Gyda chyllid gan yr Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA) trwy FISP (cynllun Partneriaeth Gwyddoniaeth y Diwydiant Pysgodfeydd), mae Prifysgol Bangor, mewn cydweithrediad ag Imperial College London, Western Fish Producers Organisation, South Western Fish Producer Organisation a Chanolfan ar gyfer Amgylchedd Pysgodfeydd a Gwyddoniaeth Ddyfrhwythau, wedi ymchwilio i weld a allai pysgota ar wely'r môr leihau faint o garbon sy'n cael ei storio yno.
Mae astudiaethau diweddar wedi rhybuddio y gallai pysgota ar wely'r môr ryddhau carbon sydd wedi ei storio yng ngwely'r môr a chynyddu CO2 yn yr atmosffer. Mae gweithgareddau dynol sy'n effeithio ar drosglwyddo CO2 rhwng yr atmosffer a'r cefnforoedd yn berthnasol i ymdrechion i ddeall newid yn yr hinsawdd.
Roedd yr ymchwil yn edrych ar wely'r môr tywodlyd a graeanog lle defnyddir treillrwydi trawst a llusgrwydi cregyn bylchog yn aml. Nid yw'r ardaloedd hyn wedi eu hastudio cymaint â gwely'r môr mwdlyd.
Defnyddiwyd y Prince Madog, llong ymchwil Prifysgol Bangor, i gasglu samplau o wely'r môr a'r dŵr. Gwnaethant hyn cyn ac ar ôl i ddau gwch bysgota gyda threillrwydi a llusgrwydi chwilio am bysgod a chregyn bylchog. Bu hyn yn gymorth iddynt ddarganfod a yw pysgota yn newid faint o garbon sydd ar wely’r môr.

Yn safle’r astudiaeth ger de-orllewin Lloegr, dim ond ychydig iawn o garbon organig oedd ar wely’r môr. Pan oedd offer pysgota yn tarfu ar wely'r môr, nid oedd i’w weld yn lleihau’r carbon yn yr arbrawf byr hwn. Bu i ni ganfod lefelau isel o garbon organig yn y 5.5 cm uchaf o wely'r môr, lle'r oedd yr offer pysgota yn cyrraedd, hyd yn oed cyn i unrhyw bysgota ddigwydd. Nid oedd ein canlyniadau'n dangos arwyddion clir bod pysgota yn tynnu carbon o wely'r môr nac yn cyflymu ymddatodiad carbon yn syth wedyn yn y dŵr nac yn y dyddiau ar ôl pysgota ar wely'r môr. Ond mae’n rhaid gwneud astudiaethau hwy i ddeall yr effeithiau posib yn llawn.
Mae deall pwysigrwydd y cefnforoedd yn y cylch carbon, a'r rhyngweithio rhwng pysgota ar wely’r môr a storio carbon ar wely'r môr, yn golygu goblygiadau polisi sylweddol ar gyfer rheoli gwely'r môr a'r diwydiant pysgota.
Mae dealltwriaeth o ddeinameg carbon ar wely'r môr, sy’n seiliedig ar wyddoniaeth, yn hanfodol i reolaeth forol ar sail tystiolaeth. Mae'r ymchwil cydweithredol hwn yn darparu sylfaen gref i bolisïau sy'n cydbwyso cynaliadwyedd amgylcheddol â realiti pysgota masnachol. Wrth i newid yn yr hinsawdd sbarduno newidiadau yn nosbarthiad pysgod a newidiadau ehangach i ecosystemau, mae'r diwydiant pysgota yn parhau i fod wedi ymrwymo i leihau ei ôl troed amgylcheddol a sicrhau gwydnwch hirdymor.
Trwy seilio penderfyniadau ar ddata empirig, gallwn ddatblygu cyfundrefnau rheoli cytbwys ac effeithiol sy'n diogelu hyfywedd hirdymor cychod pysgota, sy'n hanfodol i ddiogelu’r cyflenwad bwyd cenedlaethol a chymunedau arfordirol ffyniannus.

Ar hyn o bryd, nid ydym yn gwybod digon am effaith pysgota â threillio ar garbon gwely'r môr i wneud rhagamcanion cadarn ar raddfa fawr, ond mae'r project hwn wedi helpu llenwi bwlch yn ein dealltwriaeth o'r effaith ar waddodion mwy bras. Rhaid i waith yn y dyfodol ganolbwyntio ar werthuso effeithiau tymor byr a hirdymor gwahanol offer treillio mewn gwahanol amgylcheddau, cyn y gallwn werthuso ble a phryd y gall treillio ar wely’r môr arwain at allyriadau CO2 yn yr atmosffer.
Cyhoeddir canlyniadau'r ymchwil mewn cyhoeddiad a adolygir gan gymheiriaid sydd ar ddod, ond gellir gweld disgrifiad cychwynnol a chrynodeb o'r canlyniadau yma.