Modiwl newydd yn rhoi'r sgiliau i fyfyrwyr Ailddehongli’r Tŷ Gwledig
Ym mis Medi roeddem wrth ein bodd yn lansio modiwl MA newydd ym Mhrifysgol Bangor o'r enw ‘Ail-ddehongli’r Plasty: Archifau, Dehongli a Hanesion Cymru’.
Modiwl dewisol i fyfyrwyr ar ein rhaglenni MA Treftadaeth Fyd-eang, Hanes a Hanes Cymru, cafodd y modiwl ei gyd-gynllunio gan Dr Lowri Ann Rees a Dr Shaun Evans i roi cyfle i fyfyrwyr ddysgu o waith Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru a chyfrannu ato.
Gyda sesiynau pwrpasol ar themâu fel tirwedd, diwylliant materol, llyfrgelloedd, hanes menywod, cysylltiadau trefedigaethol a hanes cymdeithasol, mae'r cwrs yn annog myfyrwyr i archwilio'r ymchwil ddiweddaraf mewn diwylliant bonedd, ystadau gwledig a'r plasty, ac arfer gorau mewn ymgysylltu â'r cyhoedd a dehongli treftadaeth.
‘‘Yr hyn a’m denodd at y modiwl hwn oedd ehangder y dysgu a’r pynciau a gwmpesir o fewn hanes plasty Cymru,’’ eglurodd Rose Horton-Smith, un o’r myfyrwyr MA s'yn cymryd y modiwl. ‘‘Mae dysgu am gylch gwaith ehangach yr ystâd, y plasty a’r rhai a oedd yn byw ac yn gweithio yno o ddiddordeb mawr i mi. Sut roedd y plasty’n ffitio i ddiwylliant, cymdeithas a thirwedd Cymru oedd y prif reswm dros gymryd y modiwl.’’
Mae'r rhan fwyaf o'r sesiynau'n digwydd yn Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor, un o'r prif ystorfeydd yn Ewrop ar gyfer cofnodion teuluoedd ac ystadau gwledig, gyda thripiau ychwanegol i safleoedd treftadaeth cyfagos megis Castell Penrhyn. Mae archifau ac ymchwil archifol yn rhannau craidd o'r modiwl.
Un o brif amcanion y modiwl yw rhoi’r sgiliau i fyfyrwyr greu dehongliad treftadaeth o ansawdd uchel yn seiliedig ar ymchwil wreiddiol i archifau, casgliadau a thirweddau.
Ar gyfer yr asesiad, gofynnir i fyfyrwyr ddylunio a chyflwyno ‘ymyrraeth dehongli’, yn seiliedig ar ymchwil sylfaenol ac arfer gorau treftadaeth. Drwy’r 'ymyriadau' hyn rydym yn rhagweld y bydd y modiwl yn cyfrannu at ddealltwriaeth gyfoethog o’r hanesion cymhleth sy’n gysylltiedig â phlastai a chymunedau ystadau Cymru.
I ddarganfod mwy am y modiwl a chyfleoedd MA ym Mhrifysgol Bangor cysylltwch â chynullydd y modiwl Dr Shaun Evans (shaun.evans@bangor.ac.uk).