Yr Eog a'r Tomato - adrodd straeon gweledol ar gyfer cyfathrebu pynciau cymhleth
Project hirdymor ar gyfer cyfathrebu gwyddoniaeth yw The Salmon and the Tomato sy'n olrhain sut mae bwydydd bob dydd yn rhan o wead cymhleth systemau cynhyrchu, masnach ac effaith amgylcheddol byd-eang. Bydd y sgwrs hon yn cyflwyno sut mae’r project yn mynd ati mewn modd rhyngddisgyblaethol i gyfuno ymchwil, straeon gweledol a dulliau cyfranogol er mwyn egluro deinameg cymhleth systemau bwyd i gynulleidfaoedd lleyg. Fel rhan o'r project rydym wedi cynhyrchu llyfr i blant, sy'n defnyddio naratif a darluniadau i archwilio themâu imperialaeth bwyd, rhyngddibyniaeth ecolegol, a chyfrifoldeb ar draws cadwynau cyflenwi. Bydd y sgwrs hon yn cyflwyno'r project a'i stori graidd, sef effeithiau cadwynau cyflenwi bwyd, gan fyfyrio ar rôl newid hinsawdd mewn system sydd eisoes dan straen. Yna trafodir y cyfleoedd a'r cyfyngiadau a geir wrth drosi ymchwil wyddonol a chymdeithasol-ecolegol i mewn i fformatau hygyrch, ac ystyrir beth all cyfryngau plant ei gyfrannu er mwyn galluogi’r cyhoedd i ymgysylltu mewn ffordd fwy cynhwysol a beirniadol â systemau bwyd.
Ymchwilwyr, addysgwyr ac ymarferwyr sydd â diddordeb mewn cyfathrebu gwyddoniaeth, systemau bwyd, cyfiawnder amgylcheddol a dulliau creadigol neu weledol, yn ogystal ag unrhyw un sy'n archwilio sut y gellir trosi ymchwil mewn modd ystyrlon ar gyfer cynulleidfaoedd iau a'r cyhoedd yn ehangach.
Prif siaradwr: Neal Haddaway, ymchwilydd, storïwr gweledol, a chyfathrebwr gwyddoniaeth