Perfformiodd Bangor yn dda yn y categori pobl a'r blaned (sy'n asesu safon amgylcheddol a moesegol pob prifysgol yn y Deyrnas Unedig) gan gyrraedd y 19eg safle, ac yn y 15fed uchaf o'r holl sefydliadau.
Dangosodd hefyd gynnydd sylweddol yn y categori profiad myfyrwyr, gan godi 39 safle o'r llynedd i'r 58fed safle. Mae Bangor yn perfformio'n dda hefyd yn y categori ymchwil, gan gyrraedd y 40fed safle.
O fewn Cymru ni fu unrhyw newid, gyda Bangor yn aros yn y 4ydd safle. Mae'r tri uchaf yn aros yr un fath â'r llynedd, Caerdydd, Abertawe ac Aberystwyth. Ar gyfer rhifyn 2026, mae'r Times yn defnyddio canlyniadau NSS 2025 ar gyfer y ddau ddangosydd boddhad myfyrwyr, sef y prif ysgogydd yng ngwelliant y Brifysgol.
Mae'r pynciau isod yn perfformio o fewn y 25% o sefydliadau wedi'u rhestru:
- Amaethyddiaeth a Choedwigaeth (rhestr 1af allan o 10) 10% o’r holl brifysgolion a restrwyd (darllenwch ragor am eu llwyddiant yma).
- Radiograffeg (3ydd ar y rhestr allan o 28) 11% o’r holl brifysgolion a restrwyd
- Gwaith Cymdeithasol (9fed ar y rhestr allan o 73) 12% o’r holl brifysgolion a restrwyd
- Gwyddor Chwaraeon (rhestr 11 ar y rhestr allan o 82) 13% o’r holl brifysgolion a restrwyd
- Astudiaethau Diwylliannol (5ed ar y rhestr allan o 27) 19% o’r holl brifysgolion a restrwyd
- Ysgrifennu creadigol (12 ar y rhestr allan o 49) 24% o’r holl brifysgolion a restrwyd
- Celf a Dylunio ( 20 ar y rhestr allan o 81) 25% o’r holl brifysgolion a restrwyd
Darllenwch ragor am lwyddiant Amaethyddiaeth a Choedwigaeth yma.