pedwar person mewn wasgod amlygu yn edrych ar gynllun tu alan i'r adeilad presennolplans outside the current building.

Datgelu cynlluniau ar gyfer ail adeilad uchelgeisiol ar Barc Gwyddoniaeth 

Mae parc gwyddoniaeth pwrpasol cyntaf Cymru yn datgelu cynlluniau ar gyfer datblygu ail adeilad ar eu safle yn Ynys Môn, wrth i’r adeilad cyntaf nesáu at fod yn llawn.  

Bydd y gofod ychwanegol yn galluogi Parc Gwyddoniaeth Prifysgol Bangor: M-SParc i barhau â’i waith yn cefnogi busnesau i dyfu, gan greu gyrfaoedd sy’n talu’n dda i bobl leol, ac ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol.  

Dim ond 5 mlynedd ar ôl i M-Sparc agor drysau ei adeilad cyntaf, mae’n barod i dyfu eto! Gan ganolbwyntio ar gefnogi cwmnïau ac ymchwil yn y sector carbon isel, a datblygu cyfleoedd sgiliau a chyflogaeth, bydd M-SParc 2.0 yn helpu i gyflawni cenhadaeth M-SParc i danio uchelgais ac arloesedd i gael Cymru gynaliadwy.  

Mae’r gofod ychwanegol yn galluogi M-SParc i barhau i sicrhau bod gyrfaoedd sy’n talu’n dda yn cael eu creu yn y rhanbarth. Mae’r gyrfaoedd hyn yn cynnwys swyddi technegol ac ymchwil, ond hefyd y swyddi eraill sydd eu hangen mewn cwmnïau, gan gynnwys marchnata, cyfrifyddu a chymorth gweinyddol. Mae cwmnïau yn M-SParc yn talu cyflogau sy’n fwy na £5,000 y flwyddyn yn uwch na chyfartaledd Cymru. Mae’r adeilad newydd eisoes wedi cael caniatâd cynllunio amlinellol, a bydd yn cael ei ddylunio i gyd-fynd â dyluniad tirwedd presennol safle’r parc gwyddoniaeth.   

Dywedodd Pryderi ap Rhisiart, Rheolwr Gyfarwyddwr M-SParc, “Rydyn ni’n edrych ymlaen at wneud y cyhoeddiad hwn o’r diwedd, ac yn enwedig wrth i ni glywed am statws Porthladd Rhydd Ynys Môn, a’r brys cynyddol ynghylch datgarboneiddio’r wlad, ni all hyn ddigwydd ar amser gwell.” 

Mae M-SParc 2.0 yn canolbwyntio ar y sector carbon isel, ac mae’n adeiladu ar gryfderau ymchwil y Brifysgol. Mae gan M-SParc eisoes dîm ‘Egni’ Carbon Isel sydd wedi bod yn ymchwilio ac yn cynnal digwyddiadau yn y sector, yn cynnal adolygiadau Carbon Isel ar gyfer cwmnïau ar draws y rhanbarth, ac yn gweithio tuag at sicrhau mai M-SParc ydy'r parc gwyddoniaeth cyntaf yn y DU i gyrraedd Sero Net erbyn 2030.  

Sefydlwyd M-SParc gan y Brifysgol i arallgyfeirio’r economi, creu gyrfaoedd sy’n talu’n dda, a sicrhau nad oes rhaid i gwmnïau adael y rhanbarth wrth iddynt dyfu. Cyflawnwyd yr amcan hwn, ond bydd M-SParc yn parhau i weithio’n galed i sicrhau bod Gogledd Cymru yn adnabyddus am arloesi.  Mae dros 200 o yrfaoedd newydd wedi cael eu creu ers 2018, a gyda mentrau fel  Dewch yn Ôl i helpu’r rheini sydd wedi gadael i symud yn ôl i Ogledd Cymru, a’r Academi Sgiliau i gefnogi pobl i ymuno â diwydiant, mae’r nifer hwn yn cynyddu o fis i fis.  Mae M-SParc wedi dyblu maint y tîm yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ac mae’n parhau i dyfu.  

Fel Prifysgol, rydyn ni’n falch iawn o gweld ein Parc Gwyddoniaeth yn datblygu cynlluniau i dyfu ac yn dangos uchelgais wirioneddol ar gyfer economi Gogledd Cymru.”  

Bydd yr ehangu hwn yn parhau i greu gyrfaoedd sy’n talu’n dda i bobl ac yn ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol, gan ganolbwyntio hefyd ar gefnogi cwmnïau ac ymchwil yn y sector carbon isel drwy adeiladu ar gryfderau’r Brifysgol. Mae’r cynlluniau ar gyfer datblygu yn cyd-fynd â gwerthoedd Prifysgol Bangor a’n strategaeth ar gyfer y dyfodol, ac edrychwn ymlaen at weld yr effaith gadarnhaol a gaiff y prosiect hwn ar y gymuned.” 

Yr Athro Edmund Burke,  Is-ganghellor Prifysgol Bangor

Ychwanegodd Pryderi,

“Bydd yr adeilad newydd hefyd yn hwyluso ein gwaith i bontio’r bwlch sgiliau yn y rhanbarth ac i ddarparu cyflogaeth o werth uchel. Mae’n hanfodol fod pobl ifanc yn ymwybodol o’r cyfleoedd am yrfaoedd yn y rhanbarth, a’u bod yn gwybod nad oes rhaid iddynt adael i ddod o hyd i waith. Rydyn ni hefyd wedi mynd â M-SParc ar draws y rhanbarth i sicrhau bod pawb yn gallu manteisio ar gyfleoedd yn y sectorau gwyddoniaeth a thechnoleg, ni waeth pa mor wledig yw eu lleoliad.  Mae’n gyfnod cyffrous iawn i fyw yng Ngogledd Cymru!” 

Mae’r prosiect hwn yng nghamau cynnar ei ddatblygiad, a byddwn yn parhau i gyhoeddi datblygiadau newydd wrth i bethau fynd rhagddynt. Ar 13 Mehefin, bydd unrhyw un a hoffai ddysgu mwy am M-SParc a’r cam datblygu nesaf yn cael eu gwahodd i’n digwyddiad “tŷ agored”, lle bydd staff ar gael rhwng 15:30 a 18:00 i ateb unrhyw gwestiynau. Hefyd, mae modd mynd ar-lein ar https://m-sparc.com/events i drefnu ac archebu teithiau.  Os na allwch ddod, ond eich bod eisiau gofyn unrhyw gwestiynau am yr adeilad neu drafod gwaith carbon isel, anfonwch neges e-bost at y tîm yn egni@m-sparc.com. Mae rhagor o wybodaeth am yr holl waith rydyn ni wedi’i wneud hyd yma, a mwy, ar gael yma:  https://m-sparc.com 

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?