Ganwyd David i deulu dosbarth-gweithiol yng Nghogledd-orllewin Llundain, yn ystod ei fywyd cafodd David yrfa unigryw, amrywiol a pharchus. Roedd yn un o’r canwr-gyfansoddwyr mwyaf yn y byd Prydeinig yn y 1960au cyn dod yn arloeswr radio lleol annibynnol yn y 1980au a’r 1990au. Ar ôl dwy ddegawd yn y byd radio, daeth cyfansoddi cerddoriaeth a pherfformio yn brif ffocws ei yrfa unwaith eto. Mae ei gyfraniad i gyfansoddi cerddoriaeth Brydeinig yn enfawr. Ysgrifennodd ganeuon a recordiadau cyfoethog, dyfn ac amrywiol. Yng ngeiriau David ei hun, o Hanging in the Gallery, un o’i ganeuon gorau, “He is silent now, will sing no more.”
Yn 1963 sefydlodd David Strawberry Hill Boys gyda Tony Hooper; erbyn 1967 The Strawbs oedd yr enw, gan ryddhau eu halbwm cyntaf yn 1969. Dros gyfnod o 60 mlynedd, gwelwyd llawer o gerddorion yn ymuno â gadael y Strawberry Hill Boys ac yna The Strawbs. Fodd bynnag, drwy’r holl flynyddoedd, David oedd yr unig berson sefydlog yn hanes The Strawbs. Mae ei sgiliau cyfansoddi arloesol, ei sain gerddorol nodedig a’i arddull unigryw wedi llunio sain The Strawbs o’r dechrau hyd at y diwedd. Rhyddhaodd David gyfres o albymau unigol ac cydweithredol gyda artistiaid eraill rhwng 1972 a 2015.
Ganwyd fel David Joseph Hindson ar 7 Ionawr 1940 yn Ysbyty St Giles yn Ne Llundain, unig fab i Joseph Hindson a Violet Irene Luck. Lladdwyd tad David wrth ymladd yn ystod blwyddyn gyntaf o’r Ail Ryfel Byd pan oedd David ond yn saith mis oed. Pan yn chwech oed, priododd ei fam â Jack Cousins a newidiodd David ei enw i Cousins. Yn Ysgol Ramadeg Thames Valley yn Twickenham cyfarfu â Tony Hooper ar ei ddiwrnod cyntaf. Ar ôl gorffen yr ysgol, ffurfiodd grŵp gyda Tony Hooper a dau ffrind o’r enw Gin Bottle Four cyn mynychu Prifysgol Caerlŷr, gan astudio ar gyfer Gradd Gyffredinol mewn Mathemateg a Ystadegau. Sefydlodd gymdeithas werin y Brifysgol a bu’n Llywydd y Clwb Jazz.
Yn 22 oed, bu farw ei lys-dad a chymerodd David y cyfrifoldeb o gefnogi ei deulu. Ar ôl graddio, bu’n gweithio mewn dosbarthu dodrefn ac yna mewn cynhyrchu cig cyn cael ei gyflogi gan Greenly’s Advertising. Yna aeth yn Swyddog Cyfathrebu i Preprint and Publishing Company cyn sefydlu ei gwmni ei hun, Centreplan, fel cyfleuster archebu hysbysebu lleol i asiantaethau cyhoeddusrwydd.
Ymddangosodd Strawberry Hill Boys ar y BBC ym Mehefin 1963 mewn rhaglen oedd yn yn cynnwys y Beatles. Dyma oedd ymrywmiadau cyntaf gyda’r BBC i David. Yn fuan wedi’r sioe radio gyntaf hon, cefnogodd Strawberry Hill Boys y Rolling Stones yn Eel Pie Island Club. Cychwyn addawol i David, wrth iddo gerfio ei hun fel canwr-gyfansoddwyr mwyaf dawnus ei genhedlaeth ym Mhrydain. Yn 1965, rhyddhawyd albwm gan Steve Benbow a Strawberry Hill Boys o’r enw The Songs of Ireland – y tro cyntaf i David dderbyn cydnabyddiaeth ar glawr record. Agorodd glwb gwerin yn White Bear yn Hounslow. Yn 1966, aeth ar daith ar ei ben ei hun i Ddenmarc a chefnogodd The Who ar y teledu. Daeth yn gynhyrchydd i Danmarks Radio a pharhaodd yn y rôl hon tan 1972 pan wnaeth gwaith gyda The Strawbs ei gyfyngu (dros dro) o radio i fod yn seren roc amser llawn.
Yn 1967, dychwelodd David i Denmarc i recordio All Our Own Work gyda Sandy Denny a The Strawbs. Gyda Sandy Denny yn ymuno ag Fairport Convention yn ddiweddarach a heb ddosbarthwr yn y Deyrnas Unedig, daeth y recordiad i ben nes i’w ryddhau’n 1973 yn ystod uchafbwynt enwogrwydd The Strawbs. Roedd rhaid i David aros tan 1968 cyn i The Strawbs ryddhau eu sengl gyntaf, Oh How She Changed, gyda'r label Americanaidd A&M yn eu rheoli. Rhyddhaodd Strawbs eu halbwm cyntaf ym 1969. Yn ystod y cyfnod hwn, yn ogystal â bod yn arweinydd y band, bu David hefyd yn chwarae fel cerddor sesiwn gyda artistiaid fel Leonard Cohen, Joni Mitchell, Mary Travers, Mary Hopkin, The Clancy Brothers a Tommy Makem. Roedd David dal yn rhedeg cwmni hysbysebu Centreplan a chlwb werin White Bear. Roedd wedi dod yn hyrwyddwr cerdd ac wedi lansio Hounslow Arts Lab gan barhau i weithio fel cynhyrchydd radio. Roedd The Strawbs ar drothwy cyrraedd y brig a dod yn enw mawr, ac roedd yn rhaid i'w holl weithgareddaru eraill gael eu rhoi i un ochr am y tro.
Ar ôl rhyddhau eu hail albwm, Dragonfly ym 1970, ymunodd Rick Wakeman gyda’r band - ond gadawodd ar ôl rhyddhau dim ond dau albwm (Just a Collection of Antiques and Curios 1970 a From the Witchwood 1971). Yn ystod y cyfnod hwn, tyfodd ddilyniant y band, a rhyddhaodd y band albwm Grave New World yn 1972. Cyrhaeddodd yr albwm safle Rhif 11 a gwerthwyd dros 94,000 copi yn y Deyrnas Unedig, yr albwm Strawbs cyntaf i cyrraedd y US Billboard Top 200. Roedd sgiliau cyfansoddi rhagorol David a’i lais unigryw yn sylfaen i’r llwyddiant hwn. Yn 1972, rhyddhaodd ei albwm unigol cyntaf, Two Weeks Last Summer, albwm arbennig sy’n parhau’n uchafbwynt nodedig o’i ddisgograffi sefydlog.
Creuodd Grave New World blatffrom yng ngogledd America. Teithiodd David i’r UDA a Chanada gyda The Strawbs am y tro cyntaf yn 1972. Yn ystod y cyfnod yma daeth llwyddiant masnachol Strawbs i uchafbwynt wrth rhyddhau Bursting at the Seams ym mis Ionawr 1973, a gyrhaeddodd safle Rhif 2 yn y Deyrnas Unedig. Fe’i rhyddhawyd yn fuan ar ôl sengl mwyaf llwyddiannus y band ar y pryd: Lay Down, a gafodd ei ysgrifennu yn seiliedig ar y adnod 23. Ysgrifennodd David a pherfformiodd y sengl a ledaenodd i safle Rhif 12 yn y Deyrnas Unedig. Cynhyrchwyd sengl Rhif 2 arall ym mis Ionawr 1973 gyda Part of the Union.
Roedd y llwyddiant yn cuddio yr anghydweld cynyddol yn y band a arweiniodd at newid enfawr o ran aelodau. Yr elfen gynhenid o albwm i albwm Strawbs oedd arweinyddiaeth gerddorol David a’i arddull unigryw. Rhyddhaodd Hero and Heroine ym 1974 gyfeiriad cerddorol a chyfansoddi caneuon arloesol David yn cymryd cyfeiriad mwy blaengar. Rhyddhawyd Ghosts yn 1975 a oedd yn cynrychioli uchafbwynt y 1970au i broffil cerddorol David yn Gogledd America, aeth i'r 47 safle yn siartiau'r Deyrnas Unedig. Teithiodd The Strawbs i ogledd America a pherfformiodd yn Japan. O’r tu allan, roedd y band yn mwynhau eu cyfnod mwyaf poblogaidd.
Fodd bynnag, roedd cymylau stormus yn codi. Yn erbyn dymuniadau David, gadawodd y band reolaeth A&M. Ond o dan eu cytundeb roedd rhaid iddynt ryddhau eu halbwm olaf i A&M, a rhyddhawyd Nomadness yn hwyr yn 1975. Daeth ddau albwm arall ar ôl (Deep Cuts 1976 a Burning for You 1977) cyn newid label arall yn 1978. Er gwaethaf y gostyniad yn eu poblogrwydd, cafodd pob un rhyddhad le yn Billboard Top 200. Recordion nhw albwm arall yn 1978 o’r enw Heartbreak Hill, ond ni chafodd ei ryddhau tan 17 mlynedd yn ddiweddarach. Rhyddhaodd y band albwm gyda Maddy Prior yn 1979. Rhoddwyd sengl allan gyda Maddy Prior yn 1979. Ni lwyddodd yr albwm i greu effaith fasnachol er ei gynnwys ddau o ganeuon mwyaf cofiadwy David: The King a Ringing Down the Years, er coffa am Sandy Denny, a fu farw yn 1978. Gellir addasu geiriau ysgytwol David i’w etifeddiaeth ei hun “as every word [he] ever sang comes ringing down the years.”
Yn ystod 1979, dychwelodd David i’w wreiddiau gwerin gan deithiodd gyda Brian Willoughby. Roedd ei albwm Old School Songs yn gynrychiolaeth o’r newid cerddorol hwn. Roedd cyflawniadau David erbyn diwedd y 1970au yn rhagorol iawn. Roedd David a The Strawbs wedi cynhyrchu portffolio sylweddol o gerddoriaeth o ansawdd uchel, oherwydd gwrthdaro, daeth y band i ben yn 1980 pan ymddiswyddodd David o’r Strawbs. Fodd bynnag, nid oedd ei yrfa wedi dod i ben. Yn wir, roedd i gymryd tro unigryw wrth i ddegawd newydd ddechrau ac wrth iddo fwrw ymlaen ar llwybr newydd.
Yn 1980, penodwyd David yn rheolydd rhaglenni yn Radio Tees. Roedd hyn yn gyflawniad sylweddol i rywun nad oedd erioed wedi gweithio mewn rheolaeth orsaf radio. Ym mis Rhagfyr y flwyddyn honno, hyfforddwyd y Watersons i recordio sioe Nadolig i'r orsaf. Mewn 25 mlynedd o hynny, rhyddhawyd y sioe hon fel albwm ar label David ei hun, Witchwood Media. Pennodd un o uchafbwyntiau ei yrfa radio drwy argyhoeddi Dame Vera Lynn i sgwrsio am ei hoff gerddoriaeth am awr. Golygwyd a rhyddhawyd ar Ddydd Nadolig 1981.
Gadawodd David Radio Tees yn 1983 i ymuno gyda DevonAir Radio fel rheolydd orsaf. Dwy flynedd yn ddiweddarach, daeth yn Gyfarwyddwr Gweinyddol. Chwaraeodd ran sylweddol wrth uno DevonAir a Capitol Radio a arweiniodd at ffynnu David fel uwch swyddog Capitol Radio lle bu’n gweithio gyda Richard Attenborough, oedd yn gadeirydd y bwrdd bryd hynny. Daeth David yn arbenigwr ar ymgeisio am drwyddedau radio annibynnol a'u hennill. Yn wir, yn 1996, roedd David yn ganolog i ennill trydydd drwydded FM i ddosbarthu yng Nghaerdydd wedi dechrau darlledu’r flwyddyn ganlynol. Crëwyd y slogan gan David ar gyfer Xfm oedd i ddisgrifio allbwn yr orsaf: “Guitar-led rock, with attitude”. Mae’n debyg y gallai'r slogab hwn hefyd ddisgrifio rhai o gyfansoddiadau cerddorol David ei hun. Yn 1999, cychwynnodd David orsaf radio newydd o’r enw Radio Victory, gan ddod yn Gadeirydd y Bwrdd. Chwe wythnos ar ôl ei sefydlu, cafodd ei werthu am £3.1M.
Trwy’r dwy ddegawd yn y byd radio, perfformiodd yn achlysurol pan ail-ffurfiodd The Strawbs. Ymddangosodd ar sioe Channel 4 ym 1983 o’r enw Gastank, a gyflwynwyd gan Rick Wakeman. Yn Haf 1983, roedd The Strawbs yn brif act Cambridge Folk Festival. Yn 1987, rhyddhawyd albwm Don’t Say Goodbye, eu halbwm cyntaf mewn naw mlynedd. Rhoddwyd Ringing Down the Years yn 1991 ac, yn ddiweddarach ym 1995, rhyddhawyd Heartbreak Hill (a recordiwyd 1978). Bu ambell gyngerdd a thaith gan The Strawbs yn ystod yr 20 mlynedd pan oedd David yn canolbwyntio ar radio. Yn 1993, cynhaliodd y Strawbs daith i nodi eu pen-blwydd yn 25 oed a gŵyl yn Suffolk. Dilynwyd hyn gyda chyngerdd pen-blwydd 30fed ym Mhriordy Chiswick House.
Ar ddechrau mileniwm newydd, daeth diwedd ar yrfa radio David a throdd ei sylw unwaith eto at gyfansoddi cerddoriaeth a pherfformio. Sefydlodd Witchwood Media ac roedd y label yn rhyddhau rhychwant hir o albymau Strawbs ynghyd ag ei brosiectau unigol a gydweithredol. Rhyddhawyd Baroque and Roll, yr albwm cyntaf gan The Acoustic Strawbs ar label Witchwood yn 2001. Cynhaliwyd pen-blwydd 40fed The Strawbs am ddeuddydd yn Stadiwm Twickenham yn 2009. Cyhoeddodd Witchwood Media dau albwm i ddogfennu’r digwyddiad hwn. Cynhaliwyd pen-blwydd 50fed Strawbs gydag digwyddiad tair diwrnod yn Lakewood, New Jersey yn 2019. Rhoddwyd eu halbwm olaf, The Magic of it All, yn 2023. Mae albwm o ddeunydd newydd, a recordiwyd yn y rhai misoedd olaf o’i fywyd, i fod i'w ryddhau cyn bo hir.
Ddiwedd ei yrfa, derbyniodd David wobrau a chydnabyddiaeth sylweddol am ei gyfraniad rhagorol i gerddoriaeth ac radio. Yn 2002, anogwyd ef i fod yn gymrawd o’r Royal Society of Arts. Yn 2020, cafodd David Wobr Cyflawniad Bywyd gan Gymdeithas Alumni Prifysgol Caerlŷr a, thair blynedd yn ddiweddarach, derbyniodd Gradd Anrhydedd a doethuriaeth cerddoriaeth gan y Brifysgol. Roedd hwn yn wobr sy’n cydnabod ei gyflawniad rhagorol ac ei ymrwymiad oes hir gyda’r Brifysgol.
Roedd cyngerdd olaf David Cousins gyda’r Strawbs yng Ngŵyl Cropredy ym mis Awst 2023. Daeth ei berfformiad olaf mewn cyngerdd fel artist gwadd mewn cyngerdd gan Rick Wakeman yn Folkestone ddiwedd 2024. Fodd bynnag, perfformiad cyhoeddus olaf David oedd yn ystod ymweliad â Phrifysgol Bangor ar Fawrth 21ain, 2025. Yn niwedd y 1960au, ym mis Tachwedd 1964, perfformiodd ym Mhrifysgol Bangor gyda’r Strawberry Hill Boys. Dros 60 mlynedd yn ddiweddarach, dychwelodd i roi darlithoedd yn yr Adran Gerddoriaeth i gynulleidfa ddiolchgar o fyfyrwyr ac aelodau staff. Roedd yn ddiwrnod bendigedig, gyda David yn rhannu ei ddoethineb, hiwmor, profiad ac arbenigedd yn hael. Roedd ei ddarlith gyntaf yn ganllaw ymarferol, gwybodaethol, difyr ac ymarferol ar sut i ennill bywoliaeth yn y diwydiant cerddoriaeth. Archwiliodd yr ail ddarlith broses David o ysgrifennu caneuon, wrth iddo ddangos rhai o’r gyfansoddiadau unigryw a ddefnyddiodd dros ei yrfa gyfansoddi hir. Perfformiodd David nifer o’i ganeuon fel rhan o’r ddarlith hon. Dyna oedd y tro olaf iddo berfformio ei ganeuon gwych a threiddgar yn gyhoeddus. Cafodd cenhedlaeth newydd o fyfyrwyr cerddoriaeth gyfle rhyfeddol i ddysgu gan feistr y gelfyddyd.
Fodd bynnag, bydd o nawr ddim yn canu mwyach. Dylai’r geiriau olaf ddod gan David ei hun, wedi’u cymryd o’i albwm unigol campwaith, Two Weeks Last Summer:
“Sad it is, but that's the way it ends.”
David Cousins
