Mewn oes o alw digynsail am adfer ecosystemau, mae cenhedlaeth newydd o arweinwyr cadwraeth wedi dechrau ar eu siwrnai. Ym mis Medi eleni, ymunodd Prifysgol Bangor â thri sefydliad partner i groesawu carfan gyntaf y Rhaglen Meistr ar y Cyd Erasmus Mundus GLOBE.
Wrth i gytundebau rhyngwladol osod targedau uchelgeisiol i adfer ecosystemau ac i ddiogelu bioamrywiaeth, mae’r galw am weithwyr proffesiynol a all bontio ecoleg sylfaenol â rheolaeth cadwraeth ymarferol yn uwch nag erioed. Mae GLOBE (Ecoleg Newid Byd-eang a Rheoli Bioamrywiaeth) yn rhaglen meistr dwy flynedd sydd wedi'i chynllunio i ddatblygu arbenigwyr y dyfodol a fydd yn hyrwyddo ecoleg newid byd-eang a chadwraeth bioamrywiaeth trwy gydweithrediad rhyngwladol. Nodwedd neilltuol GLOBE yw, yn hytrach nag aros mewn un sefydliad, bod myfyrwyr yn astudio ar draws pedair prifysgol bartner, gan symud rhwng Sbaen, y Deyrnas Unedig, Portiwgal a Mecsico, gan ennill safbwyntiau amrywiol ar heriau ac atebion cadwraeth.
Wythnos Groeso ym Madrid
Ym mis Medi eleni, dechreuodd y garfan gyntaf o 25 o fyfyrwyr o wledydd yn cwmpasu America, Ewrop, Asia ac Affrica eu taith ddwy flynedd gydag wythnos groeso ym Mhrifysgol Rey Juan Carlos (URJC) ym Madrid. Roedd yr wythnos yn cynnig blas cyntaf i fyfyrwyr ar y cydweithio rhyngwladol sy'n diffinio GLOBE. Cawsant gyfarfod â chydlynwyr o bob prifysgol bartner - URJC, Prifysgol Bangor, Universidad Autonoma de Tlaxcala ym Mecsico, a Phrifysgol Lisbon ym Mhortiwgal - a fydd yn eu tywys trwy eu semestrau nesaf wrth iddynt symud rhwng sefydliadau.
Roedd uchafbwyntiau'r wythnos groeso yn cynnwys archwilio campws URJC, rhannu prydau bwyd Sbaenaidd traddodiadol gyda darlithwyr, a thaith i Parque Nacional de la Sierra de Guadarrama, lle aeth myfyrwyr ar daith gerdded i Lagŵn Peñalara.
Adeiladu dyfodol cadwraeth
Dywedodd Dr Farnon Ellwood, Uwch Ddarlithydd mewn Ecoleg a Chadwraeth ym Mhrifysgol Bangor
“Mae ein carfan gyntaf yn cynrychioli dyfodol cadwraeth. Byddant yn arwain projectau adfer ecosystemau, yn llunio polisi cadwraeth, ac yn hyrwyddo gwyddor cadwraeth. Rydym yn rhoi'r offer iddynt i wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Mae GLOBE yn fwy na rhaglen meistr - mae'n adeiladu rhwydwaith byd-eang o arweinwyr cadwraeth. Bydd y cyfeillgarwch a'r cydweithrediadau a ddechreuodd yn ystod yr wythnos groeso yn para drwy gydol eu gyrfaoedd ac yn cynyddu eu heffaith."
Dull byd-eang o addysg cadwraeth
Bydd myfyrwyr yn parhau â'u semester cyntaf yn URJC ym Madrid, gan ddatblygu dealltwriaeth uwch o ysgogwyr newid byd-eang a'u heffeithiau ecolegol, wrth dderbyn hyfforddiant mewn dylunio arbrofol, dadansoddi data, ysgrifennu gwyddonol, cyfathrebu, arweinyddiaeth a datrys problemau.
Yn eu hail semester, a drefnwyd ar gyfer gwanwyn 2026, bydd y garfan yn cyrraedd Prifysgol Bangor, sef un o brif ganolfannau ymchwil cadwraeth y Deyrnas Unedig. Mae'r cwricwlwm yn tynnu ar arbenigedd sylweddol Prifysgol Bangor mewn cadwraeth, rheoli tir ac ecoleg, gan fanteisio ar ein cryfderau ymchwil mewn adfer ecosystemau morol a thirol, cadwraeth bywyd gwyllt, a rheolaeth amgylcheddol ar sail tystiolaeth. Bydd y garfan yn astudio ochr yn ochr â Rhaglen Meistr Cadwraeth Bywyd Gwyllt Prifysgol Bangor, gan atgyfnerthu eu gwybodaeth trwy brofiad ymarferol sy'n cyfuno gwyddorau naturiol, cymdeithasol a chymhwysol.
Ar ôl Prifysgol Bangor, bydd myfyrwyr yn symud i Brifysgol Lisbon ar gyfer eu trydydd semester, gan ganolbwyntio ar gymhwyso ymarferol trwy reoli systemau cymdeithasol-ecolegol ac atebion cynaliadwy. Mae'r cwricwlwm yn cwmpasu cynaliadwyedd, llywodraethu amgylcheddol, bioeconomi ac asesiad amgylcheddol. Bydd ysgol haf yn Universidad Autonoma de Tlaxcala ym Mecsico yn integreiddio gwaith maes mewn ecosystemau hynod amrywiol.
Yn eu semester olaf, bydd myfyrwyr yn cwblhau traethawd ymchwil meistr mewn sefydliad partner o'u dewis, gan gynnal ymchwil annibynnol o dan arweiniad arbenigol rhyngwladol.
Mynd i'r afael ag anghenion byd-eang brys
Bydd gan raddedigion GLOBE sgiliau uwch mewn dadansoddi a modelu ystadegol, arbenigedd ymarferol mewn technegau cadwraeth bywyd gwyllt a geneteg cadwraeth, a mewnwelediadau i gynaliadwyedd ecolegol, llywodraethu amgylcheddol, a'r bioeconomi. Yn hollbwysig, byddant yn hyfedr wrth gyfleu cysyniadau ecolegol cymhleth i gynulleidfaoedd amrywiol - o lunwyr polisi i gymunedau lleol.
Dywedodd yr Athro Nia Whiteley, Pennaeth yr Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol ym Mhrifysgol Bangor:
"Nid yw'r galw am weithwyr proffesiynol cadwraeth erioed wedi bod yn uwch, ond mae cyflogwyr yn galw am bobl a all weithio'n rhyngwladol, pontio bydoedd gwyddonol a pholisi, a throsi cysyniadau ecolegol cymhleth ar gyfer cynulleidfaoedd amrywiol." Dyna'n union beth mae GLOBE yn ei gyflawni ac mae’r Ysgol yn edrych ymlaen at fod yn rhan o'r bartneriaeth hyfforddi ryngwladol hon'.
Rhagoriaeth a hygyrchedd
Bydd hyd at 80% o fyfyrwyr ar draws pedwar rhifyn arfaethedig y rhaglen yn derbyn ysgoloriaethau Erasmus Mundus sy'n talu costau ymrestru llawn ynghyd â lwfansau misol o €1,400 drwy gydol y rhaglen 24 mis. Bydd graddedigion llwyddiannus yn derbyn sawl gradd meistr gan y sefydliadau partner.
Edrych ymlaen
Mae ceisiadau ar gyfer ail garfan GLOBE, a fydd yn dechrau yn hydref 2026, wedi agor ar 29 Medi 2025 ac yn cau ar 5 Ionawr 2026. Mae'r rhaglen yn croesawu ymgeiswyr o gefndiroedd disgyblaethol amrywiol – gan gynnwys bioleg, gwyddorau’r amgylchedd, coedwigaeth, daearyddiaeth, adnoddau naturiol, gwyddorau gwleidyddol, economeg a chyfraith amgylcheddol.
Mae’r Athro Oliver Turnbull, Is-brofost (Ymgysylltu Byd-eang) ym Mhrifysgol Bangor, yn tynnu sylw at bŵer cydweithio rhyngwladol: “Mae’r rhaglen hon yn enghraifft wych o’r ffordd y gall cydweithio rhwng prifysgolion ledled y byd gynnig profiad anhygoel i fyfyrwyr, a gobeithio newid y byd hefyd?” Mae'n bleser gweld hyn yn gweithio mor dda!"
I weld rhagor o wybodaeth am raglen Meistr ar y Cyd Erasmus Mundus GLOBE, gan gynnwys manylion ymgeisio a chyfleoedd ysgoloriaeth, ewch i globe-master.eu neu cysylltwch ag Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol Prifysgol Bangor.