delwedd calon lliwgar

Datblygu safonau polisi rhyngwladol ar gyfer ‘empathi awtomataidd’ gan ddeallusrwydd artiffisial

Efallai y byddwn yn rhyfeddu at allu deallusrwydd artiffisial i greu pethau i ni, ond rydym yn dal i fod yn nyddiau cynnar y dechnoleg.

Ar hyn o bryd, mae cynhyrchion deallusrwydd artiffisial at ddibenion cyffredinol yn aml yn cael eu marchnata fel ‘partneriaid empathig’, ‘deallusrwydd artiffisial personol’, ‘cyd-beilotiaid’, ‘cynorthwywyr’, ac enwau tebyg sy’n golygu ‘partneriaeth rhwng pobl a deallusrwydd artiffisial’. Yma, defnyddir y term ‘empathi efelychiedig’ o fewn systemau deallusrwydd artiffisial ar gyfer partneriaethau rhwng pobl a deallusrwydd artiffisial mewn amryw o gyd-destunau, o leoliadau gwaith, therapi, addysg, hyfforddi bywyd a phroblemau cyfreithiol, i feysydd ffitrwydd, adloniant, a mwy.

Mae’r systemau hyn yn codi cwestiynau moesegol sy’n fyd-eang eu natur ond eto’n elwa o archwilio syniadaeth foesegol o bob rhan o’r byd. Mae rhai cwestiynau moesegol am bynciau megis tryloywder, atebolrwydd, tuedd a thegwch yn gyfarwydd, ond mae eraill yn benodol ac yn unigryw, gan gynnwys dibyniaethau a rhyngweithiadau seicolegol, priodoldeb plant, materion ymddiriedol, animistiaeth, a manipiwleiddio trwy bartneriaethau â systemau deallusrwydd artiffisial at ddibenion cyffredinol.
Andrew McStay,  Athro Technoleg a Chymdeithas ym Mhrifysgol Bangor

Ariennir yr ymchwil gan yr UKRI trwy Responsible AI UK.

Bydd y safon IEEE (Sefydliad Peirianwyr Trydanol ac Electroneg) a ddaw o ganlyniad i’r ymchwil hwn yn diffinio ystyriaethau moesegol, yn manylu ar arferion da, ac yn ategu cyfraith rhanbarthol a hawliau dynol rhyngwladol.

Ychwanegodd yr Athro McStay,

“Rydym yn credu fod y defnydd o fesur cyflwr dynol i ymgysylltu â dimensiynau ansoddol bywyd dynol yn ei ddyddiau cynnar o hyd. Mae deallusrwydd artiffisial emosiynol, a’r gwaith o fesur cyflwr dynol yn awtomataidd ar raddfa fwy, yn gofyn am graffu cymdeithasol, diwylliannol, cyfreithiol a moesegol parhaus.”

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?