Sefydlwyd Bangor gan Sant Deiniol yn y flwyddyn yn 525AD. Roedd Sant Deiniol yn ffigwr amlwg yng Nghristnogaeth Gymreig yr Oesoedd Canol cynnar - fo oedd sylfaenydd cymuned fynachaidd Bangor. Mae Sant Deiniol wedi cael ei ddathlu mewn barddoniaeth, ysgrifau crefyddol a ffenestri lliw eglwysig ar draws Cymru, sy’n dangos ei ddylanwad ar yr ardal hyd yn oed heddiw.
Bydd y diwrnod yn cynnwys trafodaethau a chyflwyniadau ar sut wnaeth Sant Deiniol ar Gadeirlan ysbrydoli beirdd yng Nghymru ar hyd yr oesoedd. Caiff fynychwyr y cyfle i glywed am feirdd nodedig sydd â chyswllt amlwg â’r Gadeirlan. Yn eu plith mae’r beirdd Edmwnd Prys (1542-1623) a Goronwy Owen (1723- 1769), ill dau wedi bod yn glerigwyr, ac wedi eu coffáu yng Nghapel Mair, yn y Gadeirlan.
Bydd trafodaethau hefyd am y bardd enwog o’r bedwaredd ganrif ar ddeg, Dafydd ap Gwilym wnaeth ymweld â’r Gadeirlan sawl gwaith. Caiff cyfansoddiadau cerddorol o gerddi Dafydd eu clywed yn ystod y diwrnod.

Yn y flwyddyn lle mae Bangor a’r Gadeirlan yn dathlu 1500 o flynyddoedd, mae’n braf dathlu’r pen-blwydd gyda chynhadledd fydd yn edrych ar gysylltiadau a dylanwad y Gadeirlan ar fywyd diwylliannol Cymru. Bydd hyn yn cynnwys trafod clerigwyr oedd hefyd yn feirdd, a’r ffordd y mae Deiniol a’i Gadeirlan wedi ysbrydoli beirdd, arlunwyr a cherddorion dros y canrifoedd hyd heddiw.

“Rwy’n edrych ymlaen at fod yn rhan o’r diwrnod fydd yn archwilio agweddau ar hanes Eglwys Gadeiriol Bangor, a’r defosiwn i Sant Deiniol a welwn mewn gwahanol fathau o ddelweddau ledled Cymru. Mae llawer o’r delweddau hynny mewn cerfluniau a gwydr lliw o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif. Enghreifftiau y gallwn eu gweld yn y Gadeirlan heddiw, a thros y blynyddoedd rwyf wedi ymweld â’r Gadeirlan sawl gwaith fel rhan o’m hymchwil ar wydr lliw yng Nghymru a delweddaeth seintiau Cymru. Rwy’n gobeithio y bydd fy nghyfraniad at ‘Deiniol a Diwylliant’ yn helpu i feithrin gwell gwerthfawrogiad o’r gwydr lliw yn y gadeirlan, a’r ffordd y mae Deiniol wedi cael ei bortreadu gan wahanol artistiaid ar wahanol adegau.”
Roedd Deiniol yn bersonoliad o ddinas Bangor a'i hesgobaeth, a chaiff ei grybwyll yn aml gan awduron yng Nghymru ganoloesol. Byddaf yn siarad am sut y caiff Sant Deiniol ei gofio mewn llenyddiaeth a'r hyn yr oedd yn ei olygu i wahanol awduron ar wahanol adegau. Gobeithio y bydd y sgwrs yn rhoi rhywfaint o fewnwelediad i gyfoeth ysgrifennu canoloesol am y seintiau yng Nghymru.
Bydd y digwyddiad yn dechrau am 10 o’r gloch, ac yn gorffen am 4.15. Mae mynediad a lluniaeth am ddim, gyda diolch i’r Gadeirlan am eu cefnogaeth, ond awgrymir rhodd o £5.
Dolen i Gofrestru