Dewi Bryn Jones yn derbyn Medal Wyddoniaeth a Thechnoleg Eisteddfod 2025
Enillydd Medal Gwyddoniaeth a Thechnoleg yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam eleni yw Dewi Bryn Jones, o Ganolfan Bedwyr, prif arloeswr technolegau iaith a lleferydd ar gyfer y Gymraeg.
Dros y blynyddoedd diwethaf, mae Dewi wedi gwneud mwy na neb arall i ddatblygu adnoddau ac offer iaith gyfrifiadurol Cymraeg, gan alluogi’r cyhoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ar gyfrifiaduron ac wrth gyfathrebu’n ddigidol. Mae’r dechnoleg a ddatblygodd hefyd yn cefnogi pobl anabl ac unigolion ag anghenion ychwanegol i gyfathrebu’n Gymraeg.
Mae Dewi’n arwain tîm o ddatblygwyr meddalwedd yn Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr ym Mhrifysgol Bangor. Ei weledigaeth a’i gyfraniad ef sydd wedi arwain at ddatblygiadau arloesol ym maes technoleg ysgrifennu, lleferydd a chyfieithu peirianyddol Cymraeg.
Sefydlwyd y Fedal Gwyddoniaeth a Thechnoleg yn 2004 i gydnabod cyfraniad unigolion i’r maes trwy gyfrwng y Gymraeg. Yr Athro Glyn O Phillips, cemegydd o Wrecsam, oedd y cyntaf i’w derbyn.
Bydd Dewi Bryn Jones yn cael ei anrhydeddu mewn seremoni arbennig yn y Pafiliwn ar Faes yr Eisteddfod am 13:30, brynhawn Iau, 7 Awst.

Dywedodd yr Athro Delyth Prys, cyn bennaeth yr uned dechnoleg:, “Mae’r wobr yn gwbl haeddiannol i Dewi. Fuaswn yn mynd mor bell â dweud oni bai am gyfraniad Dewi, ni fyddai gennym feddalwedd Gymraeg heddiw."
Ychwanegodd yr Athro Deri Tomos, cyn-enillydd y Fedal, "Mae’r uned yma’n hollbwysig i ddyfodol yr iaith. Mae Dewi’n byw ym myd cyfrifiaduron – mae’n rhan greiddiol o’i fywyd, ac rwy’n siŵr ei fod wrth ei fodd gyda’r anrhydedd hwn."
Ganwyd Dewi ym Mhwllheli ac ar ôl graddio mewn Cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Caerefrog, bu’n gweithio yng Nghaergrawnt, Zurich a Helsinki. Yn y Ffindir, dechreuodd gyfieithu a lleoleiddio meddalwedd Netscape Navigator cyn dychwelyd i Gymru i weithio gyda Draig Technology Ltd, lle datblygodd y rhaglen To Bach.
Ers 2002, mae wedi bod yn rhan o Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr, gan arwain datblygiadau megis Cysill, Cysgeir, Y Porth Termau Cenedlaethol, a fersiynau digidol o eiriaduron Cymraeg. Mae hefyd wedi bod yn flaenllaw ym maes technoleg lleferydd, gan gynnwys creu lleisiau synthetig ar gyfer pobl nad ydynt yn gallu siarad, a datblygu’r ap Lleisiwr ar gyfer cleifion y GIG.
Mae Dewi hefyd wedi cyfuno’r dechnoleg hon i greu Macsen – y cynorthwyydd personol cyntaf yn y Gymraeg – ac wedi cyfrannu’n helaeth at brosiect Common Voice gan Mozilla.
Mae’n darlithio ar gwrs Meistr mewn Technolegau Iaith ym Mhrifysgol Bangor, ac wedi goruchwylio’r PhD cyntaf yn y maes trwy gyfrwng y Gymraeg. Ef hefyd fu’n gyfrifol am ysgrifennu’r Llawlyfr Technolegau Iaith – y cyntaf o’i fath yn y Gymraeg.
Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam yn Is-y-Coed rhwng 2–9 Awst. Am ragor o wybodaeth ac i brynu tocynnau, ewch i: eisteddfod.cymru