Moountain view of beach

CYNRYCHIOLI'R GYFRAITH

Cynhadledd RCSL 2024

groups of students in main arts

Beth yw'r cynhadledd yma?

Rhwng 3 a 6 Medi 2024, bydd Prifysgol Bangor yn cynnal cynhadledd ryngwladol y Research Committee on Sociology of Law (RCSL). Testun y gynhadledd yw “Representing Law” ac mae’n cyfeirio at yr angen i gynrychioli, symboleiddio a chyfathrebu’r gyfraith. Bydd yn ymdrin ag amrywiaeth o bynciau cyfreithiol-gymdeithasol y mae aelodau RCSL ac eraill yn ymchwilio iddynt, megis gwaith cyfreithwyr, y modd y mae swyddogion cyhoeddus yn ymdrin â'r gyfraith, y gyfraith yn y celfyddydau ac mewn diwylliant poblogaidd.  

Amdanom ni

Mae’r Research Committee on the Sociology of Law (RCSL, https://rcsl.hypotheses.org/) yn rhan o'r International Sociological Association (ISA) ac ar yr achlysur hwn yn cael ei gynnal ym Mhrifysgol Bangor. Sefydlwyd Prifysgol Bangor ym 884, ac mae’n brifysgol ymchwil ganolig ei maint mewn dinas fechan wedi ei hamgylchynu gan ardal o harddwch naturiol eithriadol. Mae Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas (dolen: https://www.bangor.ac.uk/history-law-social-sciences) yn canolbwyntio’n arbennig ar bynciau cymdeithasol-gyfreithiol. Bangor yw un o'r prifysgolion cyntaf yn y Deyrnas Unedig i gynnig graddau troseddeg, ac mae bellach hefyd wedi gwneud enw da iddi hi ei hun ym maes astudiaethau heddlu. Yn hanesyddol, dechreuodd y gyfraith ym Mangor o fewn y gwyddorau cymdeithas. Mae gwyddorau cymdeithas yma ym Mangor hefyd yn cynnwys cymdeithaseg a pholisi cymdeithasol. 

Mae’r pwyllgor trefnu lleol yn cynnwys aelodau o Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas:

  • Yr Athro Stefan Machura 
  • David Ashworth, MA
  • Dr Rhian Hodges 
  • Dr Lucy Finchett-Madog 
  • Anna Monnereau, LLM
  • Lois Nash, LLM
  • Isabel Linton (Coleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithas)
  • Rachel Somerville (Coleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithas)

 

Mwy o gwybodaeth

Gwefan yr RCSL:
https://rcsl.hypotheses.org/

Gwefannau cyd-noddwyr:

Vereinigung für Recht und Gesellschaft: https://rechtssoziologie.info/en/german-association-for-law-and-society/

DGS-Sektion Rechtssoziologie: https://soziologie.de/en/sections/sociology-of-law/portrait

Journal of Law and Society and Centre of Law and Society at Cardiff University: click here 

Cardiff institute - https://centreoflawandsociety.co.uk/ 

Centre for Socio-legal Studies, Oxford University: https://www.law.ox.ac.uk/centre-for-socio-legal-studies/centre-socio-legal-studies

Associazione Italiana di Sociologia - Sezione Sociologia del diritto -- https://www.ais-sociologia.it/sociologia-del-diritto/

Sefydliadau eraill:

The RCSL conference at Bangor in 2024 is endorsed by the Socio-legal Studies Association: https://www.slsa.ac.uk/

The Oñati International Institute for the Sociology of Law will organise panels for its students at the conference: https://www.iisj.net/

The Oñati Community will organise an Oñati Dinner during the Conference: http://onati.community

Cofrestru

Cofrestriad

Rhaid i bob cyflwynydd a chynrychiolydd gofrestru ar gyfer y gynhadledd.

Bydd y pris cynnig cynnar ar gyfer y gynhadledd ar gael tan 31 Mai 2024.

Mae ffi'r gynhadledd yn cynnwys arlwyo. Mae teithiau a chinio'r gynhadledd yn bethau y gallwch ddewis eu hychwanegu. Rhaid archebu llety ar wahân.

Categori cynrychiolwyr Cynnig cynnar  Arferol
Cynrychiolwyr o wledydd incwm uchel* nad ydynt yn aelodau £400 £480
Aelodau Pwyllgor Ymchwil Cymdeithaseg y Gyfraith (RCSL) a chyd-noddwyr** o wledydd incwm uchel* £350 £390
Cynrychiolwyr o wledydd eraill nad ydynt yn aelodau £310 £350
Aelodau Pwyllgor Ymchwil Cymdeithaseg y Gyfraith (RCSL) o wledydd eraill £290 £320
Myfyrwyr/Pobl heb waith £260 £300
  • Yn unol ag adroddiad Banc y Byd: https://blogs.worldbank.org/opendata/new-world-bank-group-country-classifications-income-level-fy24
  • **Co-sponsoring associations and institutions: Vereinigung für Recht und Gesellschaft; DGS-Sektion Rechtssoziologie; Centre of Law and Society at Cardiff University; Centre for Socio-legal Studies; Oxford University, Associazione Italiana di Sociologia - Sezione Sociologia del diritto

Polisi canslo: Bydd cynrychiolwyr sy’n canslo ar ôl 1 Mehefin 2024 yn cael ad-daliad o 75% o ffi’r gynhadledd. Ni cheir ad-daliad os byddwch yn canslo ar ôl 1 Awst 2024.
Dolen i’r ffurflen gofrestru: (tudalen wrthi’n cael ei chreu)

Cais am bapurau

Mae'r gyfraith yn gysyniad haniaethol sy'n gofyn am gynrychiolaeth o ran gwybodaeth a barn am faterion beunyddiol, cynrychiolaeth o ran damcaniaethau, yn ogystal â chynrychiolaeth o ran proffesiynau megis barnwyr, cyfreithwyr, yr heddlu a swyddogion eraill, ac nid lleiaf, gynrychiolaeth mewn pensaernïaeth a hyd yn oed gynhyrchion diwylliant poblogaidd. Mae hyn yn berthnasol ym mha bynnag ffyrdd yr ydym yn deall y gyfraith: fel system gymdeithasol benodol (Niklas Luhmann), fel maes penodol o arbenigedd cyfreithiol, fel cyfraith-yn-y-llyfrau, neu fel “cyfraith fyw” y tu hwnt i gyfraith y wladwriaeth (Eugen Ehrlich).

Mae “Cynrychioli’r Gyfraith”, sef thema cynhadledd RCSL ym Mangor, a gynhelir rhwng 3 a 6 Medi 2024, yn thema drawsbynciol ar gyfer cymdeithasegwyr y gyfraith ac eraill sydd â diddordeb dadansoddi’r gyfraith o fewn cymdeithas. Mae gan leygwyr a’r rhai sydd wedi’u hyfforddi’n gyfreithiol, fel ei gilydd, syniadau ymhlyg ac eglur am y gyfraith sy’n llywio eu gweithredoedd, o ryngweithiadau economaidd beunyddiol i ymgysylltiad gwleidyddol. Dylanwadir ar rai o'r pethau hyn gan hyfforddiant mewn ysgol neu brifysgol. Nid yn unig y mae cyfreithwyr yn derbyn hyfforddiant o'r fath, ond hefyd filoedd o reolwyr mewn busnes, a gweision y wladwriaeth megis gweithwyr cymdeithasol, hyd yn oed os yw eu hyfforddiant nhw yn canolbwyntio ar agweddau penodol o’r gyfraith. Bydd cynrychiolwyr gweithwyr yn dysgu am y gyfraith gan eu hundebau llafur. Mae'r cyfryngau’n cylchredeg delweddau o'r gyfraith, boed hynny'n gywir yn gyfreithiol ai peidio. Mae rhywfaint o hyn yn frwydr wleidyddol, er enghraifft pan fydd papur newydd yn datgan bod barnwyr yn “elynion y bobl” oherwydd dyfarniad mewn achos proffil uchel. Ers canrifoedd, daw, gyda phob datblygiad newydd ym maes y cyfryngau, bryder bod pobl yn cael eu camarwain ac yn cael eu dylanwadu heb yn wybod iddynt. Y pryder diweddaraf yw problemau gyda chyfryngau cymdeithasol, y ffilter y maent yn eu creu, yr eithafiaeth y mae algorithmau’r cyfryngau cymdeithasol yn eu meithrin. Mewn cyferbyniad, mae llawer yn sylwi bod y cyfryngau’n glynu wrth negeseuon ceidwadol ac yn dod i bob pwrpas yn llefarwyr dros sefydliadau a diddordebau sefydledig.

Serch hynny, nid oes angen o reidrwydd gwerthuso negeseuon y cyfryngau mor negyddol. Mae portreadau ffuglennol o'r gyfraith, o broffesiynau a sefydliadau cyfreithiol, yn aml yn awgrymu y gellir ymddiried ynddynt i ryw raddau o leiaf ac maent yn awgrymu bod diwygiadau cyfreithiol yn digwydd neu fod sut y caiff y gyfraith ei harfer yn gwella. Er enghraifft, ni ddylai cyfreithwyr gael eu harwain gan hunan-les economaidd, neu farnwyr ac erlynwyr gan uchelgais wleidyddol. Gall dealltwriaeth esthetig a chynrychioliadol o'r gyfraith roi arweiniad i bobl ynghylch beth mae'r gyfraith yn ei olygu iddyn nhw. Yn ogystal, gall profiadau personol a phrofiadau pobl eraill y gellir ymddiried ynddynt megis teulu a ffrindiau fod yn bendant iawn o ran sut mae pobl yn gweld y gyfraith.

Mae ysgolheigion y gyfraith a phynciau tebyg wedi ymchwilio i'r gyfraith o wahanol safbwyntiau ac wedi ymdrin â hi'n wahanol o ran eu dysgeidiaeth. I rai, mae'r gyfraith yn rhywbeth i’w harneisio fel grym ar gyfer newid cymdeithasol, i gryfhau sefyllfa e.e. gweithwyr neu ddioddefwyr trosedd. Mae gan eraill werthfawrogiad o’r gyfraith yn enwedig gan ei bod yn darparu system o rwystrau a gwrthbwysau i bŵer gwleidyddol. Er enghraifft, gall y gyfraith atal gweinyddiaethau rhag ymyrryd â hawliau unigolion. Craffwyd ar y defnydd llawr gwlad o’r gyfraith, sut mae aelodau cymdeithas yn unedig neu’n wahanol yn eu gweithredoedd cyfreithiol. Yn amlwg hefyd dadansoddir y goruchlysoedd a sefydliadau cyfreithiol lefel uchel eraill, yn ogystal â sut y maent yn bwrw ymlaen â’u gwaith.  Mae damcaniaethau’r gyfraith yn amlygu anghydraddoldebau cymdeithasol, gwleidyddol ac economaidd sy'n cael eu cynhyrchu gan y gyfraith a'u hatgynhyrchu yn y gyfraith, ond hefyd y potensial ar gyfer diwygio sy'n cyflwyno ei hun drwy'r gyfraith. Mae enghreifftiau llwyddiannus o hynny yn cynnwys hyrwyddo hawliau dynol. Mae dadansoddwyr eraill wedi tynnu sylw at oblygiadau gweithdrefnau ac arferion dyddiol mewn sefydliadau cyfreithiol o ran cymhwyso'r gyfraith, a hyd yn oed o ran hunan-gyfreithloni'r gyfraith (Luhmann). Mae damcaniaethau’r gyfraith wedi dod yn ffyrdd pwerus o gynrychioli'r gyfraith.

Pwy sy'n eiriol dros y gyfraith? Pwy sy'n penderfynu ynghylch gwrthdaro cyfreithiol ac yn rhoi cyngor cyfreithiol? Pwy sydd yn y sefyllfa orau i addasu'r gyfraith i amodau cymdeithasol newidiol? Mae cwestiynau o'r fath hefyd yn rhan o thema'r gynhadledd. Mewn rhai ffyrdd, mae'r rhai sydd wedi'u hyfforddi'n gyfreithiol ac yn enwedig y rhai hynny sy’n gweithio mewn swyddi cyfreithiol, yn ddehonglwyr breintiedig o’r gyfraith, o leiaf mewn gwladwriaethau modern sy'n dibynnu ar system gyfreithiol wahaniaethol. Mae hyn yn codi ystyriaethau ynghylch cyfreithlondeb a chynrychiolaeth ddemocrataidd. Bydd beirniaid yn cwestiynu pam mai graddedigion o brifysgolion blaenllaw, pam mai pobl a chanddynt draddodiad teuluol hir ym maes y gyfraith, pam mai dynion yn hytrach na merched mewn swyddi cyfreithiol uchel, sy’n dal yn fwyaf blaenllaw. Nid oes cynrychiolaeth ddigonol yn y gyfraith o rai grwpiau cymdeithasol, a sonnir bod rhai grwpiau’n wynebu gwahaniaethu yn eu herbyn gan ddeiliaid swyddi cyfreithiol. Gall hyn effeithio ar genhedloedd lleiafrifol a phobl y gwahaniaethir yn eu herbyn ar sail “hil” a chefndir ethnig. Gall y rhai sydd wedi eu hymyleiddio’n economaidd ddioddef anfanteision pellach a achosir gan y ffordd y mae'r gyfraith yn gweithredu. 
Mae cynrychiolaethau o gyfraith Lloegr ac UDA yn fwy amlwg na chynrychiolaeth o systemau cyfreithiol eraill. Ar lefel sylfaenol iawn, mae hynny'n dilyn o'r ffaith mai Saesneg yw’r iaith ar gyfer cyfathrebu a masnachu’n fyd-eang. Mae diwydiant cyfryngau'r Unol Daleithiau wedi meithrin marchnad fyd-eang o syniadau, mae tybiaethau am gyfraith a sefydliadau cyfreithiol yr Unol Daleithiau  yn teithio i bob cornel o'r byd trwy gyfrwng sioeau teledu, ffilmiau a chynhyrchion diwylliannol poblogaidd eraill. Er gwell neu er gwaeth, gall cynulleidfaoedd rhyngwladol ddysgu am gyfraith nad yw’n bod o gwbl yn eu mamwlad. Ar lefel wahanol, yn y byd academaidd, mae cysyniadau a safbwyntiau o wledydd lle ceir cyfraith gyffredin yn aml yn ymestyn ymhellach na chysyniadau a safbwyntiau o wledydd sydd â threfniadau cyfreithiol a chefndiroedd cymdeithasol a gwleidyddol eraill. Bydd cynhadledd RCSL yn gyfle i academyddion o wledydd sydd â hanes a systemau gwahanol gyfnewid eu syniadau a chyfoethogi eu syniadaeth eu hunain gyda mewnwelediadau o drafodaethau ar y cyd.

Mae Prifysgol Bangor, sy’n cynnal cynhadledd RCSL yn 2024, wedi’i lleoli mewn ardal Gymraeg ei hiaith ac mae’r gynhadledd yn cynnig cyfle i drafod fel un o’r edefynnau faterion yn ymwneud â darparu gwasanaethau cyfreithiol dwyieithog. Mae llysoedd lleol yn cynnal gwrandawiadau yn Gymraeg a Saesneg. Gall siaradwyr Cymraeg dderbyn eu holl ohebiaeth gyfreithiol yn eu mamiaith. Mae gwledydd eraill yn trafod datblygu gwasanaeth tebyg i leiafrifoedd ac mae'r gynhadledd yn cynnig cyfle unigryw i ddysgu am ddwyieithrwydd yn y byd cyfreithiol.

Fel y dangoswyd, mae thema'r gynhadledd “Cynrychioli'r Gyfraith” yn cwmpasu maes eang o ddiddordebau academaidd. Fodd bynnag, gwahoddir gweithgorau RCSL i drefnu eu paneli eu hunain ar ba bynciau bynnag y mae arnynt eisiau eu trafod, yn ogystal â'u cyfarfodydd busnes. Gwahoddir hefyd bapurau unigol ar bynciau cymdeithaseg y gyfraith / astudiaethau cymdeithasol-gyfreithiol.

Yn ogystal, mae’r Journal of Law and Society (JLS) a Chanolfan y Gyfraith a Chymdeithas ym Mhrifysgol Caerdydd, fel cyd-noddwyr y gynhadledd, yn trefnu edefyn/sesiwn ar astudiaethau cymdeithasol-gyfreithiol yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig ac yn gwahodd cydweithwyr ifanc i gyflwyno eu papurau i'r edefyn hwnnw. Bydd y cyfnodolyn yn cefnogi cyflwynwyr y papurau a ddewisir gyda'u ffioedd cynhadledd. Bydd manylion ynghylch sut i wneud cais yn cael eu cyhoeddi mewn da bryd ar hafan y gynhadledd.
Y dyddiad cau i dderbyn cynigion ar gyfer papurau, Trafodaethau bord gron neu baneli Dyddiad Cau Estynedig: 3 Mawrth 2024. Gofynnir am gyflwyniadau trwy wefan y gynhadledd yma (mae’r ddolen gyflwyno yn cael ei chreu ar hyn o bryd). Byddwn yn gofyn am grynodeb o ddim mwy na 250 o eiriau.

Dolen i ffurflen: Paper proposal

Dolen i ffurflen: Proposal of a panel of papers

Dolen i ffurflen: Proposal of a roundtable

Y Rhaglen

Cyhoeddir y rhaglen yng ngwanwyn 2024, pan fydd y paneli a’r papurau wedi eu cadarnhau.

Llety

Ar y campws mae llety ar gael yn Neuaddau'r Brifysgol (Llety Cynadledda) ac yn y Ganolfan Reoli.

Llety Cynhadledd

I archebu ystafell yn llety'r neuadd, ewch i'r wefan hon a mewnbwn un o'r codau canlynol wrth archebu:

Arhosiad gwely a brecwast @£50 y noson - RCSL24B
Ystafell yn unig aros @£40 y noson – RCSL24S

Y Ganolfan Rheolaeth

Mae'r Ganolfan Reoli wedi'i graddio fel Llety Gwesteion 4 seren Croeso Cymru ac mae'n cynnig 56 gwely gwesteion en-suite.

Ystafelloedd gwely i westeion. Mae gan lawer o'r ystafelloedd olygfeydd godidog o Afon Menai ac Ynys Môn. Mae'r holl ystafelloedd gwely gwesteion yn en-suite gyda chyfleusterau gwneud te a choffi am ddim a setiau teledu sgrin wastad digidol. Cyfraddau ystafelloedd ar gyfer Medi 2024 yw:

  • Sengl: £104
  • Dwbl (un deiliadaeth): £114
  • Dwbl (deiliadaeth ddwbl): £127
  • Gweithrediaeth/Twin/Teulu (un deiliadaeth): £135
  • Gweithredol/Twin/Teulu (deiliadaeth ddwbl): £148

 

Dyfynnwch y cyfeirnod archebu hwn wrth wneud eich archeb ar gyfer y Ganolfan Reoli - GA01657.  I archebu eich ystafell, e-bostiwch - groupsthemanagementcentre@bangor.ac.uk

Llety Eraill

Mae Gogledd Cymru yn brif leoliad i dwristiaid, felly mae amrywiaeth eang o leoedd gwely a brecwast, gwestai, tai gwyliau a safleoedd gwersylla ar gael hefyd.

Ar gyfer ymholiadau llety cyffredinol: www.visitwales.com

Teithio

Mae teithio i Fangor yn syml gan fod y ddinas ar y brif reilffordd o Lundain a ffordd gyflym yr A55. Y meysydd awyr agosaf yw Manceinion, Lerpwl, a Birmingham; mae Manceinion yn daith 90 munud mewn car o Fangor. Mae llongau fferi rheolaidd yn cysylltu harbwr cyfagos Caergybi ag Iwerddon. (Dolen i wybodaeth teithio: https://www.bangor.ac.uk/international/support/trips/travel).

Cynhelir y gynhadledd ym mhrif adeilad Prifysgol Bangor, adeilad hanesyddol sy’n llawn awyrgylch a golygfeydd o fynyddoedd Eryri a’r Fenai. Bydd ein rhaglen weithgareddau’n cynnwys teithiau tywys ac mae digwyddiadau diwylliannol hefyd ar y gweill. Am seibiant byr o’r sesiynau, mae caffis, mannau gwyrdd, a’r golygfeydd godidog o bier Bangor o fewn pellter cerdded.

Bydd gennych ddigon o ddewis o ran llety. Mae’r pwyllgor trefnu wedi cadw ystafelloedd fforddiadwy iawn yn neuaddau myfyrwyr Bangor (dolen: <https://www.bangor.ac.uk/accommodation/halls/alaw>) ac ystafelloedd gwesty yn y Ganolfan Rheolaeth (<https://www.bangor.ac.uk/management_centre/>) sydd ar y campws. Y gost am wely a brecwast yn y neuaddau myfyrwyr yw £50 y noson. Byddwn yn darparu cod i westeion allu archebu ar-lein (bydd gwybodaeth sut i archebu ar gael yn fuan.) Mae gogledd Cymru hefyd yn lleoliad poblogaidd gyda thwristiaid felly mae hefyd amrywiaeth eang o westai, tai haf a safleoedd gwersylla ar gael.

Am ymholiadau llety cyffredinol: www.visitwales.com 

an image of the steam, train on snowdon tracks
a landscape image of sea-level of Snowdon

 

 

 

 

 

 

 

 

Lluniau gan Stefan Machura o drên Ucheldir Cymru yn gadael Gorsaf Porthmadog a Mynydd yr Wyddfa o'r Fenai.

Efallai y byddwch eisiau aros yn yr ardal am rai dyddiau ychwanegol. Mae siroedd Gwynedd, Môn a Chonwy yn cynnig amrywiaeth eang o atyniadau twristiaeth. Mae Caernarfon a Chonwy, er enghraifft, yn ddinasoedd muriog hanesyddol ger y môr. Mae tref glan môr fechan Biwmares ar Ynys Môn, sy’n cynnig golygfeydd godidog o’r Fenai a mynyddoedd Eryri, yn boblogaidd gyda thwristiaid ac, yn bwysicach efallai i ysgolheigion cymdeithasol-gyfreithiol, mae ganddi amgueddfa sy’n cynnwys llys hanesyddol a charchar. Yma, gallwch ddysgu am droseddu, y gyfraith a chosb yn y canrifoedd diwethaf. 

Mae gogledd Cymru yn cynnig cyfuniad o draethau a mynyddoedd. Mae mynd i fyny'r Wyddfa yn daith gerdded boblogaidd, ac mae’r olygfa’n werth chweil ar ôl cyrraedd y copa. Gall pobl lai heini fynd â'r trên bach i'r copa. Bydd pobl sy’n hoffi rheilffyrdd yn gallu treulio dyddiau yn teithio ar drenau stêm yng ngogledd Cymru os ydynt yn dymuno gwneud hynny. Wrth droed yr Wyddfa, mae gan dref Llanberis amgueddfa lechi ardderchog, sy'n enghraifft o amodau gwaith ac amodau byw chwarelwyr y gorffennol. Mae traethau a thwyni sy'n ymestyn am filltiroedd lawer ar gael i gerddwyr brwd. Mae llwybr arfordirol yn mynd o amgylch Ynys Môn a’r tir mawr. Gellir gweld adar môr, merlod a - gyda lwc ac yn dibynnu ar y lleoliad - crwbanod môr, morloi a dolffiniaid.

Mae cyfuno cynhadledd Bangor 2024 gyda gwyliau hefyd yn ddewis da i deuluoedd. Gall plant a phobl ifanc eu hysbryd fwynhau atyniadau fel y Sw Môr neu Amgueddfa Drafnidiaeth Ynys Môn Tacla Taid. Mae'r daith gwch i Ynys Seiriol o Fiwmares hefyd yn ddifyr dros ben.

Mae Bangor 2024 yn siŵr o fod yn gynhadledd gwerth chweil, gyda rhywbeth at ddant pawb!

Bangor University, Main Arts Building

Bangor University, Main Arts Building

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?