Rydym yn deall y gall gwrthdaro ac argyfyngau dyngarol yn y byd gael effaith wirioneddol arnoch chi ac eraill yn y brifysgol. Rydym yn meddwl am bawb y mae’r digwyddiadau hyn yn effeithio arnynt. Mae eich cefnogi yn flaenoriaeth, ac rydym wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd lle rydych yn teimlo eich bod yn cael eich gwerthfawrogi, yn cael eich parchu, ac yn gallu ceisio cefnogaeth pan fydd ei hangen arnoch. Rydym yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau cefnogi, ac yn annog unrhyw un sydd â phryderon i gysylltu â ni am gefnogaeth.
- Gwasanaeth Llesiant a Chynwysoldeb Mae ein Gwasanaeth Llesiant a Chynwysoldeb yma os oes arnoch angen siarad â rhywun ynglŷn â'ch iechyd meddwl neu os hoffech gael mynediad at gefnogaeth emosiynol. Gallwch gysylltu â’r tîm trwy e-bostio gwasanaethaulles@bangor.ac.uk.
- Mae ein Rhaglen Cefnogi Myfyrwyr 24/7 yn cynnig cefnogaeth gyda’ch anghenion lles ac iechyd meddwl.
- Adnoddau hunangymorth a lles: Mae yna ystod o adnoddau lles ac offer hunangymorth ar gael drwy gydol y flwyddyn ar ein gwefan.
- Cefnogaeth gan eich cyd-fyfyrwyr: Efallai y byddwch hefyd yn canfod cefnogaeth ac undod drwy gymdeithasau a rhwydweithiau myfyrwyr, yn enwedig y rhai sy'n gysylltiedig â chenedligrwydd, diwylliant, ffydd neu ddiddordebau cyffredin.
- Cefnogaeth Academaidd: Os oes angen cymorth academaidd neu addasiadau arnoch chi, cysylltwch â'ch Tiwtor Personol.
- Tîm y Gaplaniaeth: Mae Tîm y Gaplaniaeth yn cynnig gofal a chefnogaeth fugeiliol aml-ffydd os hoffech siarad. Gallwch gysylltu â’r tîm drwy e-bostio: caplaniaeth@bangor.ac.uk.
- Llwyddiant Myfyrwyr: Tîm Cyngor Myfyrwyr: Gall staff eich cefnogi gyda phryderon lles ac ariannol, gan gynnwys cyngor ynghylch fisâu, cyfyngiadau teithio, ac arweiniad ar wneud cais i Gronfa Galedi'r Brifysgol. Os ydych chi'n fyfyriwr rhyngwladol, anfonwch e-bost at internationalsupport@bangor.ac.uk, os ydych chi'n fyfyriwr o'r DU cysylltwch â cymorthariannol@bangor.ac.uk.
Peidiwch ag oedi cyn manteisio ar y gefnogaeth sydd ar gael - rydym ni yma i helpu. Os nad ydych yn siŵr ble i ddechrau, gall staff yr hyb yn y Brif Lyfrgell eich helpu i ddod o hyd i gefnogaeth addas a'ch rhoi ar y trywydd cywir. Gallwch gysylltu â ni gan ddefnyddio'r cyfeiriadau e-bost uchod i drefnu apwyntiad.
Isod mae rhai sefydliadau allanol sy'n cynnig cymorth iechyd meddwl ychwanegol:
Os oes angen cymorth brys arnoch, ffoniwch 999.
Mae cefnogaeth gydag iechyd meddwl ar gael yng Nghymru ddydd a nos drwy ffonio 111 a dewis opsiwn 2.
Gall eich meddyg teulu gynnig cyngor a chefnogaeth hefyd.
C.A.L.L. – Cyngor a Chefnogaeth Gymunedol - Rhadffon 0800 132737 a thecstiwch 'help' at 81066
Y SAMARIAID – Am ddim o unrhyw ffôn ar 116 123.
Llinell Gobaith Papyrus yn y Deyrnas Unedig 0800 068 41 41 (testun 88247).