Mae ymchwil mewn swoleg Ysgol Gwyddorau Naturiol yn rhychwantu amrywiaeth eang o bynciau a systemau biolegol. Rydym yn defnyddio technegau labordy a thechnegau maes i astudio pynciau megis sail foleciwlaidd rhythmau circadaidd, rheolaeth hormonaidd ecdysis mewn anifeiliaid cramennog, egnïeg a biomecaneg symudiadau anifeiliaid, ymddygiad anifeiliaid ac ecoleg, llywio ac ymfudo, ffisioleg atgenhedlu, personoliaeth anifeiliaid ac ymddygiad cymdeithasol. Yn ogystal â gofyn cwestiynau sylfaenol ynglŷn â pham a sut mae anifeiliaid yn gwneud yr hyn maent yn ei wneud, rydym hefyd yn gweithio ar gwestiynau cymhwysol megis effeithiau aflonyddwch anthropogenig ar anifeiliaid, er enghraifft ymatebion metabolaidd a ffisiolegol i newid amgylcheddol mewn organebau morol, effaith ecodwristiaeth a newid cynefin ar straen ac atgenhedlu mewn primatiaid, ac effaith sŵn ar signalu anifeiliaid ac ymddygiad llywio.
It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?