Macro shot of new material

Cragen amddiffynnol: deunydd newydd cyffrous sy'n gwarchod cartrefi a'r amgylchedd

Mae deunydd newydd arloesol, wedi’i wneud o gragen cregyn gleision, sy’n gwarchod cartrefi gam yn nes at fod ar gael ar y farchnad, diolch i gydweithio rhwng cwmni cynnyrch cynaliadwy Pennotec (Pennog Ltd) a gwyddonwyr ymchwil deunyddiau yng Nghanolfan Biogyfansoddion Prifysgol Bangor, gyda chefnogaeth cyllid UKRI.

Eglurodd Steven Gallacher, Rheolwr Gweithrediadau yn Scottish Shellfish Marketing Group, sy’n cydweithio â’r tîm, “Ffermio cregyn gleision yw un o’r dulliau mwyaf cynaliadwy o gynhyrchu bwyd, ond nid yw pob cregyn gleision yn bodloni’r safonau ansawdd uchel a ddisgwylir gan ddefnyddwyr. Bydd y cyfle newydd posibl hwn ar gyfer cregyn gleision sydd ddim yn cyrraedd y safonau yn helpu i wella cynaliadwyedd ein diwydiant ymhellach.”

Meddai Dr Noel Roberts, cyd-ddyfeisiwr Pennotec, ymchwilydd ar ddechrau ei yrfa a raddiodd ar y cwrs ION Leadership ym Mhrifysgol Bangor, “Mae chwistrellau arwyneb bioladdol confensiynol sy'n atal tyfiant mwsogl a llysnafedd yn para tair blynedd ar y mwyaf. Mae hyn yn ddrud i berchnogion tai ac yn ddrwg i'r amgylchedd. Mae profion hindreulio cyflymedig ym Mhrifysgol Bangor yn rhagweld y bydd ein cynnyrch yn atal tyfiant arwyneb am hyd at 15 mlynedd, gan arbed miloedd o bunnoedd i berchnogion tai a lleihau'r risg o ddifrod i'r to gan lanhau cyson.”

Gyda chymaint o gryfderau amgylcheddol cryf yn rhan o’r deunydd, roedd Noel hefyd yn awyddus i sicrhau bod ei gynnyrch yn darparu ateb gwirioneddol gylchol: “Mae fy nyfais yn disodli cemegau glanhau peryglus. Er gwaethaf hyn, roeddwn yn gwybod y gallai fy nghynnyrch fynd i safleoedd tirlenwi ar ddiwedd ei oes fuddiol, ac nid oeddwn yn hapus am hynny.”

Arweiniodd hyn at Noel i wneud cais am gyngor a chefnogaeth DEFRA ac Ymchwil ac Arloesi yn y Deyrnas Unedig (UKRI). Mae Canolfan Economi Gylchol Ryngddisgyblaethol UKRI ar gyfer Deunyddiau Adeiladu Seiliedig ar Fwynau (ICEC-MCM) - un o bum canolfan ymchwil gwerth £30 miliwn sy'n canolbwyntio ar ddatblygu Economi Gylchol y DU - bellach yn cefnogi project cydweithredol newydd i ymchwilio i ailgylchu deunydd cyfansawdd cregyn gleision sydd wedi ei ddefnyddio yn ôl i mewn i’r cynnyrch ffres.

Mae Noel, a'i dîm yn Pennotec, yn cydweithio â Dr Simon Curling, arbenigwr ar gylch bywyd a gwydnwch deunyddiau adeiladu yng Nghanolfan Biogyfansoddion Prifysgol Bangor. Dywedodd Simon, “Gan ddefnyddio ein gallu i efelychu blynyddoedd o hindreulio mewn ychydig wythnosau, rydym yn helpu Noel i brofi a dilysu perfformiad a gwydnwch ei ddeunydd wedi'i ailgylchu.

Mae dangos bod y math hwn o ailgylchu yn bosibl mewn diwydiant adeiladu sy'n llinol iawn yn ei ddefnydd o ddeunyddiau yn dipyn o her. Mae adeiladu yn cynhyrchu mwy nag un rhan o dair o'r holl wastraff sy'n cyrraedd safleoedd tirlenwi.

“Er mwyn i’r Economi Gylchol weithio’n ymarferol, mae angen meddwl o’r newydd ynglŷn â sut mae gweithgynhyrchwyr deunyddiau adeiladu yn ariannu ac yn rheoli’r gwaith o adfer ac ailbrosesu cynhyrchion.

Trwy weithio gydag arbenigwyr busnes a chyllid yr Economi Gylchol yn ICEC-MCM, rwy’n gobeithio deall sut y gall y diwydiant adeiladu, cyllidwyr, cymdeithasau tai a pherchnogion tai gael eu cymell i gefnogi ailgylchu deunyddiau adeiladu ar ddiwedd eu hoes fuddiol.” 

Dr Noel Roberts,  Cyd-ddyfeisydd (Pennotec) ac un o raddedigion rhaglen arweinyddiaeth ION Leadership, Prifysgol Bangor

Cragen amddiffynol - fideo

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?