Am gefnogaeth lles a iechyd meddwl, gallwch gysylltu â'n Rhaglen Cymorth Myfyrwyr allanol 24/7.
Cymorth Bywyd Cartref
Os ydych chi’n cael trafferth cydbwyso eich cyllidebau, dyledion, neu anghydfodau sifil, mae gennym ni gynghorwyr arbenigol yma i gynnig y cymorth sydd ei hangen arnoch chi.
Adnoddau Lles
Rydym yn cydnabod gwerth offer hunangymorth, a dyna pam rydym yn darparu ystod o fodiwlau lles, taflenni ffeithiau, a chwnsela fideo gwerthfawr. (Bydd angen asesiad clinigol, i helpu i gefnogi disgwyliadau.)
Calendr Iechyd
Mae’r calendr iechyd yn codi ymwybyddiaeth o wahanol bryderon iechyd bob mis, diwrnodau ymwybyddiaeth, a sut i atal problemau rhag codi.
Cymorth Bywyd Myfyrwyr
Mae ein cyngor bywyd-gwaith wedi’i neilltuo i’ch cefnogi trwy faterion proffesiynol, boed yn dychwelyd i’r gwaith neu ymdopi â newid.
Cynlluniau Iechyd 4 Wythnos
Mae ein cynlluniau 4 wythnos wedi’u cynllunio i gefnogi eich nodau iechyd, boed hynny’n bwyta’n fwy iach, rhoi’r gorau i ysmygu, cysgu’n well, neu ymdopi â phwysau.
Gweminarau Lles
Mae ein gweminarau yn darparu gwybodaeth amserol a hyfforddiant i arwain ac addysgu ar amrywiaeth o faterion iechyd meddwl.
Iechyd Corfforol Ac Emosiynol
Mae gennym ystod o adnoddau sydd wedi’u hanelu at eich cefnogi’n gorfforol ac yn emosiynol, o reoli pryder i dechnegau anadlu syml.
Gwiriadau Byr Ar Dy Iechyd
Sut wyt ti’n teimlo heddiw? Cymerwch funud i wirio gyda ti dy hun drwy ddefnyddio’r gwiriadau iechyd i asesu a chefnogi dy iechyd a’th les meddyliol.
Mae llinell gymorth Health Assured yn wasanaeth ar wahân a gynigir i Brifysgol Bangor. Mae Health Assured yn darparu gwasanaeth cyfrinachol ac ni chaiff y wybodaeth a drafodwch gyda gweithwyr cefnogi ar y llinell gymorth ei darparu fel mater o drefn i'r darparwr oni bai yr ystyrir bod eich iechyd, eich llesiant neu eich lles mewn perygl uniongyrchol. Dan yr amgylchiadau hyn ac os bydd y gweithiwr cefnogi’n meddwl bod angen cymorth ychwanegol arnoch, bydd yn gofyn am ganiatâd gennych i rannu eich enw a'ch gwybodaeth gyda Thîm Diogelu Prifysgol Bangor fel y gallant roi cefnogaeth bellach i chi. Dan rhai amgylchiadau os na fyddwch yn gallu rhoi caniatâd neu os byddwch yn gwrthod rhoi caniatâd, gall Health Assured benderfynu rhannu gwybodaeth berthnasol gyda'r darparwr os oes angen amddiffyn eich buddiannau hanfodol chi neu fuddiannau hanfodol rhywun arall. Mae'r dull hwn yn gyson â Chynllun Diogelu a Pholisi Diogelu Plant y darparwr.