Penodi Athro yn Gadeirydd Panel Ymgynghorol Diogelwch Niwclear Singapore
Mae'r Athro Laurence G Williams, sy’n Athro Sêr Cymru mewn polisi a rheoleiddio niwclear yn y Sefydliad Dyfodol Niwclear Prifysgol Bangor wedi cael ei benodi'n Gadeirydd Panel Ymgynghorol Diogelwch Niwclear (NSAP) Asiantaeth Amgylchedd Genedlaethol (NEA) Singapore.
Mae gan aelodau'r NSAP brofiad helaeth yn eu meysydd priodol ac mae'r Panel yn gweithio'n agos gyda'r NEA i feithrin galluoedd mewn diogelwch, diogelu ac amddiffyn niwclear i gefnogi'r asesiad o botensial technolegau ynni niwclear uwch er budd Singapore ac i Singapore ymateb i ranbarth sy'n ystyried defnyddio ynni niwclear. Yn gynharach eleni, cynhaliwyd cyfarfod NSAP yn Singapore lle rhannodd y panel fewnwelediadau ac ystyriaethau gwerthfawr o ran diogelwch niwclear er budd Singapore a'r rhanbarth, yn ogystal â chwrdd â deiliaid swyddi gwleidyddol Singapore.
Dywedodd Laurence, “Mae’n anrhydedd fawr fy mod wedi cael fy mhenodi’n Gadeirydd y Panel Ymgynghorol Diogelwch Niwclear. Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda fy nghyd-aelodau o’r panel i helpu Singapore yn ei hystyriaethau ar ddefnyddio ynni niwclear i gefnogi ei hangen am ddiogelwch ynni a thrydan carbon isel yn y blynyddoedd i ddod.”
I gydnabod ei gyfraniad sylweddol i genhadaeth diogelwch niwclear Singapore, cyhoeddwyd yn ddiweddar bod Laurence wedi derbyn Medal Gwasanaeth Cyhoeddus Singapore. Bydd yn derbyn y fedal yn ffurfiol gan Arlywydd Singapore yn y seremoni Arwisgo ar 16 Tachwedd.
