Dau storc yn eistedd ar nyth sy'n cynnwys plastic.

Mae deunyddiau gwneud yn gyffredin mewn nythod adar

Gall deunyddiau gwneud mewn nythod fod yn niweidiol ac yn fuddiol i adar

Mae’r rhifyn arbennig yn amlygu bod nythod amrywiaeth helaeth o dacsa – gan gynnwys adar a mamaliaid a physgod ac ymlusgiaid – yn caniatáu iddyn nhw addasu i’r pwysau a achosir gan fodau dynol. Mae’r pwysau hynny’n amrywio o gynnwys deunyddiau anthropogenig yn eu nythod hyd at ddarparu lle i rieni a’u hepil eu hamddiffyn eu hunain rhag tymereddau cynyddol boeth mewn hinsawdd sy’n newid.”
 

Mark Mainwaring,  Darlithydd ym Mioleg y Newid Byd-eang yn yr Ysgol Gwyddorau Naturiol

Adar yn defnyddio’r deunyddiau yr ydym yn eu taflu yn eu nythod

Weithiau mae deunyddiau anthropogenig yn niweidio adar. Weithiau mae’r adar a’u hepil yn mynd yn sownd hyd at farw mewn cortyn byrnwyr. Yn ogystal, mae’r epil weithiau'n bwyta deunyddiau anthropogenig ar ôl eu camgymryd am eitemau ysglyfaeth naturiol. Yn olaf, mae deunyddiau anthropogenig lliwgar mewn nythod yn denu ysglyfaethwyr i'r nythod hynny sy’n bwyta’r wyau neu'r adar bach. Felly, mae angen inni daflu llai o blastig a deunyddiau anthropogenig eraill.

Ychwanegodd prif awdur yr astudiaeth, Zuzanna Jagiełło o Brifysgol Gwyddorau Bywyd Poznań yng Ngwlad Pwyl,
“Roedd amrywiaeth eang o rywogaethau adar yn cynnwys deunyddiau anthropogenig yn eu nythod. Mae hynny’n peri pryder oherwydd mae'n dod yn fwyfwy amlwg y gall deunyddiau o'r fath niweidio adar bach a hyd yn oed adar yn eu llawn dwf”. Dywedodd Zuzanna Jagiełło hefyd fod “angen mwy o astudiaethau i ennill dealltwriaeth lawnach o faint o rywogaethau adar ledled y byd sy’n defnyddio deunyddiau o’r fath yn eu nythod er mwyn inni ddeall y broblem yn llawn.”

Dywedodd ail awdur yr astudiaeth, Jim Reynolds, ymchwilydd yng Nghanolfan Adareg Prifysgol Birmingham yn y Deyrnas Unedig,

“Mewn byd sy’n prysur drefoli yr ydym yn ei rannu â llawer o wahanol dacsa anifeiliaid, nid yw’n syndod bod adar yn defnyddio’r deunyddiau yr ydym yn eu taflu yn eu nythod. Er bod angen inni ddysgu sut mae plastigion, er enghraifft, yn effeithio ar adar, gall adar, oherwydd eu symudedd uchel a'u bioleg bridio, brofi i fod yn fiomonitoriaid hynod o lygredd deunyddiau anthropogenig amgylcheddol ac mae hynny’n gyffrous."
 

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?