Mae Prifysgol Bangor yn gyntaf ymhlith holl brifysgolion y Deyrnas Unedig ym maes pwnc "Amaethyddiaeth a Choedwigaeth" yng nghynghrair newydd The Times and Sunday Times UK University Rankings 2026.
Mae dod i’r brig mewn gynghrair genedlaethol mor uchel ei pharch yn cadarnhau rhagoriaeth Prifysgol Bangor gydag addysg ac ymchwil ym meysydd cadwraeth, coedwigaeth, a rheoli tir. Mae'r canlyniad hwn yn seiliedig ar fesurau gan gynnwys boddhad myfyrwyr, ansawdd addysgu, cyflogadwyedd graddedigion, effaith ymchwil a safonau mynediad.
Yn gyson ymhlith y goreuon yn y Deyrnas Unedig
Mae Prifysgol Bangor wedi hen sefydlu enw da ym meysydd Amaethyddiaeth a Choedwigaeth, gan gyrraedd yr ail safle yn y gynghrair hon yn 2024. Mae cyrraedd y safle uchaf eleni yn cadarnhau safle'r brifysgol fel un o sefydliadau mwyaf blaenllaw'r Deyrnas Unedig yn y meysydd hyn.
Dywedodd Athro Gwyddorau Coedwig ym Mhrifysgol Bangor:
Mae’r grŵp coedwigaeth ym Mhrifysgol Bangor ar ben ein digon o glywed y newyddion. Mae’r canlyniad yn cydnabod rhagoriaeth ein haddysgu ym meysydd coedwigaeth ac amaethgoedwigaeth, a’n hymchwil i goedwigaeth, defnydd tir, cadwraeth a gwyddor yr amgylchedd. Bangor oedd y brifysgol gyntaf yn y Deyrnas Unedig i addysgu graddau coedwigaeth, a hynny fwy na 120 o flynyddoedd yn ôl, ac mae'n parhau i fod ar y brig trwy’r gwledydd hyn am addysg goedwigaeth sy'n seiliedig ar ymchwil sydd gyda’r gorau yn y byd a hynny er mwyn mynd i'r afael â heriau cadwraeth a rheoli coedwigoedd yn gynaliadwy, yn wyneb bygythiadau enfawr i hinsawdd a bioamrywiaeth yn fyd-eang. Wrth i ni ddod i’r brig trwy’r Deyrnas Unedig yng nghynghrair The Times and Sunday Times mae gennym hefyd, yr wythnos hon, fwy o fyfyrwyr yn dechrau eu graddau BSc mewn pynciau coedwigaeth ym Mangor nag ar unrhyw adeg ers y 1990au.
Ychwanegodd Yr Athro Nia Whiteley, Pennaeth yr Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol:
Mae’r gydnabyddiaeth hon yn talu teyrnged i’r ffaith fod yma gymuned fywiog o fyfyrwyr a staff, a nhw, ynghyd â’r arbenigedd sydd gennym, sy’n gwneud Bangor yn lle mor ysbrydoledig i astudio coedwigaeth, cadwraeth a rheoli tir.
Addysgu ac ymchwil o'r radd flaenaf
Mae myfyrwyr yr Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol yn elwa o waith maes ymarferol yn un o’r tirweddau mwyaf amrywiol y Deyrnas Unedig, sy’n amrywio o ecosystemau arfordirol i goedwigoedd ucheldirol. Mae ymchwil i cynaliadwy ym Mangor yn cael ei gydnabod yn rhyngwladol am lywio polisi a rhoi arweiniad i atebion ymarferol, sy’n cael eu datblygu mewn partneriaeth â llywodraeth, diwydiant a sefydliadau cadwraeth. Mae'r cryfderau hyn yn cael eu dwyn ynghyd trwy feysydd ymchwil rhyngddisgyblaethol Prifysgol Bangor, gan gynnwys Cadwraeth ac Adfer Ecosystemau Gwydn – sy'n tynnu ar arbenigedd o feysydd ecoleg, eigioneg, synhwyro o bell, polisi ac economeg i fynd i'r afael â heriau o feysydd amaethgoedwigaeth ac adfer cynefinoedd i feysydd cadwraeth ecwitïol – a Cynhyrchu Bwyd Cynaliadwy, sy'n canolbwyntio ar wella cynaliadwyedd systemau amaethyddol, systemau amaethgoedwigaeth, systemau pysgodfeydd a systemau dyframaethu trwy gynhyrchu mewn modd sy'n effeithlon o ran adnoddau a thrwy’r cadwynau cyflenwi.
Mae myfyrwyr yn elwa o’r ymchwil o'r radd flaenaf hon yn uniongyrchol, gan ein bod yn defnyddio'r canfyddiadau a'r methodolegau diweddaraf yn eu gwaith cwrs, gan sicrhau bod graddedigion wybodaeth gyfredol ac arbenigedd perthnasol i'r diwydiant. Mae gan Brifysgol Bangor hefyd ei fferm ymchwil ei hun, Canolfan Ymchwil Henfaes, sydd yn aml yn ganolbwynt i weithgarwch. Dywedodd Rheolwr Henfaes ac Athro Amaethyddiaeth ac Amgylchedd, Prysor Williams:
Mae Henfaes yn cynnig cyfleoedd heb eu hail i fyfyrwyr ac ymchwilwyr astudio amgylcheddau cyferbyniol o lefel y môr i rai o’r tiroedd uchaf yng Nghymru, gyda phriddoedd, cynefinoedd, hinsawdd a rheolaeth amrywiol. Mae gennym lu o dreialon ac arbrofion arloesol sy’n cynhyrchu allbynnau ymchwil gwych ond sydd hefyd yn ysbrydoliaeth ar gyfer ein hymweliadau myfyrwyr.
Dywedodd Dr Leejiah Dorward, cyfarwyddwr y cwrs Cadwraeth Amgylcheddol, a gyfrannodd at y rhestr:
Fel y brifysgol orau yn y Deyrnas Unedig am Amaethyddiaeth a Choedwigaeth, bydd Prifysgol Bangor yn parhau i arwain y ffordd ym maes rheolaeth tir cynaliadwy a gwyddor cadwraeth.
Dysgwch fwy am astudio ym Mhrifysgol Bangor:
Israddedig
Ôl-raddedig
- Amaethgoedwigaeth a Diogelu'r Cyflenwad Bwyd
- Cadwraeth a Rheoli Tir
- Coedwigaeth Amgylcheddol
- Coedwigaeth Drofannol
- Cadwraeth Bywyd Gwyllt