Mae'r tîm Ystadegau yn cyfrannu at bob cam o'r broses treial clinigol. Mae nhw'n gweithio gyda'r Prif Ymchwilydd a chydweithwyr ymchwil i ddatblygu'r cwestiwn ymchwil, cyfrifo'r maint sampl sydd ei angen, datblygu dyluniad astudiaeth gadarn, a phenderfynu ar fesurau canlyniadau priodol. Mae ganddynt fewnbwn pwysig i ddogfennaeth treial allweddol, gan gynnwys y protocol, cynlluniau dadansoddi ystadegol a ffurflenni adroddiad achos, a hefyd cefnogaeth gyda lledaenu canlyniadau treial.

Mae'r tîm Rheoli Uned yn cyd-drefnu'r rhedeg yr UTC NWORTH. Mae'r tîm yn goruchwylio rheolaeth weithredol, ariannol ac adnoddau dynol yr UTC, yn ogystal â llywodraethu, trefniadau cytundebol a nawdd. Mae nhw'n sicrhau bod yr uned yn gweithredu'n effeithlon ac i'r safonau uchaf.

Mae'r tîm Rheolaeth Treialon yn rheoli'r gwaith dyddiol o gynnal y treialon clinigol a reolir gan NWORTH, gan gynnwys rheoli a gweinyddu treialon, rheoli data, gwyliadwriaeth ffarma a rheoli ansawdd. Mae nhw'n gweithio'n agos gyda'r Prif Ymchwilydd, y Noddwr, y safleoedd a staff y UTC i sicrhau bod y protocol yn cael ei ddilyn a bod y treial yn cael ei gyflawni ar amser ac i targed.

Mae'r tîm gwybodaeth yn darparu systemau cyfrifiadurol dilys o ansawdd uchel, sy'n ein galluogi i gasglu a glanhau data o wahanol ffynonellau. Mae'r tîm hefyd yn gweithio'n agos gyda thimau treial i gefnogi mynediad ffurflenni adrodd achos, hap a cheisiadau treial-benodol eraill. Mae nhw'n dylunio ac yn profi systemau treial mewn cydweithrediad â defnyddwyr, er mwyn sicrhau bod eu hanghenion yn cael eu diwallu.

Mae'r tîm Sicrwydd Ansawdd yn darparu cyngor arbenigol i staff NWORTH a thimau treialon, er mwyn sicrhau bod pob treial yn cael ei gynnal yn unol â rheoliadau, polisïau a chanllawiau perthnasol wrth gynnal System Rheoli Ansawdd gadarn UTC NWORTH.

Strwythur Tîm NWORTH
Mae staff NWORTH wedi'u trefnu yn ôl grŵp swyddogaethol: Gweithrediadau a Gweinyddu, Ystadegau, Rheolaeth Treialon, Systemau Gwybodaeth, a Sicrwydd Ansawdd. Mae aelodau'r tîm yn gweithio'n agos â'i gilydd ar draws y pum grŵp, i ddarparu cefnogaeth amlddisgyblaethol gydlynol.
Mae NWORTH yn rhan o'r Ysgol Feddygaeth Gogledd Cymru, yn y Coleg Meddygaeth ac Iechyd.