Pwrpas y modiwl yw creu llwybr i fyfyrwyr ail a thrydedd flwyddyn sy’n ysgrifennu ar gyfer y sgrin i gysylltu’n uniongyrchol â’r diwydiant teledu. Mae’r modiwl, sydd ar gael trwy’r Gymraeg a’r Saesneg, yn tywys myfyrwyr trwy’r broses o greu sgript broffesiynol, gyda mentoriaid o gwmnïau fel Rondo, Channel X (Detectorists, So Awkward), Lime Pictures (Hollyoaks), Severn Screen (Craith/Hidden, Ar y Ffin), ac awduron fel Ciron Gruffydd (Bariau, Rownd a Rownd) a Hannah Daniel (Ar y Ffin/Mudtown).
Ciron Gruffydd, Cynhyrchydd Datblygu gyda Rondo Media fydd yn arwain y myfyrwyr Cymraeg tan fis Ionawr ar sut i ysgrifennu ar gyfer y teledu. “Mae’n fraint cydweithio â Phrifysgol Bangor er mwyn cefnogi’r genhedlaeth nesaf o awduron sgrin yng Nghymru.
“Drwy roi cyfle i fyfyrwyr ysgrifennu penodau newydd sbon o gyfresi poblogaidd fel ‘Rownd a Rownd’ a ‘Bariau’, yn ogystal â chefnogi myfyrwyr sy’n gweithio ar ddeunydd gwreiddiol, rydyn ni’n gallu pontio’r bwlch rhwng y byd addysg a phrofiadau gwaith go iawn yn y diwydiant ehangach, ac mae Rondo Media yn falch o chwarae rhan yn hynny.
“A gan y bydd tîm cynhyrchu Rownd a Rownd yn darllen eu gwaith ar y diwedd, gobeithio y bydd rhai yn mynd ymlaen i lunio'r straeon y bydd gwylwyr yn eu gweld ar y sgrin yn y blynyddoedd i ddod.”
Dafydd Palfrey, sy’n arwain ac yn darlithio’r cwrs sgriptio, mae Dafydd ei hun yn sgriptiwr, cynhyrchydd a chyfarwyddwr profiadol ac wedi ennill nifer o wobrau, meddai: “Mae’n bwysig iawn bod myfyrwyr yn dysgu pwysigrwydd cydweithio a derbyn adborth fel rhan annatod o’r broses ysgrifennu – a bod ganddynt rywbeth cadarn i’w ddangos i asiantau a chwmnïau cynhyrchu yn y maes. Mae’n gyfle gwych i greu darnau portffolio o safon uchel a chreu cysylltiadau go iawn ym myd teledu a ffilm.”
Dywedodd Ruth McElroy, Pennaeth yr Ysgol Iaith, Diwylliant a'r Celfyddydau: “Ein nod ym Mangor yw creu cyfleoedd creadigol unigryw i gyfoethogi addysg ein myfyrwyr Dyma gyfle euraidd i ddatblygu sgiliau ysgrifennu professiynol a hynny o gymorth sylweddol wrth droedio'r llwybr at yrfa greadigol. Rydym yn ddiolchgar dros ben i am ein partneriaeth gyda Rondo a Ciron Gruffydd."
Dw i'n ddiolchgar iawn am y cyfle unigryw hwn i ddatblygu fy sgiliau ysgrifennu creadigol, credaf y bydd yn fuddiol iawn ar gyfer fy ngyrfa yn y dyfodol.
Fel myfyriwr Cymraeg efo Newyddiaduraeth yn y drydedd flwyddyn, mae’n gyfle cyfoethog iawn i allu cydweithio gyda’r ysgrifennwr lleol talentog Ciron Gruffydd o Rondo Media ar gyfer aseiniad modiwl ysgrifennu i’r sgrin gyda Dafydd Palfrey.
Mae’n fraint cael cydweithio gyda’r ysgrifennwr Cymraeg lleol hefyd, ac i gael cymorth a chefnogaeth ar hyd y daith. Dwi’n edrych ymlaen yn fawr at ysgrifennu pennod o Rownd a Rownd fel pennod ddilynol, gyda chefnogaeth y ddau. Diolch yn fawr iawn i’r adran am y cyfle.
Mae gen i ddiddordeb yn y maes sgriptio, ac roedd cael sgwrs gyda Ciron Gruffydd yn brofiad gwych, nid yn unig ar gyfer fy ngwaith cwrs yn y brifysgol ond hefyd ar gyfer fy llwybr i'r diwydiant teledu.