Bydd Gŵyl Gerdd Bangor yn wledd i’r synhwyrau eleni
Bydd darn newydd o gerddoriaeth gan y cyfansoddwr adnabyddus Guto Pryderi Puw, Pennaeth Cyfansoddi Adran Cerdd, Drama a Pherfformio Prifysgol Bangor yn un o wyth darn newydd sbon i gael eu perfformio yn ystod Gŵyl Gerdd Bangor ym mis Chwefror. Cafodd ei gomisiynu gan Ensemble UPROAR, bydd y darn ‘Popping Candy’ yn cyflwyno “byd o FIZZ a HWYL!” i’r cynulleidfaoedd.
Mae’r Ŵyl, sydd wedi bod yn uchafbwynt celfyddydol yng nghalendr dinas Bangor am dros ugain mlynedd, yn cael ei chynnal eleni yng Nghanolfan Celfyddydau ac Arloesi Pontio ar 11-12 o Chwefror, ac yn rhan o amryw o ddathliadau canmlwyddiant Cerdd ym Mangor eleni.
Dywedodd Guto, sydd hefyd yn Gyfarwyddwr Artistig yr Ŵyl, “Thema’r Ŵyl eleni yw ‘y synhwyrau’. Wrth gwrs, mae cerddoriaeth yn brofiad clywedol ond dim ond un o’r synhwyrau yw hynny, ac felly mae gennym gyffwrdd, blasu, gweld ac arogli i’w cynnwys hefyd. Bydd yn ddiddorol iawn datgelu sut mae’r cyfansoddwyr wedi adweithio i’r synhwyrau eraill o fewn eu cerddoriaeth, felly dewch draw i’w blasu nhw!”
“Un o’r ensemblau sy’n perfformio yw UPROAR, a gafodd ei sefydlu yn 2018 gan Michael Rafferty a’u nod yw dod a’r gerddoriaeth ryngwladol gyfoes orau i gynulleidfaoedd ar hyd a lled y wlad.
“Mae perfformiadau UPROAR wedi eu hanelu at gynulleidfaoedd sydd yn ffafrio elfennau gweledol, yn aml yn perfformio mewn lleoliadau ysbrydoledig ac anarferol. Mae eu cydweithio amlgyfryngol gyda dawns, theatr, ffilm, y celfyddydau gweledol, fideo ac electroneg byw yn gwithio ffiniau y ffurfiau hyn, gan ddarparu profiadau bythgofiadwy,” dywedodd Guto.
Bydd y cyngerdd ar ddydd Sadwrn, Chwefror 12 hefyd yn cynnwys gweithiau newydd gan y gyfansoddwraig o’r Iseldiroedd, Carlijn Metselaar a’r cyfansoddwr Cymreig Joseph Davies, gyda’r ddau ddarn wedi cael eu comisiynu gan UPROAR. Bydd cyfansoddiad gan y disgyblion o’r project addysgol hefyd yn cael ei berfformio, ochr yn ochr â darn gan Du Yun o Tsieina a gwaith wedi ei ysbrydoli gan elfen weledol o theatr stryd gan y gyfansoddwraig Unsuk Chin o Dde Corea. Y cyngerdd ar y nos Sadwrn am 7.30pm fydd uchafbwynt diwrnod cyfan o weithgareddau cerddorol yn adeilad Pontio.
Yn ystod y bore bydd Marie-Claire Howorth yn cyflwyno Camau Cerdd i blant oedran 6 mis i 7 oed ar y thema cyffwrdd, sain a gofod, mewn partneriaeth â Canolfan Gerdd William Mathias.
Rhoddir llwyfan i berfformwyr talentog ifanc Canolfan Gerdd William Mathias, a fydd yn perfformio croestoriad eang o gerddoriaeth ar gyfer unawdwyr ac ensemblau yn gynnar yn ystod y prynhawn.
Dilynir hyn gyda pherfformiad gan Enemble Cerddoriaeth Newydd Bangor sy’n chwarae cyfansoddiadau a ysbrydolwyd gan y synhwyrau gan fyfyrwyr yr Adran Cerddoriaeth, Drama a Pherfformio ym Mhrifysgol Bangor.
Yn ogystal yn ystod y prynhawn, bydd Rhodri Davies (telyn), Patricia Morgan (allweddellau) ac Angharad Davies (feiolin) yn cyflwyno cyfres o osodiadau sain i’r cyhoedd wedi eu symbylu gan arogl penodol mewn gwahanol leoliadau yn adeilad Pontio.
Bydd disgyblion o ysgol leol yn cymryd rhan yn eu perfformiadau sonig eu hunain i’r arogl o fewn y gosodiad, dan arweiniad Rhodri Davies.
Mae’r Ŵyl yn dechrau ar y diwrnod blaenorol gyda chyngerdd gan y feiolinydd amryddawn o Belfast Darragh Morgan ac Electroacwstig Cymru.
Sefydlodd Darragh Morgan ei hun fel unawdydd o gerddoriaeth newydd gan gyflwyno nifer o ddatganiadau mewn gwyliau ar hyd a lled y byd. Ymwelodd â Bangor ddiwethaf ar gyfer yr Ŵyl gyda Trio Fidelio yn 2018.
Bydd ei gyngerdd yn archwilio rhyfeddod yr Autonomous Sensory Meridian Response (ASMR) gyda cherddoriaeth Arshia Samsaminia, ynghyd â gweithiau diweddar gan Jonty Harrison ochr yn ochr â pherfformiadau cyntaf darnau gan y cyfansoddwr o Fangor, a Phennaeth yr Adran Caerddoriaeth, Drama a Pherfformio Yr Athro Andrew Lewis a’r gyfansoddwraig Wyddelig, Irene Buckley. Ceir hefyd berfformiadau cyntaf dau ddarn terfynol Gwobr Gyfansoddi William Mathias o fewn y cyngerdd.
Mae Guto yn ffyddiog y bydd yr Ŵyl yn rhedeg yn ei ffurf bresennol, gyda’r trefniadau mewn lle ar gyfer digwyddiad fusion lle caiff y cyngherddau a fynychir gan gynulleidfaoedd byw ei ffrydio’n fyw ar wahanol blatfformau digidol ar yr un pryd.
“Roedd llynedd yn ddigwyddiad rhithwir ac er y pandemig Cofid-19 roedd yn llwyddiannus iawn. Fe gathon ni bobl yn gwylio y perfformiadau ar draws y byd. Roeddent yn amrywio o’r Unol Daleithiau a Chanada i’r Dwyrain Pell yn Tsieina a Gwlad Thai yn ogystal a gwledydd Ewropeaidd a’r gwledydd cartref.
“Gyda’r tri prif gyngerdd yn cael ei ffrydio ar lein, rydym yn gobeithio adeiladu ar y llwyddiant gawsom y llynedd,” dywedodd Guto.
Mae Guto hefyd wrth ei fodd y bydd uchafbwyntiau o’r Ŵyl eleni i’w darlledu yn ddiweddarach yn y flwyddyn ar y rhaglen ‘New Music Show’ ar BBC Radio 3, ategodd: “y tro cyntaf ers sawl blwyddyn i ni gael presenoldeb ar Radio 3, a fydd yn sicr yn cynyddu proffil ac apêl y digwyddiad cyffrous a phwysig hwn.”
Rhagor o wybodaeth am yr Ŵyl ar lein www.bangormusicfestival.org.uk a thocynnau ar gael o Swyddfa Docynnau Pontio ar 01248 382828.