Mae Coleg Treftadaeth Bangor yn fenter addysg gymunedol sy’n cael ei arwain gan Brifysgol Bangor a Chyngor Dinas Bangor. Mae'n cynnig cyfle i blant a thrigolion Bangor archwilio hanes, treftadaeth ac amgylchedd Bangor trwy weithgareddau modiwlaidd. Gall cyfranogwyr ennill credydau a thystysgrifau wrth iddynt symud ymlaen, gyda seremoni raddio ar ddiwedd y flwyddyn ar ôl cwblhau.
Arweinir y fenter gan Brifysgol Bangor gyda chyllid gan Gyngor Dinas Bangor a chefnogaeth gan bartneriaid allanol, ac mae'n cyfuno dysgu ar-lein ag archwilio go iawn, gan annog disgyblion i ddarganfod straeon, tirnodau a phobl leol. Trwy gymryd rhan yn y modiwlau, cefnogir disgyblion i ddysgu gyda ffrindiau, aelodau o'u teulu a'u cymuned ehangach, gan gryfhau eu hymdeimlad o berthyn a'u cysylltiad â'r ddinas.
Daeth dros ddeg ar hugain o ddisgyblion o saith ysgol yn ardal Bangor i’r digwyddiad lansio, a gynhaliwyd yn Neuadd Powis, un o neuaddau hanesyddol y brifysgol. Rhoddodd Dr Martin Hanks, Cyfarwyddwr y Ddinas, a'r Cynghorydd Medwyn Hughes, Maer Bangor, y croeso swyddogol, cyn i arweinwyr y project, Nia Young, Uwch Ddarlithydd Addysg a Chwnsela ym Mhrifysgol Bangor, a Mervyn Jones, a ddatblygodd Goleg Treftadaeth Cybi gyda Phartneriaethau Tirwedd Ynys Sanctaidd, gyflwyno'r rhaglen i'r disgyblion.
Fel rhan o'r lansiad, cafodd y disgyblion daith dywys o amgylch Prif Adeilad y Celfyddydau ym Mhrifysgol Bangor gyda Dr Leona Huey, Darlithydd Treftadaeth, a chawsant gyfle i rannu syniadau i ddatblygu'r project i annog hyd yn oed mwy o bobl ifanc i gymryd rhan. Bydd tîm y coleg treftadaeth yn ymweld ag ysgolion lleol yn y flwyddyn newydd i barhau â'r sgyrsiau hyn a chefnogi disgyblion wrth iddynt ddechrau gweithio trwy'r modiwlau.
Mae'r fenter yn adeiladu ar lwyddiant Partneriaeth Tirwedd Ynys Sanctaidd, a lansiwyd yng Nghaergybi yn 2016, sydd wedi cryfhau stiwardiaeth amgylcheddol, adfer safleoedd hanesyddol, a chodi ymwybyddiaeth o dreftadaeth leol. Nod Coleg Treftadaeth Bangor yw ysbrydoli'r un ymdeimlad o berchnogaeth a balchder cymunedol ymhlith trigolion Bangor.
Meddai Nia Young, uwch-ddarlithydd mewn addysg a chwnsela ym Mhrifysgol Bangor: “Rydym yn falch iawn o lansio Coleg Treftadaeth Bangor. Roedd project Caergybi yn gymaint o ysbrydoliaeth ac rydym yn falch dros ben o ddod â'r cysyniad i Fangor, yn enwedig gan fod y ddinas yn dathlu 1,500 o flynyddoedd ers ei sefydlu eleni.
Rydym yn edrych ymlaen at weithio gydag ysgolion ym Mangor i gefnogi plant i ddysgu am eu treftadaeth leol dros y misoedd nesaf. Diolch arbennig i Mervyn Jones am baratoi'r modiwlau dysgu, sy'n gyfraniad amhrisiadwy at gysylltu disgyblion ysgolion lleol â hanes a threftadaeth gyfoethog Bangor."
Meddai Dr Martin Hanks, Cyfarwyddwr Dinas Bangor; “Fel dinas hynaf Cymru, mae gan Fangor hanes cyfoethog, a bydd y project hwn yn cynyddu’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth am y ddinas ymhlith disgyblion ysgolion lleol. O dirnodau ac adeiladau nodedig i unigolion dylanwadol a cherrig milltir pwysig, bydd y coleg treftadaeth yn sicr o ysbrydoli disgyblion ysgol i ddysgu mwy am orffennol Bangor.
“Mae’r project yn ychwanegu at y dathliadau i nodi 1,500 o flynyddoedd ers sefydlu Bangor eleni, gan ychwanegu at Ŵyl Hanes Bangor a digwyddiadau eraill a gynhaliwyd yn 2025. Edrychwn ymlaen at weithio gyda'n partneriaid a gweld disgyblion yn graddio ar ôl eu gwaith caled.”
Mae rhagor o wybodaeth am Goleg Treftadaeth Bangor ar gael wrth glicio'r ddolen.