A path leads away in front through thin-trunked trees

Darlithydd yn ennill grant Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru

Mae Dr Ceryl Davies, darlithydd mewn gwaith cymdeithasol, wedi derbyn grant Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru o £224,954 i edrych ar yr hyn sy’n rhwystro a galluogi ymgysylltu'n effeithiol â'r rhai sy'n gadael gofal. Bydd Ceryl yn arwain yr astudiaeth ddwyieithog dros gyfnod o ddwy flynedd mewn partneriaeth â Chynghorau Bwrdeistref Conwy, Ynys Môn a Thorfaen a GISDA, yr elusen sydd wedi'i lleoli yng Nghaernarfon sy'n darparu cefnogaeth a llety i bobl ifanc ddigartref yn yr ardal.  

Esboniodd Ceryl, "Nod yr astudiaeth hon yw archwilio'r pethau allweddol sy’n rhwystro a galluogi ymgysylltu â phobl sy'n gadael gofal. Bydd canlyniadau'r dadansoddiad hwn yn gyffredin i wasanaethau aml-asiantaeth sy'n ymwneud ag anghenion y rhai sy'n gadael gofal ledled Cymru a'u cefnogi. Yn ogystal, y nod yw gwerthuso faint o werth cymdeithasol sy'n cael ei gynhyrchu drwy fabwysiadu'r fframwaith ymgysylltu newydd a'r pecyn cymorth gyda'r rhai sy'n gadael gofal, yn enwedig dylanwad y model newydd ar dargedu adnoddau i gyflawni canlyniadau lles gwell i'r rhai sy'n gadael gofal gael mynediad at gefnogaeth a gwasanaethau."  

Mae’r project ymchwil hwn yn un o’r  26 o wobrau ariannol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ar gyfer 2021-22, gwerth bron i £6.4 miliwn gyda’i gilydd a thros gyfnod eu hoes.
Mae’r cynlluniau’n cynnig lefelau amrywiol o gymorth, gan fynd i’r afael ag anghenion ymchwil gwahanol, o gefnogi unigolion talentog i fod yn ymchwilwyr annibynnol i ariannu prosiectau ymchwil o ansawdd uchel sy’n berthnasol i anghenion iechyd a llesiant ledled Cymru.

Meddai Michael Bowdery, Pennaeth Rhaglenni, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: “Roeddem wrth ein bodd yn gweld cynifer o geisiadau o ansawdd uchel eleni, ar gyfer grantiau project a gwobrau personol. Mae ein cynnydd cyllid diweddar wedi ein galluogi i ariannu ychydig yn fwy o wobrau nag arfer mewn ystod o bynciau iechyd a chymdeithasol arwyddocaol sy’n cyd-fynd â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru, gan gynnwys canser, diabetes, plant sy'n derbyn gofal, y rhai sy'n gadael gofal, iechyd meddwl, ymateb brys a chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Ar y cyd mae'r projectau hyn yn enghraifft arall o botensial ymchwil i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i iechyd a llesiant pobl.” 
 

Headshot o Dr Ceryl Davies yn sefyll ty allan ty, wrth coedwig

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?