Researcher at Bangor University's waste water surveillance lab

Prifysgol Bangor yn gartref i ganolfan newydd i ddatblygu’r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr amgylcheddol

Dywedodd Davey Jones, Athro Gwyddor yr Amgylchedd ac Iechyd Cyhoeddus ym Mhrifysgol Bangor,

Mae cael ein henwi fel un o gartrefi’r Ganolfan Hyfforddiant Doethurol gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol yn gam cyffrous i Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol Prifysgol Bangor. Mae’n gyfle inni barhau i chwarae ein rhan o ran gwella’r gwaith o fonitro a rheoli dyfroedd croyw mewn amser real, gan adeiladu ar ein henw da ym maes gwyliadwriaeth iechyd y cyhoedd yn seiliedig ar ddŵr gwastraff a’r llif o organebau pathogenig o’r dalgylch i’r arfordir a chemegau a allai fod yn niweidiol.

Bydd yr hyfforddiant yn canolbwyntio ar ymchwil amlddisgyblaethol a sgiliau datrys problemau. Hynny yw, fel partner  byddwn yn darparu’r set sgiliau angenrheidiol i fyfyrwyr PhD adeiladu gyrfaoedd mewn ymchwil, busnes a gwasanaeth cyhoeddus trwy ddatblygu dealltwriaeth drylwyr o sut i gydweithio i geisio datrys problemau cymdeithasol ac amgylcheddol cymhleth.

“Bydd myfyrwyr PhD yn elwa o gael mynediad i gyfleusterau ymchwil blaenllaw, rhwydweithiau rhyngwladol a ‘labordai byw’ system gyfan i ddarparu’r wybodaeth fanwl a'r ddealltwriaeth eang sydd eu hangen i alluogi newidiadau sylweddol yn y modd yr ydym yn rheoli iechyd yr amgylchedd. Newyddion cyffrous bod Afon Conwy yng Ngogledd Cymru wedi’i henwi’n un o’r pedwar ‘labordy byw’ yn y Ganolfan Hyfforddiant Doethurol.”

Y buddsoddiad hwn yw’r tro cyntaf i NERC ariannu pedair Canolfan Hyfforddiant Doethurol newydd mewn blwyddyn, ac mae’n dilyn y cyhoeddiad ym mis Tachwedd 2023 y byddai NERC yn ail-gydbwyso ei ddarpariaeth ddoethurol o 2024: Update on NERC future doctoral provision – UKRI

Mae’r newid hefyd yn cefnogi’r newid i ariannu talent ar y cyd ar draws Ymchwil ac Arloesedd y DU (UKRI) gyda’r nod o wella’r llif o dalent ar draws disgyblaethau a sectorau mewn ymchwil ac arloesi.

Bydd Canolfannau Hyfforddiant Doethurol newydd NERC yn cymryd eu carfan gyntaf o fyfyrwyr o fis Hydref 2024.

Rhagor o wybodaeth am ein rhaglenni ôl-radd ym maes Gwyddorau Amgylcheddol

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?