher 10fed |
Mawrth | Dydd Mercher 10fed |
Er mwyn sicrhau eich bod yn cael eich talu'n gywir ac ar amser, cadwch at y terfynau amser uchod. Ni chefnogir cyflwyniadau hwyr a byddant yn cael eu prosesu yn y mis canlynol.
Mae modd cael mynediad at slipiau cyflog a ffurflenni P60 ar-lein drwy Borth Hunanwasanaeth i Weithwyr iTrent: (iTrent)
Treuliau
Er mwyn sicrhau bod eich treuliau'n cael eu prosesu'n effeithlon, dilynwch y broses gyflwyno isod:
- Rhaid cyflwyno pob hawliad treuliau drwy Birth Hunanwasanaeth i Weithwyr iTrent (iTrent) i’w gael ei awdurdodi gan eich rheolwr llinell.
- Am gyfarwyddiadau manwl ar sut i ddefnyddio’r system a chyflwyno’r hawliad, cyfeiriwch at y canllawiau canlynol (Canllawiau Cyflogres a Threuliau)
- Rhaid i bob hawliad gydymffurfio â'r Polisi Treuliau (Polisi Treuliau).
- Rydym yn argymell adolygu’r polisi hwn cyn cyflwyno eich hawliad i sicrhau ei fod yn dod o fewn y categorïau a'r terfynau cymeradwy.
Dylech fod yn ymwybodol bod pob hawliad treuliau yn destun archwiliadau rheolaidd. Fel rhan o'r broses hon, caiff pob derbynneb ei gwirio am gywirdeb ac i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â pholisïau. Gwnewch yn siŵr bod copïau digidol o'ch derbynebau yn glir ac ynghlwm wrth bob eitem yn eich hawliad.
Gwybodaeth Hanfodol
Lleoliad: Neuadd Reichel (Sut i Ddod o Hyd i Reichel)
Cyswllt e-bost: cyflogres@bangor.ac.uk
Prifysgol Bangor - Cyfeirnod PAYE: 914 / B10153
Park Gwyddoniaeth Menai - Cyfeirnod PAYE: 120/FA96649
Mynediad i system Porth Hunanwasanaeth i Weithwyr iTrent: (iTrent)
Os byddwch yn cysylltu â ni ynglŷn â'ch cyflog:
- Byddwn yn gofyn am gadarnhad o bwy ydych chi (megis eich cyfeirnod gweithiwr neu fanylion personol penodol a gedwir ar ffeil) cyn trafod unrhyw fanylion.
- Ni allwn ddatgelu gwybodaeth cyflogres i drydydd parti heb wirio hynny a’i awdurdodi.
Rhai Cwestiynau Cyffredin am y Gyflogres
Os na allwch gael mynediad i'ch cyfrif Porth Hunanwasanaeth i Weithwyr iTrent, cysylltwch â'r Gwasanaethau Digidol drwy e-bostio desg-gymorth@bangor.ac.uk
Mewngofnodwch i'ch cyfrif Porth Hunanwasanaeth i Weithwyr ac ewch i ‘Fy Nghyflog’ ar ochr chwith y sgrin. Cyn gadael cyflogaeth y Brifysgol, rhaid i chi lawrlwytho eich P60 a'ch slipiau cyflog diweddar. Fel arfer, caiff mynediad i’r Porth Hunanwasanaeth i Weithwyr ei ddiffodd yn fuan ar ôl i chi adael. Er mwyn osgoi oedi yn ddiweddarach, cadwch gopïau o'r dogfennau hyn ar ddyfais bersonol neu storfa yn y cwmwl tra bod gennych fynediad atynt.
Bydd eich P45 ar gael drwy Borth Hunanwasanaeth i Weithwyr iTrent ar ôl i chi adael cyflogaeth Prifysgol Bangor. Byddwch yn gallu cael mynediad i'r system Porth Hunanwasanaeth i Weithwyr am bythefnos ar ôl eich dyddiad gadael swyddogol. Rhaid i chi lawrlwytho a chadw eich P45 ac unrhyw slipiau cyflog terfynol yn ystod y cyfnod hwn.
Mewngofnodwch i Borth Hunanwasanaeth i Weithwyr iTrent. Pan fo’r dangosfwrdd yn ymddangos, dewiswch Gweld Proffil ar ochr chwith y sgrin, yna sgroliwch i'r adran ‘Manylion banc’. Os oes angen newid eich manylion banc, yna mae angen i chi gysylltu â’r adran gyflogres (cyflogres@bangor.ac.uk) a rhoi gwybod yr hoffech newid eich manylion. Byddwn yn eich ffonio i wneud gwiriadau diogelwch pellach cyn gwneud newidiadau.
Sylwch nad yr adran Gyflogres sy’n ymdrin â'r ceisiadau hyn. Ar gyfer pob ymholiad sy’n ymwneud â chostau staff, cysylltwch â'r Cyfrifydd Rheoli sy'n gyfrifol am eich adran benodol.