Mwy am yr Adran Ieithyddiaeth, Iaith Saesneg a Dwyieithrwydd

Dysgu o dan arweiniad ymchwil

Myfyrwyr mewn darlith

Mae’r staff academaidd yn cynnig arbenigedd mewn amrywiaeth eang o ddisgyblaethau mewn Ieithyddiaeth ac Iaith Saesneg, gan gynnwys: seicoieithyddiaeth, caffael iaith, dwyieithrwydd, ieithyddiaeth wybyddol a TEFL.

Mae ein staff yn brofiadol mewn addysgu sylfaen ym maes ieithyddiaeth ragarweiniol ac maent hefyd yn cynnig cefnogaeth ac addysgu mwy arbenigol. Rydym yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau israddedig ac ôl-raddedig.

Mae gan yr Ysgol hanes gwych o ragoriaeth ymchwil mewn amrywiaeth eang o feysydd. Mae staff academaidd yr Ysgol yn gwneud ymchwil mewn dau brif faes: Dwyieithrwydd ac Ieithyddiaeth Wybyddol.

Cymdeithas Ieithyddiaeth Bangor

Bangor University Students

Rydym yn falch o’r cysylltiad sydd gennym â Chymdeithas Ieithyddiaeth Bangor. Mae ganddynt swyddfa yn yr Ysgol Ieithyddiaeth ac Iaith Saesneg. Cymdeithas yw honno ar gyfer myfyrwyr, staff a chyn-fyfyrwyr Prifysgol Bangor sydd â diddordeb mewn Ieithyddiaeth neu Iaith Saesneg.

Mae gan y Gymdeithas lyfrgell gyda thros 900 o lyfrau sydd ar gael i fyfyrwyr eu benthyca. Mae'n trefnu digwyddiadau drwy gydol y flwyddyn ac mae croeso i’r staff a’r myfyrwyr.

Cyfleusterau

Rydym yn frwd dros ieithyddiaeth a thros ddysgu a sicrhau bod ein myfyrwyr yn ennill sgiliau rhagorol mewn darllen beirniadol ac ymchwil (gan gynnwys cyfleusterau pwrpasol i astudio iaith sydd ar gael i bob myfyriwr sy'n astudio gyda ni.

Ein Cyfleusterau

Prif Adeilad y Celfyddydau, Prifysgol Bangor

Ymchwil

Mae gan yr Adran Ieithyddiaeth, Iaith Saesneg a Dwyieithrwydd arbenigedd o safon fyd-eang mewn Dwyieithrwydd, Ieithyddiaeth Wybyddol.

Mae'r blaenoriaethau ymchwil yn llywio holl ddarpariaeth addysgu'r Ysgol, a rhoddant ffocws unigryw i Ieithyddiaeth ac Iaith Saesneg yng nghyd-destun y Deyrnas Unedig a’r cyd-destun rhyngwladol.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?