
Incwm Sylfaenol Cyffredinol (UBI) yw trosglwyddiad misol o arian, heb unrhyw amodau, sy’n cael ei dalu gan y wladwriaeth i bob dinesydd heb unrhyw ofynion cymhwysedd. Fe’i cefnogwyd gan y Cenhedloedd Unedig (CU) fel ateb dros dro i 2.7 biliwn o bobl dlotaf y byd yn ystod pandemig Covid-19. Yn aml, caiff ei ystyried fel ymateb i ddigwyddiadau niweidiol mawr, fel pandemigau ac argyfyngau economaidd. Mae wedi cael ei dreialu mewn sawl gwlad ledled y byd. Yn aml, caiff ei drafod fel strategaeth gwrthdlodi ac fel ateb i ddiffygion mewn darpariaeth lles. Yn gynyddol, fodd bynnag, caiff ei ystyried fel ateb i golledion swyddi o ganlyniad i awtomeiddio.
Cynhaliwyd arolwg gennym gyda 129 (46%) o aelodau seneddol Ghana, ac wyth cyfweliad ansoddol gyda gweithredwyr gwleidyddol. Mae’r canlyniadau’n dangos diddordeb cynyddol yn UBI fel strategaeth gwrthdlodi ond hefyd yn tystio i bryderon ynghylch cost a gallu’r wladwriaeth i ddarparu UBI yn deg. Mae’r erthygl yn cyfrannu at y llenyddiaeth fyd-eang helaeth ar UBI ac yn mynd i’r afael â’r bwlch penodol yn y llenyddiaeth ar UBI yn Affrica. Rydym yn cloi’r erthygl drwy wneud argymhellion ar gyfer camau nesaf Ghana o ran defnyddio UBI.