Fy ngwlad:

Croeso i'ch Hyb Ymgeiswyr

Archwiliwch beth sy'n gwneud Prifysgol Bangor yn arbennig, o'n lleoliad godidog i'n cymuned gefnogol; mae dewis Ieithoedd Modern ym Mangor yn ddechrau taith gyffrous. Mae astudio ym Mangor yn golygu dysgu gan arbenigwyr angerddol sy'n rhoi eich llwyddiant chi yn gyntaf. Yma, byddwch yn ennill y wybodaeth a'r sgiliau i lunio'ch gyrfa gyda hyder.

Eich Hyb Ymgeiswyr yw eich lle i fynd ar gyfer popeth sydd ei angen arnoch i baratoi ar gyfer y cam nesaf. Archwiliwch beth sy'n aros amdanoch chi a dechreuwch gynllunio'ch dyfodol heddiw.

Beth i'w ddisgwyl fel myfyriwr Ieithoedd Modern

Mae ein cyrsiau yn cael eu haddysgu gan academyddion sydd gyda'r gorau yn y byd, ac yn angerddol am eu pynciau. Byddwch yn dysgu gan arbenigwyr sydd ar flaen y gad yn eu meysydd, a bydd gennych fynediad at gyfoeth o adnoddau i gefnogi eich astudiaethau. Mae ein tîm ymroddedig o academyddion nid yn unig yn wybodus ond hefyd yn angerdd.

Rydym wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd cefnogol a chynhwysol i'n holl fyfyrwyr. Mae gennym dîm ymroddedig o staff sydd yma i'ch helpu gyda'ch astudiaethau ac i sicrhau eich bod yn cael profiad cadarnhaol ym Mangor.

Gwyliwch ein fideo

Llun o Jonathan Ervine, Darlithydd mewn Ieithoedd Modern

Helo, Dr Jonathan Ervine ydw i, croeso cynnes iawn. Da ni yn falch iawn o weld eich bod chi wedi gwneud cais i astudio yma ym Mangor.

Mae ieithoedd modern yn bwnc hynod o gyffrous.

Os ydych yn dod i Fangor, fe gewch chi gyfle i fod yn rhan o gymuned glos, gyfeillgar a chroesawgar, mewn ardal unigryw rhwng y mynyddoedd a'r môr.

Da chi mynd i gael gwersi gyda phobl sydd yn frwdfrydig iawn am y pwnc ac fe gewch chi gyfle rhyngwladol hefyd sydd yn mynd i helpu chi i ddatblygu sgiliau sydd yn agor llawer o ddrysau. Hefyd bydd yna cyfleoedd i fynd dramor fel rhan o'ch cwrs, i astudio neu weithio tramor.

Os ydych chi eisiau gwybod mwy, cofiwch ddefnyddio'r hafan ymgeiswyr er mwyn cael mwy o wybodaeth am y cwrs a phersbectif myfyrwyr.

Felly diolch yn fawr iawn eto am wneud cais, rydym yn edrych ymlaen at gael cyfle i groesawu chi i'r campws yn fuan.

Cwestiynau Cyffredin

Pan fyddwch chi'n astudio ieithoedd, mae gennych chi wersi iaith sy'n canolbwyntion ar sgiliau fel siarad, ysgrifennu a chyfieithu. Hefyd, mae llawer o'n myfyrwyr yn astudio modiwlau diwylliannol am sinema, llenyddiaeth a hanes gwledydd lle mae pobl yn siarad yr ieithoedd perthnasol. Tu allan o'r dosbarth, mae yn gyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau cyffroes sy'n gysylltiedig ag ieithoedd ac yn rhoi cyfle i chi ddod i nabod myfyrwyr eraill.

Fel arfer, mae gan fyfyrwyr ieithoedd modern tua 9-12 awr o wersi bob wythnos. Mae yna ddarlithoedd a seminarau ag rydym yn gwneud y rhan fwyaf y dysgu mewn grwpiau bychain sy'n helpu i greu deialog rhwng myfyrwyr a staff ac yn rhoi cyfle i chi gofyn cwestiynau a chael adborth.

Ar fodiwlau Iaith, yn aml iawn mae yna arholiad ysgrifenedig ar ddiwedd y semester a hefyd aseiniadau eraill yn ystod y semester (cyflwyniadau, profion gramadeg, aseiniadau gwaith cartref). Ar fodiwlau diwylliannol, fel arfer bydd yna draethodau, gyflwyniadau, ac aseiniadau eraill yn ystod y semester.

Mae rhan fwyaf cyrsiau ieithoedd modern yn parhau am 4 blynedd, sy’n gynnwys blwyddyn dramor ym mlwyddyn tri. Yn ystod y flwyddyn dramor, mae myfyrwyr yn astudio mewn prifysgolion sydd efo cysylltiadau gyda ni, yn dysgu Saesneg mewn ysgolion, neu yn gwneud profiad gwaith. Yn aml iawn, maen nhw’n cael profiadau bythgofiadwy sy’n edrych yn wych ar eu CV.

Cwrdd â rhai o'ch darlithwyr

Dr Sarah Pogoda

Dr Sarah Pogoda

Rydym yn gymuned yma ym Mangor, ac rydym yn byw hynny bob dydd. Mae myfyrwyr a staff yn adnabod ei gilydd yn dda, oherwydd ein bod ni - o gymharu â phrifysgolion eraill - yn adran gweddol fach. Rydym yn dysgu mewn grwpiau bach (sy’n arbennig o wir ar gyfer dosbarthiadau iaith) sy'n ein galluogi i wir adnabod pob myfyriwr, gwrando ar sut maen nhw’n hoffi dysgu ac addasu sut rydym ni’n dysgu i gyd-fynd â hynny. Mae gennym ni hefyd agwedd greadigol iawn at ddysgu ym Mangor, ac mae llawer o gyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau creadigol (e.e. trefnu a chynnal arddangosfa). Y tu allan i’r ystafell ddosbarth, rydym yn trefnu digwyddiadau cymdeithasol hwyliog a chynhwysol, sy’n ein galluogi i ddod i adnabod ein gilydd hyd yn oed yn well. 

Galluogi pobl i gysylltu â phobl ar draws y byd, gan gyfoethogi eu profiad a'u rhagolygon trwy ddysgu sut y gallan nhw lunio eu dyfodol eu hunain trwy siarad sawl iaith a gweld gwir amrywiaeth diwylliannau. Mae astudio iaith a diwylliannau modern rywsut yn golygu plymio i isddiwylliant. Rydych chi'n dysgu am bobl, hanes, y celfyddydau a hyd yn oed economeg. Gyda'r wybodaeth hon a'r holl sgiliau grymuso rydych chi'n eu hennill gyda gradd mewn Ieithoedd a Diwylliannau Modern, rydych chi'n arfogi'ch hun i ddilyn bywyd unigryw a hynod. 

Diwylliannau - Ieithoedd - Trawsnewidiol

Dr Jonathan Ervine

Dr Jonathan Ervine

Roeddwn i'n angerddol am ieithoedd ac yn awyddus iawn i ddysgu mwy am sinema a gwleidyddiaeth yn Ffrainc. Roeddwn eisiau gallu cyfathrebu'n dda yn Ffrainc ac archwilio'r wlad, a llwyddais i wneud hynny yn ystod yr amser a dreuliais yno yn addysgu Saesneg ar lefel gynradd, lefel uwchradd a lefel prifysgol.

Mae llawer o bobl yn meddwl mai dim ond sgiliau cyfathrebu fel ysgrifennu a siarad sydd ynghlwm ag astudio gradd mewn iaith. Mae hynny’n rhan bwysig o ddysgu iaith, ond mae rhan fawr o ddysgu iaith yn ymwneud â dysgu am ddiwylliant neu ddiwylliannau eraill. Byddwch yn cael dealltwriaeth ddiddorol ar leoedd lle mae iaith yn cael ei siarad a'r bobl sy'n ei siarad.

Rydw i wedi mwynhau astudio hiwmor yn fawr iawn, yn enwedig comedi stand-yp, yn Ffrainc. Mae wedi bod yn anhygoel gweld yr amrywiaeth o wahanol ffyrdd y mae pobl yn defnyddio hiwmor a'r ffyrdd y gall fod yn destun ffrae ac yn rhywbeth sydd â'r potensial i ddod â phobl at ei gilydd.

Dau fyfyriwr mewn ystafell yn neuaddau'r Santes Fair. Mae un yn darllen ar y gwely ac un arall yn eistedd wrth ddesg yn teipio ar liniadur.

Sicrwydd o Lety i Ymgeiswyr Clirio

Os ydych ym ymgeisio drwy Clirio am gwrs sydd wedi ei lleoli ar ein campws ym Mangor, rydym yn sicrhau y cewch chi ystafell yn ein neuaddau preswyl cyn belled a'ch bod chi'n dewis Prifysgol Bangor ar UCAS erbyn Dydd Iau, 29 Awst ac yn archebu eich ystafell erbyn Dydd Llun, 2 Medi 2024. Yn anffodus, oherwydd y nifer cyfyngedig o ystafelloedd, nid ydym yn gallu sicrhau lle yn ein llety ar y campws yn Wrecsam.

Myfyrwyr yn cerdded a sgwrrsio yn adeilad Pontio

Cyfleoedd i Ymweld  Phrifysgol Bangor Yn Ystod Clirio 2026

Os ydych wedi cael cynnig i astudio yma, rydym yn eich hannog i ymweld â ni. Wrth ymweld â'r campws, cewch flas go iawn o fywyd myfyriwr yma a chael cyfle i ymgyfarwyddo ag adeiladau’r Brifysgol a dinas Bangor. Rydym yn edrych ymlaen at eich gweld.

Myfyriwr yn gwisgo sbectol haul yn edrych ar ei ffôn symudol, yn pwyso yn erbyn wal

Sut i wneud ffrindiau cyn cychwyn yn y Brifysgol?

Ymunwch ag ymgeiswyr eraill a dod yn rhan o gymuned Bangor cyn cyrraedd hyd yn oed! Cofrestrwch i ymuno â'r ap - 'Campus Connect' a bydd modd gofyn cwestiynau, sgwrsio gyda myfyrwyr presennol a gwneud ffrindiau ag ymgeiswyr eraill ar eich cwrs ac yn y llety o'ch dewis. Cewch wahoddiad i ymuno â'r ap dros e-bost, a chewch hefyd rif adnabod Prifysgol Bangor, y byddwch ei angen i gofrestru.

Myfyrwaraig yn ateb y ffon

Wedi newid eich meddwl? Nid chi yw’r unig un

Os ydych wedi bodloni’r amodau ar gyfer eich dewisiadau UCAS presennol ond yn teimlo nad yw’n iawn i chi, gallwch ddewis mynd drwy'r system Glirio. Archwiliwch eich opsiynau ym Mangor a llenwch y ffurflen ar-lein i gofrestru eich diddordeb yn y broses Glirio neu i wneud cais drwy Clirio os oes gennych eich canlyniadau eisoes.

Eisoes yn bwriadu ymuno â Bangor ond yn ystyried cwrs gwahanol? Rydym yma i helpu - llenwch y ffurflen ar-lein!

 

 

A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor? Mae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.

Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol.

SGWRSIWCH EFO'N MYFYRWYR 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr? 

  • Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr llwyddiannus y pwnc hwn ym Mangor? 
  • Beth allai wneud i baratoi at astudio'r pwnc hwn ym Mangor? 
  • Sut ydw i yn gwybod mai'r pwnc hwn ym Mangor yw’r dewis iawn i mi? 

Sgwrsiwch gyda darlithydd